Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwersi o Fandiau 'Loom', Rhan 1

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried ehangder cariad Duw tuag atom ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen band elastig mawr iawn, a rhai bandiau bach lliwgar gaiff eu defnyddio i wneud bandiau gwydd neu fandiau ‘loom’ (loom bands) lliwgar.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y band elastig mawr.

    Gofynnwch i’r plant gynnig awgrymiadau ynghylch pa bwrpas y byddech chi’n defnyddio band elastig fel hwn.

    Sgwrsiwch am yr arfer cyffredinol i ddefnyddio bandiau elastig i ddal pethau gyda’i gilydd.

  2. Pan oedd Iesu’n byw ar y ddaear, fe fyddai’n hoffi defnyddio pethau cyffredin y byddai pobl yn eu defnyddio o ddydd i ddydd er mwyn dysgu gwirioneddau am Dduw iddyn nhw.

    – Wrth gerdded trwy gaeau yd, fe ddysgodd ei dilynwyr sut roedd un hedyn bach yn gallu cynhyrchu cynhaeaf da. Fe siaradodd â’r bobl am yr hyn y gallen nhw ei wneud gyda dim ond ychydig bach o ffydd. Fe soniodd am y chwyn oedd yn tyfu ymysg y coesynnau yd gan egluro sut mae gweithredoedd drwg yn debyg i chwyn sy’n gallu tyfu yn ein bywyd ninnau a’n difetha ni.
    – Wrth wylio adar y to, neu arogli blodau lili hardd, fe ddysgodd ei ddilynwyr beidio â phoeni am eu bywyd. Os yw Duw’n gallu gofalu am ei greadigaeth hardd, yna fe fyddai, wrth gwrs, yn gofalu amdanyn nhw hefyd.

  3. Tybed beth fyddai Iesu wedi ei ddysgu i ni am y band elastig hwn?

    Dangoswch y band elastig mawr.

    Mae’r band elastig hwn fel cariad Duw.

    - Mae band elastig yn gylch cyflawn. Mae’n ddiddiwedd, fel cylch. Mae’n mynd ymlaen ac ymlaen. Fe adroddodd Iesu lawer o storïau am ba mor ddiddiwedd yw cariad Duw tuag atom.
    - (Gofynnwch i rai o’r plant ymestyn y band elastig i bob cyfeiriad - yn ofalus - (gwyliwch rhag iddo dorri neu neidio o’u gafael!)  Mae cariad Duw yn uwch, ac yn ddyfnach, ac yn lletach nag y gallwn ni byth ei ddychmygu. Mae cariad Duw yn ymestyn pan fyddwn ni ei angen fwyaf. Dyna sut mae cymaint o bobl yn cael y math o nerth, na fydden nhw’n disgwyl a fyddai ganddyn nhw, wrth iddyn nhw wynebu adegau anodd. Neu’n cael tangnefedd, na fydden nhw’n disgwyl ei gael, wrth iddyn nhw wynebu poen a dioddefaint. Neu lawenydd a gobaith, na fydden nhw byth wedi disgwyl ei brofi, wrth iddyn nhw wynebu camgymeriadau neu fethiannau.

  4. Dangoswch y bandiau elastig bach.
    Mae’r bandiau ‘loom’ bach hyn efallai’n debycach i’n cariad ni. Yn sicr, maen nhw’n llawer llai, ond mae’r bandiau bach hyn wedi eu gwneud o’r un deunydd. Felly, mae’n bosib eu hymestyn nhw, hefyd.(Dangoswch fel mae’r bandiau hyn yn gallu ymestyn rhywfaint hefyd.)

    Felly  mae’n bosib i’n cariad ninnau ymestyn.

    Fe allwn ni ofyn i Dduw ein llenwi â rhagor o’i gariad ef.

    Fe allwn ni ymuno gyda’n ffrindiau a gwau band hyfryd gyda’r cariad sydd gennym trwy gydweithio â’n gilydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment neu ddwy bod eich cariad yn debyg i fand elastig bach fel y rhai a ddefnyddiwn i wneud y bandiau lliwgar.

Dychmygwch y band bach yn cael ei ymestyn gyda help Duw. Pwy ydych chi angen ei garu heddiw gyda’r cariad hwn sydd wedi ei ymestyn?

Cariad pa ffrindiau y gallwch chi eu huno â’ch cariad chi er mwyn bod hyd yn oed yn gryfach?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am y cariad mawr sydd gen ti bob amser i ni.
Diolch y bydd dy gariad di bob amser yn ddigon ar gyfer unrhyw beth y gallen ni orfod ei wynebu yn ein bywyd.
Ymestyn y cariad yn ein calon fel y gallwn ni fod yn ofalgar tuag at y rhai o’n cwmpas.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon