Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwersi o Fandiau 'Loom', Rhan 2

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cydnabod ein bod wedi cael ein gwneud i fod yn greadigol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai enghreifftiau o amrywiol freichledau bandiau gwydd neu ‘loom bands’ sydd wedi cael eu gwneud yn barod. Yn ddelfrydol, cyn y gwasanaeth, fe allech chi roi’r un faint o fandiau, o’r un math o liwiau, i nifer o blant a gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth gwahanol gyda’r rhain. Rydych yn gobeithio bydd eu creadigaethau’n dangos amrywiaeth o wahanol batrymau a chynlluniau.
  • Ail ddarllenwch destun y gwasanaeth ‘Gwersi o Fandiau ‘Loom’ , Rhan 1’, os byddwch yn adolygu yng Ngham 1 y gwasanaeth hwn (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Adolygwch y themâu a drafodwyd yn y Gwasanaeth ‘Gwersi o Fandiau ‘Loom’ Rhan 1’, os byddwch wedi ei ddefnyddio, sef:

    – bod cariad enfawr Duw tuag atom yn ddiddiwedd
    – ac fe all ein cariad ninnau dyfu i fod yn debycach i gariad Duw.

  2. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni fod Duw’n greawdwr. Mewn ffaith, y ferf gyntaf a welwn yn yr adnod gyntaf yn y Beibl yw ‘creodd’, lle mae sôn bod Duw wedi creu'r nefoedd a’r ddaear.

    Yn stori’r creu mae’n dweud bod Duw wedi creu’r Ddaear, yr awyr, y moroedd, anifeiliaid, blodau, a ninnau, fodau dynol.

    Gadewch i ni feddwl am y patrymau a luniodd Duw ar anifeiliaid. Pa anifeiliaid sydd â streipiau, smotiau  . . .?

    Gadewch i ni feddwl am yr holl liwiau a greodd Duw. Sawl arlliw o wyrdd allwch chi feddwl amdanyn nhw, neu allwch chi eu gweld yn yr ystafell hon ar hyn o bryd?

    Gadewch i ni feddwl am yr holl wahanol blant sydd yn y byd. Edrychwch ar yr un sydd ar y llaw dde i chi, yna ar y chwith i chi, y tu ôl i chi wedyn. Oes dau blentyn yn union yr un fath?

  3. Mae’r Beibl yn dweud hefyd ei fod wedi ein gwneud ‘ar ei ddelw ei hun’. Mae hyn yn golygu bod eisiau i ninnau fod yn greadigol hefyd oherwydd ein bod yn debyg i Dduw. Rydyn ni i wedi cael ein gwneud i fod yn dda am wneud pethau.

    Gwiriwch hyn gyda’r plant trwy ofyn y pethau canlynol iddyn nhw.

    Sefwch os ydych chi’n hoffi tynnu lluniau, paentio, dylunio . . .

    Sefwch os ydych chi’n hoffi cerddoriaeth . . .

    Sefwch os ydych chi’n hoffi chwaraeon . . .

    Sefwch os ydych chi’n hoffi adeiladu pethau, coginio, ysgrifennu storïau neu gerddi, neu wneud unrhyw waith llaw . . .

  4. Edrychwch o’ch cwmpas a dathlwch yr holl greadigrwydd a’r doniau y mae’r plant yn eu cydnabod.Fe all y bandiau ‘loom’ gadarnhau hyn i ni.

    Eglurwch eich bod wedi rhoi’r un nifer o fandiau bach o’r un lliwiau i nifer o blant o flaen law, a’ch bod wedi gofyn iddyn nhw ddylunio a chreu rhywbeth eu hunain gyda nhw.

    Dangoswch yr eitemau gorffenedig a’u trafod.

    Sylwch ar yr amrywiaeth o batrymau a chynlluniau.

    Oedd rhywun oedd ddim yn gallu gwneud unrhyw beth â’r bandiau? Na!

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich doniau creadigol. Sut byddech chi’n gallu defnyddio’r rhain i annog pobl eraill heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni ar dy ddelwedd di, ac wedi rhoi dychymyg rhyfeddol a chalonnau a meddyliau prysur i ni.
Diolch am yr holl bleser rydyn ni’n ei gael wrth ddylunio a gwneud pethau, ac wrth ddefnyddio ein doniau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon