Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amynedd - Bywyd William Wilberforce

gan Manon Ceridwen James

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio amynedd fel un o ffrwythau’r ysbryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os bydd hynny’n bosib, chwiliwch am y ffilm Amazing Grace(2006, cyfarwyddwyd gan Michael Apted) a threfnwch fodd o ddangos, yng Ngham 8 y gwasanaeth hwn, glip o’r rhan ar y diwedd, sy’n dangos y mesur diddymu caethwasiaeth yn cael ei basio. Os nad yw hyn yn bosib, darllenwch grynodeb o’r plot fel y gallwch chi ddisgrifio beth sy’n digwydd.
  • Ymgyfarwyddwch â stori bywyd William Wilberforce.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i feddwl am y gair ‘amynedd’ yn y gwasanaeth heddiw. Cysylltwch hyn â’r gwasanaethau blaenorol am ffrwythau’r ysbryd, os gwnaethoch chi eu defnyddio.

    Trafodwch pa mor anodd yw bod ag amynedd. Rydyn ni’n teimlo’n rhwystredig pan fydd angen i ni aros am rywbeth. Sut mae’r plant yn teimlo wythnos cyn eu pen-blwydd, pan fyddan nhw’n methu aros nes cael agor eu hanrhegion? Ydyn nhw wedi clywed eu rhieni neu athrawon yn dweud wrthyn nhw ryw dro bod rhaid iddyn nhw fod yn amyneddgar?

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos clip o’r ffilm Amazing Graceneu’n meddwl am y stori sydd yn y ffilm, fel mae’n briodol.

    Stori yw hon am ymgyrchydd enwog o’r enw William Wilberforce, a dreuliodd ddegawdau’n ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth.

  3. Gofynnwch i’r plant, oedden nhw’n gwybod bod pobl yn y wlad hon, ychydig gannoedd o flynyddoedd yn ôl, yn meddwl ei fod yn iawn mynd i wledydd eraill a dwyn pobl oddi yno i’w gwerthu fel caethweision? Roedd y busnes caethwasiaeth yn fusnes mawr, ac roedd llawer o bobl yn gwneud elw enfawr wrth werthu caethweision. Ond o dipyn i beth, fodd bynnag, fe ddaeth pobl i sylweddoli nad oedd hyn yn beth iawn i’w wneud. Roedd yn beth drwg iawn mewn gwirionedd.

    Fe arweiniodd dyn o’r enw William Wilberforce ymgyrch hir i roi stop ar hyn – roedd arno eisiau diddymu caethwasiaeth. Wrth gwrs, fe wynebodd lawer o wrthwynebiad gan wleidyddion ac yn enwedig y dynion busnes oedd yn ymwneud â hyn.

  4. Mae’r ffilm yn dechrau gyda golygfa o William Wilberforce yn wael iawn, ar ei wyliau yn nhref Bath yn Lloegr, gyda’i gefnder, Henry Thornton. Yno mae’n cwrdd â’r ferch a ddaeth yn wraig iddo’n ddiweddarach, Barbara Spooner. Mae William Wilberforce yn dweud stori ei fywyd wrthi hyd at y pryd hwnnw. Mae’r ffilm yn cymryd golwg yn ôl ar gyfnod 15 mlynedd ynghynt, yn 1782, ac mae William yn ailadrodd y digwyddiadau a’i harweiniodd i’r man lle’r oedd yn awr.

  5. Roedd William Wilberforce yn Aelod Seneddol uchelgeisiol a phoblogaidd, a chafodd ei berswadio gan ei ffrindiau, William Pitt, Thomas Clarkson, Hannah More ac eraill i gyflwyno mesur o flaen y Senedd i wahardd y diwydiant caethwasiaeth. Achosodd hyn iddo fod yn amhoblogaidd iawn yn Nhy’r Cyffredin ymysg yr Aelodau Seneddol a oedd yn cynrychioli dinasoedd a oedd yn gwneud llawer iawn o arian o’r busnes gwerthu caethweision - yn enwedig Llundain, Bryste a Lerpwl.

    Rydym yn dysgu yn y ffilm bod ei ymdrech fawr i roi terfyn ar gaethwasiaeth wedi arwain at flinder difrifol ac achosi rhwystredigaeth fawr iddo, gan nad yw’n llwyddo yn ei ymgyrch, ac nid yw’r mesur yn cael ei basio yn y Senedd. Mae’n mynd yn sâl, yn dioddef problemau gyda’i stumog, ac oherwydd ei fod i bob pwrpas wedi colli gobaith mae’n ystyried rhoi’r gorau i fod yn wleidydd am byth.

  6. Ond, mae Barbara yn ei argyhoeddi i ddal ati i ymgyrchu am ei fod ef yn un o’r ychydig rai a fyddai’n gallu dal ati â’r mater hwn. Ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach fe briododd William a Barbara, ac mae William, gyda chefnogaeth ei wraig newydd, a chyda synnwyr newydd o obaith, yn dal ati â’i ymdrech fawr eto.

  7. Ymhen amser, ar ôl sawl ymgais i ddod â’r ddeddfwriaeth i rym yn ystod 20 mlynedd fe ddaeth yn y pen draw yn gyfrifol am lwyddiant pasio’r mesur trwy’r Senedd yn 1807 a ddiddymodd y fasnach gaethwasiaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig am byth.

  8. Dangoswch y clip o ddiwedd y ffilmAmazing Grace, os byddwch yn ei defnyddio. Mae hwn yn ddiweddglo emosiynol – mae llawenydd mawr a dathlu mawr oherwydd bod yr arferiad drwg hwn wedi dod i ben am byth.

  9. Roedd hon wedi bod yn frwydr hir i William Wilberforce, fodd bynnag, dyn a oedd erbyn hynny’n teimlo’n hollol luddedig a sâl o ganlyniad i’r holl waith caled o gael y mesur trwy’r Senedd. Ond yr oedd yn werth yr holl ymdrech yn y diwedd.

  10. Mae’n rhaid bod gan William Wilberforce lawer iawn o amynedd, ac roedd yn credu’n gryf iawn y byddai’r peth iawn yn digwydd yn y pen draw, er bod hynny wedi cymryd amser hir iawn, iawn. Heddiw, allwn ni ddim dychmygu byw mewn gwlad oedd â’i phobl yn credu ei bod hi’n bosib prynu pobl fel pe bydden nhw’n eiddo i ni neu rywun arall.

Amser i feddwl

Ambell dro fe allwn ni deimlo’n flinedig neu’n drist pan fyddwn ni eisiau i rywbeth ddigwydd a hynny ddim yn digwydd.

Ambell waith, dim ond oherwydd ein bod ni’nmeddwl bod rhywbeth yn anghywir, nid yw hynny’n golygu y bydd pobl eraill yn cytuno â ni, hyd yn oed os byddwn ni’n iawn. Meddyliwch am sefyllfa lle mae grwp o ffrindiau’n bod yn angharedig wrth un ffrind ac mai dim ond chi sy’n cefnogi’r ffrind hwnnw. Weithiau, fe fydd gwneud yr hyn sy’n iawn yn gallu ein gwneud yn amhoblogaidd, ond fe ddylen ni ddal ati a glynu at yr hyn sy’n iawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ysbrydoli pobl fel William Wilberforce, a frwydrodd yn galed am yr hyn a deimlai oedd yn iawn.
Rydyn ni’n gweddïo am bobl yn ein byd ni heddiw sy’n cael eu trin yn wael.
Helpa ni i weld bod arnom ninnau angen amynedd a nerth i ddal ati a glynu at yr hyn sy’n iawn, hyd yn oed os yw hynny’n ein gwneud ni’n amhoblogaidd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon