Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynhaeaf y gallwch chi ddibynnu arno

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ail ddweud dameg yr heuwr, er mwyn dathlu haelioni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai gronynnau yd a choesynnau gwenith (fe allech chi gael rhai mewn siop bwydydd iach, siop anifeiliaid anwes neu siop flodau, efallai). Hefyd, fe fydd arnoch chi angen un daten fach a deg o rai mawr, deg neu ddwsin o godau pys neu ffa rhedeg gyda rhai o’u hadau, ac un marro mawr neu bwmpen (dewisol yw’r eitem hon).
  • Ymgyfarwyddwch â’r ddameg sy’n cael ei hadrodd yng Ngham 1 y gwasanaeth hwn, gan ymarfer y symudiadau a nodir i gyd-fynd â’r ddameg, neu helpu rhai o’r plant i feimio’r stori wrth i chi ei hadrodd. Nodwch fod y frawddeg, ‘30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau’, a symudiadau’r bysedd, yn mynd i fod yn ymadrodd gafaelgar ar gyfer pawb yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y gronynnau yd i’r plant, a’u gwahodd i wrando ar y stori y gwnaeth Iesu ei  hadrodd am haelioni - eglurwch mai ‘rhoi’n hael’ yw ystyr ‘haelioni’.
     
    Dameg yr heuwr 


    Un tro yr oedd dyn a aeth i’w gae i hau. Wedi gafael mewn llond dwrn o’r hadau, fe gerddodd ymlaen gan daflu ei fraich allan a gadael i’r had redeg yn rhydd rhwng ei fysedd. (Meimiwch y weithred o wasgaru’r hadau.)

    Fe syrthiodd peth o’r had ar ymyl y llwybr. (Symudiad gyda’r dwylo’n fflat.)  Fe ddaeth yr adar a bwyta’r hadau. (Cysylltwch eich dau fawd ac ysgwyd eich bysedd fel adenydd aderyn.)

    Fe syrthiodd peth o’r had ar bridd caled creigiog. Fe ddechreuodd y planhigion dyfu. (Codwch eich breichiau a ffurfio canghennau a dail yn chwifio yn y gwynt - arhoswch yn y safle hwn.) Yn anffodus, roedd y tir creigiog yn rhwystro’r gwreiddiau rhag dod o hyd i ddwr. Pan dywynnodd yr haul poeth fe wywodd y planhigyn a marw. (Gwnewch i’ch dwylo grynu a dod â’ch breichiau i lawr at eich ochr yn araf.)

    Fe syrthiodd peth o’r had ymysg drain. (Meimiwch gyffwrdd y drain pigog a thynnu eich llaw yn ôl yn sydyn fel pe byddech chi wedi cael eich pigo.) Fe dyfodd y drain trwchus ochr yn ochr â’r planhigion a’u tagu.

    Fe syrthiodd peth o’r had wedyn ar bridd da, lle tyfodd y planhigion yn ardderchog. (Codwch eich breichiau a’r dwylo’n uchel i feimio’r planhigion yn tyfu.)

    Oddi ar y planhigion hyn fe gafwyd cynhaeaf gwych. Fe amlhaodd y grawn - 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau. (Yn fuddugoliaethus, dangoswch dri, chwech, a deg o fysedd.)

    Efallai y byddwch yn dymuno ailadrodd y stori a’r symudiadau gan annog pawb i ymuno â chi y tro hwn. Yna, dangoswch y coesynnau gwenith i’r plant a’u gwahodd i ystyried beth mae ‘30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau’ yn ei olygu. Mae’n ffordd o ddweud bod un gronyn bach o yd yn gallu cynhyrchu cynhaeaf o lawer iawn o ronynnau.

    Sylwch hefyd bod y stori’n egluro hefyd bod yr heuwr yn hael. Fe weithiodd yn galed, gan hau llawer iawn o had, er ei fod yn gwybod y byddai rhai o’r hadau’n methu ac yn cael eu gwastraffu.  

    Nodwch sut mae haelioni’n cynhyrchu cynhaeaf y gallwn ni ddibynnu arno (dywedwch hyn gyda’ch gilydd a gwneud y symudiadau) 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

  2. Disgrifiwch sut y gallai hyn fod yn wir am ein profiadau ni ein hunain wrth dyfu llysiau. Mae un daten fach (dangoswch y daten fach) yn cael ei rhoi yn y ddaear, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn fe allwch chi godi cymaint â deg efallai o datws o’r ddaear oddi tan y planhigyn tatws. (Cyfrifwch y tatws mawr fesul un, a’u gosod gyda’i gilydd.)

    Yn y cyfamser, mae angen i rywun ddyfrhau’r planhigion wrth iddyn nhw dyfu a thynnu’r chwyn sy’n tyfu o’u cwmpas. Mae hynny’n gallu bod yn waith anodd ac mae gofyn i ni fod yn amyneddgar. Ond mae ein haelioni, a’r amser a roddwn i’r gwaith, yn mynd i roi i ni gynhaeaf y gallwn ni ddibynnu arno (dywedwch hyn gyda’ch gilydd a gwneud y symudiadau) 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

    Soniwch fel mae un hedyn ffa rhedeg neu bysen yn gallu tyfu’n blanhigyn a chynhyrchu llawer o godau. (Dangoswch y codau pys neu’r ffa rhedeg a’u cyfrif fesul un.) Agorwch un goden aeddfed er mwyn dangos y pys sydd y tu mewn. Faint o bys sydd yno?

    Rhaid palu’r tir ac ychwanegu gwrtaith neu gompost ato er mwyn tyfu’r cnydau hyn. Rhaid dyfrhau’r planhigion hyn hefyd. Mae’n waith parhaus, ond mae’r haelioni a’r amser a roddwn yn dod â chynhaeaf y gallwn ni ddibynnu arno (dywedwch hyn gyda’ch gilydd a gwneud y symudiadau) 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

    Dangoswch y marro mawr neu’r bwmpen (os byddwch yn dewis gwneud hynny) a dywedwch, ‘Dyna i chi haelioni!!’ (Yna dywedwch gyda’ch gilydd a gwneud y symudiadau) 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

  3. Soniwch ein bod, ar adeg y cynhaeaf, yn dathlu haelioni byd natur. Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar haelioni a gwaith caled y rhai hynny sy’n tyfu’r cnydau ar ein cyfer. Felly mae’n rhaid i ni ddweud, ‘Diolch’ am gynhaeaf y gallwn ni ddibynnu arno (dywedwch gyda’ch gilydd a gwneud y symudiadau) 30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

Amser i feddwl

Gweddi
Dduw’r Creawdwr,
Diolch i ti am yr hadau sy’n rhoi cynhaeaf i ni
30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!
Rydyn ni’n cofio am y rhai hynny y mae eu gwaith caled yn helpu’r cynhaeaf dyfu.
Gad i ni ddweud ‘Diolch’, nid dim ond un waith, ond
30 gwaith, 60 gwaith, 100 o weithiau!

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon