Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo Sgryffi. Stori Sadrach Mesach ac Abednego

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried y syniad crefyddol bod credu yn Nuw yn ein helpu i fod yn ddewr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi’n barod am eich llaw.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau.
  2. Dechrau mis Tachwedd oedd hi. Am ddyddiau lawer, roedd Sgryffi wedi bod yn gwylio Mr Bryn yn casglu hen ddarnau o bren, dodrefn wedi torri, a hyd yn oed hen fatres. Roedd wedi eu gosod yn domen fawr yng nghanol y cae. Beth oedd o’n ei wneud?

    Gofynnwch i’r plant, ‘Ydych chi’n gwybod?’

    Yna, ar fore Sadwrn, fe redodd Liwsi Jên i’r stabl gan ddweud, ‘Rydw i’n gwneud Guto Ffowc i’w roi ar y goelcerth, Sgryffi, ac mae arna i angen rhywfaint o wellt i stwffio’r hen Guto. Rydyn ni wedi bod yn dysgu am Guto Ffowc yn yr ysgol. Wyt ti’n gwybod beth wnaeth o, Sgryffi?’

    Gofynnwch i’r plant, ‘Ydych chi’n gwybod?’

    ‘Fe geisiodd Guto Ffowch chwythu’r Senedd pan oedd yr holl bobl a oedd yn rheoli’r wlad i mewn yn yr adeilad. Ond, wrth lwc, fe gafodd ei ddal mewn pryd, cyn iddo danio’r ffrwydron a llosgi’r adeilad i’r llawr. Dyna pam rydym ni, ar y 5ed o Dachwedd, yn cynnau coelcerthi ac yn gwneud Guto Ffowc i’w roi ar ben y goelcerth. Mae Mam yn gwneud taffi cartref i ni ei fwyta, ac fe fydd Dad yn tanio’r tân gwyllt. Fyddi di ddim yn hoffi’r tân gwyllt, Sgryffi. Yn enwedig y rhai sy’n clecian. Fe gei di aros yn ddiogel yn y stabl.’

    ‘Hi-ho, hi-ho!’ cytunodd Sgryffi.

    Ydych chi’n hoffi tân gwyllt? Pa rai ydych chi’n eu hoffi orau? Fyddwch chi’n cael rhywbeth arbennig i’w fwyta pan fyddwch chi o gwmpas y goelcerth?

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Dim ond delw wedi ei stwffio yw’r ‘Guto’, neu ddoli glwt enfawr - diolch am hynny - ond mae sawl stori am bobl ddewr a gafodd eu lladd am sefyll yn gadarn dros y gwir. Dyma un y gallwn ni ei darllen yn y Beibl.

    Mae’r stori’n digwydd mewn hen, hen, ddinas o’r enw Babilon, a oedd yn bodoli rai miloedd o flynyddoedd yn ôl. Pe byddech chi’n mynd i’r Amgueddfa Brydeinig, neu’n chwilio ar y rhyngrwyd am luniau, fe allwch chi weld llawer o bethau o’r oes honno sydd wedi dod o ddinas Babilon.

    Roedd gan frenin Babilon ddelw fawr wedi ei gwneud o aur, ac roedd yn gorchymyn i bawb ymgrymu o flaen hon. Ac roedd yn mynnu mai dyma’r unig dduw yr oedden nhw i’w addoli.

    Ond roedd Sadrach, Mesach ac Abednego (dyna i chi enwau da!) yn gwrthod ymgrymu o flaen y ddelw. Roedden nhw’n perthyn i’r ffydd Iddewig ac, er na allen nhw weld Duw, roedden nhw’n gwybod ei fod yn fawr ac yn wych. Ef oedd wedi creu popeth oedd yn bod. Peth gwirion iawn fyddai addoli duw a oedd wedi cael ei greu gan bobl gyffredin!

    Roedd y brenin yn ddig iawn wrthyn nhw, ac fe orchmynnodd i’r tri dyn, sef Sadrach, Mesach ac Abednego, gael eu cosbi a’u taflu i ffwrn o dân poeth, fel cosb. Ond pan edrychodd y brenin i mewn i’r ffwrn dân wedyn, roedd yn methu â chredu’r hyn a welai. ‘Fe wnaethon ni daflu tri dyn i mewn i’r ffwrn. Nawr, rydw i’n gweld pedwar yno. Dewch â’r dynion allan ar unwaith!’

    Safodd Sadrach, Mesach ac Abednego o flaen y brenin. Fe edrychodd y brenin arnyn nhw - i fyny ac i lawr. Roedd y peth yn anhygoel! Doedd y tân poeth yn y ffwrn ddim wedi eu hanafu o gwbl!!

    ‘Fe anfonodd Duw angel i’n hamddiffyn ni’, dywedodd y tri wrth y brenin.
    ‘Mae’n rhaid bod eich Duw’n arbennig iawn’, atebodd y brenin.

    Ar ôl hynny, fe roddodd y brenin orchymyn newydd i’r bobl, sef bod rhaid i bawb addoli Duw Sadrach, Mesach ac Abednego o hynny ymlaen.

Amser i feddwl

Ambell waith, fe fyddwn ni’n gwybod fod pobl, hyd yn oed ein ffrindiau weithiau, yn gofyn i ni wneud rhywbeth sydd ddim yn iawn, ac mae hynny’n gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus.

Allwn ni fod yn ddewr a gwneud yr hyn sy’n iawn, fel y gwnaeth y tri dyn yn y stori?

Gweddi
Dduw, Dad,
Diolch i ti am amddiffyn y tri dyn dewr yn y stori pan wnaethon nhw wrthod gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn.
Helpa ni i fod yn ddewr pan fydd yn rhaid i ninnau sefyll dros yr hyn sy’n iawn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon