Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwersi o Fandiau 'Loom', Rhan 3

Rydyn ni’n gryfach pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried stori Nehemeia a hanes adeiladu muriau Jerwsalem.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhai bandiau ‘loom’ ac enghreifftiau o freichledau lliwgar sydd â phatrwm fel patrwm cynffon pysgodyn (inverted fishtail), sy’n golygu gwau llawer o fandiau gyda’i gilydd.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori Feiblaidd yn Nehemeia, penodau 1–8.

Gwasanaeth

  1. Os gwnaethoch chi ddefnyddio’r gwasanaethau blaenorol – Gwersi o Fandiau Loom, Rhan 1 a Rhan 2, fe allech chi ddechrau’r gwasanaeth hwn trwy adolygu’r themâu y bu’r plant yn meddwl amdanyn nhw mewn perthynas â’r bandiau elastig, ond dewisol yw hyn:

    – bod cariad enfawr Duw tuag atom yn ddiddiwedd
    – fe all ein cariad ni dyfu yn debycach i gariad Duw
    – cawsom ein gwneud i fod yn greadigol.

  2. Tynnwch un o’r bandiau bach nes ei fod yn torri. Nodwch mai dim ond cyn belled y medrwch chi ymestyn un band bach fel hwn cyn iddo dorri, ac fe all fod yn boenus pan fydd hynny’n digwydd!

  3. Yn y Beibl, mae stori am ddyn o’r enw Nehemeia

    Nehemeia a muriau Jerwsalem

    Roedd gan Nehemeia swydd bwysig iawn yng ngwlad Persia (y wlad rydyn ni’n ei galw erbyn hyn yn Irac). Roedd yn gweithio i’r brenin, ond roedd ei galon yn rhywle arall – yn y wlad lle cafodd ei eni, sef Israel, ac yn ninas Jerwsalem yno. Roedd yn caru ei wlad enedigol yn fawr iawn, ac roedd arno hiraeth mawr. Tua 100 mlynedd cyn i Nehemeia gael ei eni roedd rhai o’r bobl wedi dychwelyd i’w gwlad eu hunain ar ôl bod i ffwrdd yn byw ym Mhersia, ac roedden nhw wedi ail-adeiladu’r deml yn Jerwsalem.

    Un diwrnod, fe glywodd Nehemeia nad oedd muriau Jerwsalem wedi cael eu hailadeiladu ar ôl blynyddoedd o ryfela a byddinoedd y gelynion wedi eu chwalu. Felly, roedd llawer o’r bobl yn byw y tu allan i waliau’r ddinas yn hytrach na thu mewn i waliau’r ddinas sanctaidd. Roedd hyn yn golygu bod y bobl wedi colli eu hunaniaeth fel pobl Dduw, ac roedd Nehemeia’n gofidio am hynny.

    Roedd Nehemeia wedi crio pan glywodd am y sefyllfa. Beth allai ef ei wneud? Dim ond dyn cyffredin oedd o, doedd o ddim hyd yn oed yn adeiladydd.

    Yna, pan oedd Nehemeia yng nghwmni brenin Persia ryw ddiwrnod, fe sylwodd y brenin fod golwg ddigalon iawn ar Nehemeia. Fyddai o ddim yn arfer edrych yn drist. Felly, fe ofynnodd y brenin iddo beth oedd yn bod. Fe eglurodd Nehemeia iddo ei fod yn pryderu am y sefyllfa yn Jerwsalem, ac fe ofynnodd y brenin iddo beth hoffai ei wneud. Roedd Nehemia’n ddyn dewr ac fe ofynnodd am gael ei anfon i ailadeiladu Jerwsalem. Rhoddodd y brenin ei fendith ar gynllun Nehemeia i ailadeiladu muriau ei hoff ddinas. Ac fe gychwynnodd Nehemeia ar ei siwrnai hir yn ôl adref.

    Pan gyrhaeddodd yno, fe aeth Nehemeia am dro o gwmpas muriau’r ddinas yn y nos. Fe welodd rwbel a cherrig a giatiau wedi eu llosgi. Roedd yn meddwl y byddai ei galon yn torri.

    Dangoswch yr effaith trwy ymestyn un band elastig bach nes mae’n torri.

    Gadewch i ni ailadeiladu muriau’r ddinas,’ medai wrth y bobl. ‘Alla i ddim gwneud y gwaith ar ben fy hun. Mae angen i ni, bawb ohonom, weithio gyda’n gilydd, ac wedyn rwy’n siwr y byddwn ni’n llwyddo!’

    A dyna’n union beth ddigwyddodd. Cymrodd gwahanol deuluoedd gyfrifoldeb am wahanol rannau o’r muriau. Gweithiodd teulu Hasena yn ymyl dynion o deuluoedd eraill ac o drefi eraill. Roedd yn dasg enfawr. Roedd cymaint o waith atgyweirio, fyddai Nehemeia byth wedi gallu gwneud y cyfan ei hun.

    Ond roedd gelynion o’u cwmpas, a oedd yn gwrthwynebu eu gwaith ac yn awyddus i bethau aros fel yr oedden nhw yn Jerwsalem. Fe gynllwyniodd y gelynion hyn yn erbyn y bobl a oedd yn adeiladu, gan eu gwatwar a cheisio’u digalonni. Yn wir, roedd ailadeiladu’r muriau wedi dechrau mynd yn dasg mor anodd a pheryglus fel roedd yn rhaid i’r adeiladwyr gymryd eu tro i weithio tra roedd y gweddill yn gwarchod y muriau. Yn y pen draw, fe wnaethon nhw gwblhau’r gwaith a dyna ddiwrnod oedd hwnnw! Roedd yno lawenhau a dathlu mawr.

    Wrth gyd weithio roedd y bobl hyn wedi tyfu gyda’i gilydd fel pobl. Unwaith yn rhagor, roedden nhw wedi dod o hyd i’w hunaniaeth fel pobl Dduw. A dyna falch oedden nhw! Roedd eu llawenydd yn anhygoel.

  4. Gall bandiau loom hefyd ein hatgoffa o berthynas yr unigolion yn tyfu gyda’i gilydd fel pobl.

    Dangoswch enghreifftiau o’r gwahanol gynlluniau o freichledau sydd gennych chi.

    Nodwch fod y breichledau gorffenedig wedi eu gwneud o lawer iawn o wahanol fandiau o wahanol liwiau. Oherwydd bod y bandiau wedi eu gwau gyda’i gilydd mae hynny’n gwneud y cynnyrch yn llawer cryfach nag y gall band elastig bach unigol byth fod ar ben ei hun.

    Yn ofalus, ymestynnwch yr enghreifftiau sydd gennych chi o’r breichledau bandiau loom.

    Nodwch y byddai’n llawer anoddach torri un o’r breichledau hyn na thorri un band bach unigol. Rydyn ninnau hefyd, fel y bandiau yn gryfach pan fyddwn ni wedi ein clymu gyda’n gilydd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am rai tasgau y mae gofyn i chi eu gwneud yn y dosbarth neu’r ysgol, ac archwiliwch y rhain er mwyn gweld pa mor fanteisiol yw cyd weithio ag eraill er mwyn gallu eu cyflawni.

Gyda phwy rydych chi’n hoffi gweithio wrth wneud gwaith grwp?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori Nehemeia a’i ffrindiau.
Diolch i ti am ein ffrindiau a’r rhai sydd yn yr un dosbarth â ni.
Diolch i ti am bopeth y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd, a helpa ni i fod yn barod i gefnogi ein gilydd heddiw a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon