Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gadewch i ni fynd i Fethlehem!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Uniaethu â phrofiad y bugeiliaid ac arddangos ei bod yn bosib goresgyn ofnau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori a’r symudiadau yng Ngham 3 y Gwasanaeth, fel y gallwch chi ganolbwyntio ar wneud y cyflwyniad mewn dull sy’n llawn mynegiant, ac yn cymell eraill i wneud yr un fath â chi.
  • Darllenwch y stori am y bugeiliaid yn Efengyl Luc 2.8–15. Fe allech chi ddarllen fersiwn o’r stori wedi ei pharatoi’n benodol ar gyfer plant yng Ngham 2 y gwasanaeth, ond dewisol yw hynny.
  • Os dymunwch, mae’n bosib defnyddio cannwyll wedi ei goleuo er mwyn cael rhywbeth i ganolbwyntio arno yn ystod yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant fyddan nhw ofn y tywyllwch ambell waith? Pwysleisiwch fod llawer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus yn y tywyllwch a’u bod yn teimlo’n ofnus. Mae’n anodd gweld yn y nos. Mae pethau sydd ar ein ffordd yn achosi i ni faglu a chwympo. Mae synau’n ein dychryn. Soniwch hefyd y gall cefn gwlad ymddangos yn dywyll iawn a dychrynllyd yn y nos heb olau’r strydoedd a golau ein cartrefi.

  2. Cyfeiriwch at stori’r Nadolig cyntaf. Roedd bugeiliaid yn aros allan ar y bryniau trwy gydol y nos, yn gwylio’r defaid oedd ganddyn nhw ac yn gofalu amdanyn nhw. Yr unig olau oedd ganddyn nhw oedd golau’r tân yr oedden nhw wedi ei gynnau er mwyn cadw’n gynnes, efallai. Roedden nhw wedi dychryn yn ofnadwy pan ymddangosodd angel iddyn nhw yn y tywyllwch. Ond ar ôl iddyn nhw weld y baban Iesu, doedden nhw ddim yn teimlo’n ofnus wedyn.

    Darllenwch yr adnodau o Luc 2.8–15 ar y pwynt hwn, os dymunwch, neu adrodd y stori.

  3. Gwahoddwch y plant i ddychmygu eu bod gyda’r bugeiliaid ar eu taith i Fethlehem. Anogwch y plant i ailadrodd eich geiriau a’ch symudiadau, a fydd yn gweithio orau os byddwch chi’n gallu eu cyflwyno ar y cyflymder priodol ac yn hwyliog.

    Gadewch i ni fynd i Fethlehem

    Gadewch i ni fynd i Fethlehem.(Amneidio i awgrymu ‘Dewch’.)
    Rydyn ni wedi gweld angel!(Codi’r breichiau.)
    Ac wedi clywed am y baban,(Siglo baban yn eich breichiau)
    baban arbennig iawn.(Nodio’n gadarnhaol.)
    Gadewch y defaid ar y bryn. Mê! Mê!
    Mae’n ofnadwy o dywyll!(Edrych o gwmpas yn ofnus.)
    Ac yn ofnadwy o oer!(Crynu yn yr oerni.)
    Oes arnoch chi ofn?(Nodio’n gadarnhaol.)
    Awn i gyd gyda’n gilydd, felly.(Amneidio eto i awgrymu ‘Dewch’.)
    Yn gyflym lawr ochr y bryn. Dilynwch fi!(Brasgamu yn eich unfan.)
    Croesi’r nant. Sblish, sblash.(Llamu dro neu ddau yn yr unfan.)
    Rhwng y llwyni pigog. Aw! O! Aw!(Gwingo mewn poen.)
    Edrychwch ar y seren ddisglair. Waw!(Pwyntio i fyny.)
    Arhoswch! Dacw stabl.(Sefyll yn llonydd.)
    Gwthiwch y drws i’w agor.(Gwthio ac edrych heibio ymyl y drws.)
    Awn i mewn yn dawel, ar flaenau ein traed.(Mynd ar flaenau eich traed.)
    Edrychwch i weld beth sydd yn y preseb.(Gwyro drosodd ac edrych i lawr.)
    Baban bach! Mae’n cysgu!(Bys cyntaf ar y gwefusau.)
    Peidiwch â’i ddeffro. Sh!(Sibrwd.)
    Awn allan yn dawel, ar flaenau ein traed.(Mynd ar flaenau eich traed.)
    Caewch y drws yn araf.(Cau’r drws yn araf y tu ôl i chi.)
    Mae baban bach wedi ei eni! Neidiwn mewn llawenydd!(Neidio mewn llawenydd!)
    Mae hyn yn union fel y dywedodd yr angylion! Gwaeddwn ‘Hwre!’(Gweiddi ‘Hwrê!’)
    Ei enw yw Iesu. Awn i ddweud wrth y lleill!(Amneidio i awgrymu ‘Dewch’.)
    Awn i gyd gyda’n gilydd, felly.(Amneidio eto ar bawb.)
    Yn gyflym i fyny ochr y bryn. Dilynwch fi.(Brasgamu yn eich unfan.)
    Rhwng y llwyni pigog. Aw! O! Aw!(Gwingo mewn poen.)
    Croesi’r nant. Sblish, sblash.(Llamu dro neu ddau yn yr unfan.)
    Yn ôl at y defaid. Mê! Mê!
    Mae’n ofnadwy o dywyll!(Edrych o gwmpas.)
    Ac yn ofnadwy o oer!(Crynu.)
    Oes arnoch chi ofn?(Ysgwyd pen i awgrymu ‘Na’.)
    Na! Dim o gwbl.(Gwenu.)
    Rydyn ni wedi gweld y baban bach arbennig!(Siglo baban yn eich breichiau.)

  4. Dewch i gasgliad wedyn trwy ddweud bod Cristnogion yn credu bod stori’r Nadolig yn dweud sut mae bod â ffydd yn Nuw yn gallu ein helpu i drechu ofn. Aeth y bugeiliaid yn ôl at eu defaid yn llawen iawn ac yn hyderus iawn.

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am rywun a allai fod yn teimlo’n ofnus heno..

Os ydych chi’n ofnus, cofiwch fod pobl eraill sy’n deall sut rydych chi’n teimlo.

Fe allech chi gael y plant i ailadrodd y ‘cadarnhad o ffydd’ canlynol, fesul brawddeg os dymunwch chi.

Gweddi
Mae Iesu wedi ei eni! (Goleuwch gannwyll os byddwch yn dymuno defnyddio un.)
Goleuni yn y tywyllwch.
Tangnefedd a fo gyda chi!

Cerddoriaeth

Canwch hoff garol sy’n sôn am fynd i Fethlehem, neu sy’n sôn am y baban yn y preseb?’

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon