Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ddigwyddodd pethau ddim yn union fel y cynlluniwyd

Beth sy’n cyfrif mewn gwirionedd ar adeg y Nadolig?

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Amlygu pa mor anarferol oedd digwyddiadau’r Nadolig cyntaf, a sôn am beth sy’n bwysig mewn gwirionedd ar adeg y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bag neu gês bach yn llawn o’r ‘props’ canlynol: blanced, clustog, tegan meddal (oen bach), moronen, ychydig o wellt neu wair sych, a brwsh llaw a phadell lwch.

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydw i wedi dod â rhywbeth i’w ddangos i chi. Mae rhywun rydw i’n ei hadnabod yn mynd i gael babi bach, ac mae hi wedi pacio’r bag yma’n barod i fynd â fo efo hi i’r ysbyty pan ddaw’n amser iddi fynd yno.

    Beth ydych chi’n feddwl allai fod yn y bag? Beth fyddech chi’n disgwyl y byddai hi wedi ei roi yn y bag i fynd gyda hi?

    Gwrandewch ar awgrymiadau rhai  o’r plant ynghylch pa fath o bethau y byddai rhywun yn ei roi mewn bag wrth baratoi i fynd i aros mewn ysbyty.

  2. Hoffech chi gael gweld beth mae fy ffrind wedi ei roi yn y bag?

    Agorwch y bag neu’r ces sydd gennych chi a thynnu’r ‘props’ allan mewn trefn, o’r pethau mwyaf amlwg ar y dechrau hyd at y pethau mwyaf annisgwyl.

    Felly, dyma flanced – mae’n debyg bod hon ar gyfer lapio’r babi bach ynddi i’w gadw’n gynnes ac yn glyd. A dyma glustog. Wel, efallai bydd hwn yn helpu i wneud fy ffrind yn gyfforddus os bydd hi eisiau ei roi y tu ôl iddi wrth eistedd yn y gwely. Gadewch i ni weld beth arall sydd yma, O! Tegan meddal! Ydych chi’n meddwl mai i’r babi bach y mae hwn?

    Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i gewynnau eto, ’naddo? Gadewch i ni edrych eto. O! Be ydi hon? Moronen! Ac edrychwch, dyma ychydig o wair sych, a brwsh llaw a phadell lwch! Dydi’r pethau hyn yn sicr ddim yn bethau y byddech chi’n disgwyl eu gweld yn y bag. Oes rhywbeth o’i le? Beth ydych chi’n feddwl yw ystyr y pethau hyn? Pam y byddai gwraig ifanc sy’n mynd i gael babi bach angen moronen a gwair yn hytrach na chewynnau a hancesi papur neu ‘baby wipes’?

  3. Wel, a bod yn onest blant, nid bag ffrind i mi yw’r bag mewn gwirionedd. Allwch chi ddychmygu gwraig yn mynd i ysbyty i gael babi bach ac yn tynnu’r holl bethau hyn allan o’i bag? Wn i ddim beth fyddai’r doctoriaid a’r nyrsys yn ei feddwl!

    Ond roedd yna wraig ifanc, un tro, a gafodd fabi bach, a fyddai wedi gweld y pethau hyn i gyd yn ddefnyddiol. Tybed allwch chi feddwl am bwy rydw i’n sôn?

  4. Pan gafodd Mair ei babi bach hi, sef Iesu, nid mewn ysbyty yr oedd hi. Doedd ganddi hi ddim gwely hyd yn oed i orffwyso arno. Doedd hi ddim yn gallu ymlacio’n braf gartref gyda’i theulu a’i ffrindiau o’i chwmpas.

    Roedd yn rhaid i Mair a Joseff fynd ar daith bell cyn i Iesu gael ei eni – yr holl ffordd o Nasareth i Fethlehem. A  phan wnaethon nhw gyrraedd yno, yr unig le y gallen nhw ddod o hyd iddo i aros oedd stabl anifeiliaid!

    Rwy’n siwr y byddai’r asyn bach oedd wedi cario Mair ar ei gefn yr holl ffordd i Fethlehem wedi mwynhau’r foronen i’w bwyta ynghyd â’r gwair sych. Ac efallai y byddai Mair wedi teimlo fel glanhau ychydig ar y stabl er mwyn gwneud y lle ychydig yn debycach i gartref cyn iddi gael y babi bach!

    Rwy’n siwr bod Mair a Joseff wedi teimlo doedd pethau ddim yn union fel roedden nhw’n meddwl y bydden nhw wedi digwydd. Ond dyna fo! Dyna beth oedd yr hanes.

  5. Wrth i ni edrych ymlaen at y Nadolig, efallai y byddwn ni’n llunio rhestrau o’r teganau newydd y bydden ni’n hoffi eu cael, neu’n gwneud trefniadau ar gyfer ymweliadau gan ein ffrindiau neu aelodau ein teulu, neu’n trefnu parti. Ond weithiau dydi pethau ddim yn digwydd yn union fel roedden ni wedi gobeithio.

    Efallai na fyddwn ni’n cael popeth wnaethon ni ei nodi ar ein rhestr. Efallai ein bod wedi cael tegan gwych ond nad yw’n gweithio’n iawn a bod gofyn mynd ag ef yn ôl i’r siop. Efallai bod ein ffrindiau neu aelodau ein teulu eisiau cael dod i’n gweld ond bod rhywun wedi mynd yn sâl ac wedi methu dod wedi’r cwbl.

    Mae’r Nadolig yn gallu bod yn adeg pan fyddwn ni eisiau i’n cynlluniau weithio ac i’n breuddwydion ddod yn wir, ond ambell waith fydd pethau ddim yn digwydd yn union felly.

  6. Rydw i’n meddwl y byddai Mair a Joseff wedi teimlo felly, wedi teimlo nad oedd pethau wedi digwydd yn union fel roedden nhw’n meddwl y bydden nhw’n digwydd. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni fod rhyw rai lawer iawn o flynyddoedd cyn geni Iesu wedi nodi bod Duw wedi dweud wrth y bobl y byddai Iesu’n cael ei eni ym Methlehem –  a dyna’n union beth ddigwyddodd!

    Roedd Duw wedi dweud hefyd mai gwraig ifanc fyddai mam Iesu – a dyna beth oedd hi, gwraig ifanc iawn!

    Mae’n debyg nad oedd pethau wedi mynd yn union fel roedden nhw wedi gobeithio yn achos Mair a Joseff, ond roedd Duw’n gwybod beth oedd ei gynllun ef ar eu cyfer, ac roedd yn gofalu am Mair, Joseff a’r baban Iesu.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fod yn hollol dawel am foment, fel y gallwn ni feddwl am yr holl gynlluniau sydd gennym ni ar gyfer y Nadolig.

Yng nghanol yr holl brysurdeb, mae angen i ni ofalu ein bod yn treulio amser i fod yn dawel ac i ddiolch i Dduw am y Nadolig cyntaf. Dyna’r pryd yr anfonodd Duw ei fab, Iesu, i gael ei eni ar y Ddaear – yn union fel yr oedd wedi ei gynllunio.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig cyntaf, ac am y rhodd gawsom ni, sef dy fab Iesu.
Y Nadolig hwn, helpa ni i gofio peidio â phoeni am bethau sydd ddim yn bwysig.
Helpa ni i ganolbwyntio ar wir stori’r Nadolig.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘I orwedd mewn preseb,’ neu unrhyw hoff garol arall am eni Iesu.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon