Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Robin y Nadolig Cyntaf

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ail adrodd chwedl Nadoligaidd i amlygu pa mor bwysig yw help ymarferol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelwedd o robin goch fel sydd i’w gael ar gerdyn Nadolig, a threfnwch fodd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Fe allech chi wisgo dilledyn coch, ond dewisol fyddai hynny.
  • Fe allech chi ddarllen y stori eich hunan i’r plant neu drefnu bod grwp o blant yn ei chyflwyno.
  • Nodwch:Mae’n bwysig pwysleisio na ddylai’r plant byth gynnau tân eu hunain, ac yn enwedig ddim mewn stabl.
  • Os dymunwch, trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘When the red red robin comes bob bob bobbin along’ i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema trwy holi’r plant oes rhywun naill ai wedi derbyn neu wedi anfon cerdyn Nadolig gyda llun robin goch arno. Cyfeiriwch at y cardiau a’r addurniadau a welwn ni ar adeg y Nadolig, a sylwch fel mae’r robin goch yn amlwg ac yn gwneud cyfraniad llawen wrth i ni ddathlu’r Nadolig.

  2. Eglurwch fod y robin wedi dod yn elfen amlwg ar ein cardiau Nadolig oherwydd bod postmyn yn Oes Fictoria yn gwisgo gwisg goch lachar ac yn cael eu galw’n ‘robins’. Felly, yn hytrach na darlunio postmyn yn dosbarthu cardiau Nadolig, fe ddechreuodd dylunwyr y cardiau wneud llun robin goch ar y cardiau, yn cario amlen yn ei big a’r sach lythyrau ar ei gefn!

  3. Soniwch hefyd bod sawl chwedl Nadoligaidd sy’n adrodd sut y cafodd y robin ei fron goch ond eich bod chi heddiw yn mynd i adrodd un ohonyn nhw, a’i henw yw ‘Robin y Nadolig cyntaf ’.

    Robin y Nadolig cyntaf

    Pan aeth Mair a Joseff i Fethlehem doedd unman iddyn nhw aros, felly fe gafodd Iesu ei eni mewn stabl.

    Lle oer drafftiog sydd mewn stabl, felly fe wnaeth Joseff gynnau tân bach yn ofalus er mwyn gallu cadw Mair a’r baban bach yn gynnes. Roedd Iesu’n cysgu’n glyd a diogel yn y preseb ac roedd y lle’n gynnes oherwydd y tân. Ond wrth i’r nos dywyllu, fe ddechreuodd y lle oeri fel roedd y fflamau’n dechrau diffodd. Ymhen amser doedd dim ar ôl ond lludw llwyd ac ambell smotyn bach o dân coch ynghanol y lludw.

    Efallai bod yr aderyn bach brown oedd yn clwydo y tu mewn o dan do'r stabl yn dechrau teimlo’n oer. Neu, efallai ei fod yn deall beth oedd yn digwydd ac yn meddwl y gallai helpu. Clywodd Mair swn adenydd yr aderyn bach yn hedfan o’r nenfwd ac yn glanio ar y llawr. Gan sefyll yn ymyl y lludw llwyd, fe ddechreuodd yr aderyn bach ysgwyd ei adenydd er mwyn gwyntyllu’r darnau bach coch oedd ar ôl o’r tân, sef y marwydos. 

    Ac yn wir, fe barodd y gwynt a gynhyrchai’r aderyn bach trwy ysgwyd ei adenydd i’r marwydos droi’n fflamau bach coch a melyn eto. Gwenodd Mair ar yr aderyn bach. Ond fe welodd fod y plu ar frest yr aderyn bach brown wedi troi’n goch yng ngwres y tân. ‘O! Aderyn bach tlws!’ meddai Mair yn garedig, ‘rwyt ti wedi llosgi wrth geisio ein helpu. Boed i Dduw dy fendithio di am byth!’

    Felly, fel gwobr am fod yn garedig, mae bron pob robin bach ers hynny wedi parhau’n lliw coch llachar, ac mae’n parhau i ddod â chynhesrwydd a llawenydd i lawer o bobl ar adeg y Nadolig!

  4. Myfyriwch ar y ffaith bod y stori neu’r chwedl fach hon yn dathlu pa mor bwysig yw helpu pobl eraill ar adeg y Nadolig. Gwahoddwch y plant i awgrymu ffyrdd y gallen nhw rannu llawenydd â phobl eraill – trwy ymweld ag aelodau hyn eu teuluoedd, canu carolau, perfformio mewn dramâu Nadolig, helpu i dacluso ac addurno eu cartrefi, anfon cardiau Nadolig at ffrindiau, cefnogi gwaith elusen ... a llawer o bethau felly. Gall helpu a bod yn garedig wneud adeg y Nadolig yn adeg hapus – yn union fel y gwnaeth y robin!

Amser i feddwl

Byddwch yn ddiolchgar am rywun sydd wedi eich helpu chi yr wythnos hon. Tybed sut gallech chi wneud rhywun yn hapus heddiw?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Dolch i ti am y robin goch tlws sydd i’w weld yn y gaeaf, a diolch am gynhesrwydd a  llawenydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘When the red red robin comes bob bob bobbin along’

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon