Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Aros

Gwasanaeth ar gyfer yr Adfent

gan Manon Ceridwen James

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio’r Adfent trwy ystyried profiadau o aros, a’u hactio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ysgrifennwch y senarios canlynol ar gardiau ar gyfer chwarae rôl:

    – aros yn safle’r bws
    – aros mewn ystafell aros yn syrjeri’r deintydd
    – aros i agor anrheg
    – aros i’ch hoff fand ddod i’r llwyfan.
  • Os yw hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi galendr Adfent i’w ddangos.
  • Trefnwch hefyd bod gennych chi gerddoriaeth ar gyfer yr Adfent neu’r Nadolig, neu garol o’ch dewis, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i siarad am yr Adfent. Holwch y plant oes unrhyw un wedi clywed sôn am yr Adfent. Cyfeiriwch at galendrau Adfent, a’r modd y bydd y plant yn cyfrif y dyddiau hyd at ddydd Nadolig (neu wrthi’n gwneud hynny eisoes) trwy ddefnyddio calendr Adfent. Sut rai sydd gan y plant?

    Dangoswch eich calendr Adfent chi, os byddwch am ddefnyddio un.

  2. Trafodwch fod ‘aros’ yn thema bwysig yn ystod cyfnod yr Adfent ac, er mwyn archwilio hyn, rydych chi’n mynd i gael ychydig o hwyl yn chwarae rôl. Gofynnwch am wirfoddolwyr - tua phedwar neu bump ar y tro fyddai’n ddelfrydol.

  3. Fesul un, dangoswch y cardiau rydych chi wedi eu paratoi gyda’r gwahanol senarios arnyn nhw i grwp o blant. Rhowch ychydig o amser i’r grwp feddwl am sut maen nhw’n mynd i actio’r sefyllfa, pa rôl mae pob plentyn yn mynd i’w chwarae, a’r math o bethau y byddan nhw’n ei ddweud. Gadewch i’r plant chwarae’r rôl am ychydig funudau, yna stopiwch y chwarae wedi iddyn nhw gyfathrebu’n effeithiol y math o sefyllfa benodol y mae’r senario honno’n ei darlunio.

  4. Ar gyfer y sefyllfa o ddisgwyl mewn arosfan bws, wedi i’r plant chwarae rôl am sbel, gofynnwch iddyn nhw sut mae’n teimlo i fod yn aros i’r bws gyrraedd. Ydi hynny’n ddiflas? Ydyn nhw’n teimlo’n oer, neu wedi blino?

  5. Ar gyfer sefyllfa o aros mewn syrjeri deintydd, fe allai un o’r plant fod yn ddeintydd, un arall yn gweithio yn y dderbynfa, a’r lleill yn bobl sy’n aros eu tro. Ar ôl y chwarae rôl hwn, archwiliwch gyda’r plant sut mae’n teimlo i aros mewn syrjeri deintydd. Ydyn nhw’n nerfus neu’n bryderus?

  6. Ar gyfer sefyllfa o aros i gael agor anrheg, fe allai un plentyn fod yn rhiant neu’n ffrind sy’n rhoi’r anrheg, fe all un arall gael ei ddewis i dderbyn yr anrheg a’i agor. Sut mae’n teimlo i orfod aros? A yw hynny’n gyffrous? A yw’n beth anodd neu’n beth rhwystredig i fod eisiau agor yr anrheg ond yn gorfod aros tan ddiwrnod y pen-blwydd neu ddydd Nadolig?

  7. Ar gyfer sefyllfa o aros i’ch hoff fand ddod i’r llwyfan, gofynnwch pwy sydd eisiau bod ar y blaen - yn brif leisydd?! Fe allai gweddill aelodau’r grwp fod yn aelodau eraill y band neu’n ffans penboeth. Yn y chwarae rôl hwn, archwiliwch gyda’r grwp sut mae’n teimlo i fod yn disgwyl am eich hoff fand ddod ymlaen i berfformio. A yw’n deimlad cyffrous? Ydych chi’n teimlo’n fel pe byddech chi wedi’ch gorlethu. . . ?

  8. Wedi i chi ddiolch i’r plant sydd wedi cymryd rhan yn y grwpiau a chanmol y doniau actio, pwysleisiwch gyda’r gynulleidfa bod gwahanol fathau o aros – aros diflas, aros cyffrous, aros pryderus, ac aros gyda’r synnwyr o obaith.

  9. Mae cyfnod yr Adfent yn ymwneud ag aros, ond heb yr ofn, neu’r pryder, na’r diflastod. Yn ystod yr Adfent, fe fyddwn ni’n aros yn llawn cyffro oherwydd ein bod yn dathlu genedigaeth baban arbennig iawn i’r byd. Rydyn ni’n aros yn llawn gobaith oherwydd bod Iesu wedi dod i roi gobaith i’r byd.

Amser i feddwl

Am beth rydych chi’n gobeithio y Nadolig hwn?

Fe allwn ni obeithio am bethau ar wahân i anrhegion – gobeithio cael amser pleserus gydag aelodau’r teulu a ffrindiau, gobeithio am heddwch yn ein cymuned ac yn ein byd . . .

Gweddi
Dad nefol,
rydyn ni’n diolch i ti am y Nadolig.
Helpa ni i ddathlu dyfodiad Iesu mewn llawenydd.
Rydyn ni hefyd yn meddwl am y bobl hynny sy'n unig neu’n drist yn ystod y Nadolig hwn. Helpa ni i fod yn ffrind iddyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon