Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wedi ein gwneud yn dda ac yn unigryw!

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cadarnhau bod pob un ohonom yn arbennig ac wedi ein gwneud mewn ffordd ryfeddol!

Paratoad a Deunyddiau

  • Os bydd hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi rai rhieni, teidiau/neiniau, cyfeillion neu aelodau eraill o staff sy’n gallu gwneud eitemau crefft neu fodelau cymhleth (modelau o longau neu awyrennau, gwneud doliau bach, dodrefn ty doli, neu wau neu wnïo eitemau, neu unrhyw fath o waith llaw arall) a chael y bobl hynny i ddangos eu heitemau a siarad ychydig amdanyn nhw. Gofynnwch iddyn nhw fod yn barod i amlygu nam bach yn eu gwaith wedyn, neu i awgrymu sut y gallen nhw fod wedi gwella’r eitem pe bydden nhw eisiau gwneud un arall yr un fath.
  • Trefnwch fod gennych chi ychydig o fodelau sydd wedi cael eu gwneud gan rai o’r plant. Ceisiwch drefnu bod plant o wahanol oedran yn ymwneud â’r sesiwn hon o ddangos eu gwaith.
  • Yn ddelfrydol, cadwch yr eitemau o’r golwg cyn dechrau’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n hoffi ei wneud orau yn yr ysgol. Pan fydd rhywun yn ateb gwaith llaw neu ‘gwneud pethau’, eglurwch eich bod yn ystod y gwasanaeth heddiw’n mynd i feddwl am bethau sydd wedi cael eu gwneud gan wahanol bobl yng nghymuned yr ysgol.

  2. Gwahoddwch yr oedolion i ddangos y pethau maen nhw wedi eu gwneud a holwch ychydig am yr eitemau, fel er enghraifft, ‘Pa bryd y gwnaethoch chi ddechrau gwneud modelau/ gwnïo/ gwau . . . ? Faint o amser gymerodd hi i chi wneud yr eitemau? Sut roeddech chi’n teimlo ar ôl gorffen gwneud yr eitem? Gofynnwch i bob un o’r bobl aros yn y tu blaen gan ddal yr eitemau sy’n enghraifft o’u gwaith.

  3. Gwahoddwch y plant wedyn i ddangos y modelau maen nhw wedi’u gwneud, gan holi cwestiynau tebyg am y rhain, a gofyn iddyn nhw hefyd aros yn y tu blaen yn dal eu modelau.

  4. Pan fydd pawb wedi dangos eu gwaith ewch ar hyd y llinell unwaith eto gan ofyn i bob un yn ei dro a ydyn nhw’n hapus gyda’r eitem maen nhw wedi ei gwneud, ac a ydyn nhw’n falch ohoni. Fe ddylen nhw i gyd ateb yn gadarnhaol, wrth gwrs. Wedyn, gofynnwch iddyn nhw a oes rhyw nam bach ar eu model neu eitem, neu a oes rhywbeth y bydden nhw’n dymuno ei newid ynglyn â’u darn o grefftwaith. Fe all rhai ymateb trwy nodi ambell wall neu wendid, neu awgrymu ffordd y byddai’n bosib gwella’r eitem.

  5. Gwnewch sylw o’r ffaith bod nifer o’r bobl sy’n sefyll yn y tu blaen gyda’u heitemau yn gwybod bod namau bach neu wall yma ac acw yn eu gwaith. Maen nhw’n gallu gweld y byddai’n bosib newid rhywbeth bach efallai ... ond nid yw hynny’n eu gwneud yn llai balch o’u gwaith. Maen nhw’n parhau i feddwl bod yr hyn maen nhw wedi’i wneud yn rhyfeddol, ac ambell dro mae gwall bach yn gallu gwneud i eitem ymddangos yn well am fod hynny’n golygu ei bod yn wahanol i bob eitem neu fodel arall yn y byd – mae’n unigryw!

  6. Ystyr y gair ‘unigryw’ yw rhywbeth sy’n wahanol i bopeth arall - yr unig un o’i fath.

  7. Eglurwch, yn union fel mae’r modelau a’r eitemau hyn yn unigryw, felly hefyd mae pob person sydd yn yr ystafell yn unigryw.

    Mae gennym ni i gyd ein ffaeleddau bach (neu rai mawr!); mae gennym ni i gyd bethau sydd angen eu newid, does neb ohonom yn berffaith. Rydyn ni i gyd yn arbennig fodd bynnag, a’r gwahaniaethau bach rhyngom ni sy’n ein gwneud ni hyd yn oed yn fwy rhyfeddol!

    Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud pob un ohonom ni’n arbennig ac yn wahanol i’n gilydd. Mae llyfr cyntaf y Beibl – Genesis (1.31) – yn dweud fel hyn, ‘Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn’. Yn Salm 139 adnod 14, mae’r awdur yn diolch i Dduw am ei greu mor arbennig : ‘Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac mae dy weithredoedd yn rhyfeddol . . .’

    Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi ein gwneud ni, a’i fod yn falch o’r hyn a wnaeth!

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment am yr hyn rydych chi’n ei hoffi fwyaf amdanoch eich hun.

Efallai mai oherwydd y ffordd rydych chi’n edrych y mae hynny, y ffordd rydych chi’n cyfathrebu ag eraill, y ffordd rydych chi’n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon, pa mor dda rydych chi’n gallu darllen, neu efallai eich bod yn hapus iawn yng nghwmni aelodau eich teulu. Cymrwch foment i ddweud, ‘Diolch’ am y pethau hyn.

Nawr, meddyliwch am y pethau rydych chi’n eu hoffi leiaf amdanoch chi eich hunan.

Treuliwch foment yn atgoffa eich hun eich bod yn arbennig, a bod eich hoff agweddau, yn ogystal â’r agweddau dydych chi ddim mor hoff ohonyn nhw, i gyd yn eich gwneud chi yn rhywun arbennig iawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi gwneud y byd.
Diolch dy fod ti wedi fy ngwneud i.
Helpa fi i beidio â chymharu fy hun yn anffafriol â phobl eraill, ond i gofio bob amser fy mod i’n arbennig ac nad oes unrhyw un arall yn union yr un fath â fi.
Diolch  i ti am fy ngharu i yn union fel yr ydw i.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon