Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newid i fod yn berson gwahanol

Tröedigaeth Paul (25 Ionawr)

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu tröedigaeth Paul, a myfyrio ar y stori.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelwedd o Eglwys gadeiriol St Paul’s, Llundain, a threfnwch fodd o ddangos y llun yn ystod y gwasanaeth (dewisol).
  • Fe allech chi ddefnyddio sbectol haul i gynrychioli profiad Paul o fod wedi colli ei olwg, ac wedi ei adennill wedyn (dewisol).
  • Ymgyfarwyddwch â stori Paul, sydd wedi cael ei rhoi yma i chi yng Ngham 2 y gwasanaeth, a pharatowch i chwarae’r rôl eich hunan neu dewiswch gydweithiwr i’ch helpu.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Amazing grace’ a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth, neu gopi o’r geiriau i’w canu. Dewiswyd y gân hon am ei bod wedi cael ei hysgrifennu gan John Newton i ddathlu ei dröedigaeth ei hun.

Gwasanaeth

  1. Os byddwch chi’n defnyddio’r ddelwedd o eglwys gadeiriol St Paul’s, dangoswch hon ar y dechrau heb ddweud enw’r adeilad, gan ofyn oes unrhyw un o’r plant yn gwybod pa adeilad yw hwn.

    Eglurwch fod llawer o eglwysi Cristnogol wedi eu henwi ar ôl sant neu seintiau. ‘Sant’ yw rhywun y mae ei esiampl yn ysbrydoli ac yn helpu eraill. Roedd Paul yn arweinydd yr eglwys Gristnogol yn ei dyddiau cynnar, ac fe ysgrifennodd lawer o lythyrau sydd wedi eu cynnwys yn y Testament Newydd. Fe deithiodd i lawer gwlad er mwyn lledaenu’r neges Gristnogol. Ond nid Paul oedd ei enw ar y dechrau - a doedd o ddim yn sant o gwbl ychwaith ar y dechrau!

  2. Gwahoddwch bawb i wrando ar Paul yn adrodd ei stori ei hun. Os mai chi sy’n chwarae rhan Paul, trowch eich cefn ar eich cynulleidfa am foment, ac yna trowch yn ôl gan actio rhan y cymeriad. Fel arall, cyflwynwch y cydweithiwr sy’n mynd i chwarae’r rhan.

    Monolog: ‘Fy enw i yw Paul’

    Helo! Fy enw i yw Paul. Saul oedd fy enw i ar y dechrau.

    Credwch fi! Doeddwn i ddim yn berson dymunol o gwbl pan oeddwn i’n Saul! Roeddwn i’n casáu unrhyw un a oedd yn dilyn Iesu Grist. Doeddwn i ddim yn berson caredig o gwbl. Roeddwn i hyd yn oed yn sefyll i wylio dilynwyr Iesu’n cael eu lladd.

    Roeddwn i’n berson dig. Fe fyddwn i’n dod i wybod ble roedd dilynwyr Iesu’n byw ac yn eu llusgo i’r carchar. ‘Dyna ddysgu gwers iddyn nhw!’ fyddwn i’n ei ddweud. ‘Fe ddylen nhw ymddwyn fel pawb arall!’ Ac roedd pobl eraill yn cytuno efo fi hefyd – ‘Dyna beth maen nhw’n ei haeddu,’ fydden nhw’n ei ddweud. ‘Mae’r bobl hyn sy’n dilyn Iesu’n meddwl eu bod yn well na ni.’

    Yn y pen draw roedd holl ddilynwyr Iesu’n teimlo’n ofnus iawn.

    Fe benderfynais fynd i le o’r enw Damascus i wneud yr un peth i’r dilynwyr yno. Roedd yn ddiwrnod poeth iawn y diwrnod hwnnw, ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nallu gan olau mawr oedd yn llosgi yn fy mhen.

    Yn sydyn, doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw beth. Roeddwn i’n teimlo’n benysgafn iawn ac fe syrthiais i’r llawr.

    Gwisgwch y sbectol haul, os byddwch am ei defnyddio.

    Fe glywais lais rhywun yn siarad efo fi.

    ‘Saul . . . Saul, pam rwyt ti’n gwneud hyn i mi?’

    ‘Pwy sydd yna?’ gwaeddais innau.

    ‘Iesu sydd yma,’ meddai’r llais. ‘Pam rwyt ti’n fy nghasáu i Saul?’

    Roeddwn i’n dal i fethu gweld.

    Fe helpodd fy ffrindiau fi i fynd ymlaen ar hyd y ffordd. Roeddwn i’n teimlo’n hollol wan, ac fe wnaf i gyfaddef hyn i chi, roeddwn i’n teimlo’n ofnus hefyd. Fe wnes i sylweddoli mai dyma sut roeddwn i fy hun yn gwneud i bob eraill deimlo. Felly, fe wnes i weddïo ac, er nad oeddwn i’n haeddu hynny, fe wnaeth Duw Iesu wrando ar fy ngweddi. Fe anfonodd rywun i fy helpu i.

    Fe ddaeth dyn o’r enw Ananias i weddïo efo fi. Roedd Ananias yn un o bobl Iesu, ac yn un o’r bobl roeddwn i wedi bwriadu eu lladd.

    ‘Frawd, Saul,’ meddai. ‘Mae’r Arglwydd wedi fy anfon i.’

    Roedd Ananias yn garedig iawn – ac yn barod iawn i faddau.

    Ac yna fe gafodd fy llygaid eu hagor! Roeddwn i’n gallu gweld!

    Tynnwch y sbectol haul.

    Roedd yr hyn roeddwn i wedi bod yn ei wneud yn beth ofnadwy, ond roeddwn i’n gwybod wedyn y gallai Duw newid rhywun mor ddrwg â fi hyd yn oed! Fe wnes i newid fy ffordd o fyw a dod yn un o ddilynwyr Iesu fy hun – a nawr rydw i eisiau dweud y newydd da hwnnw wrth bawb!

    Felly, galwch fi’n Paul – dyna beth mae fy ffrindiau newydd i gyd yn fy ngalw. Hwn yw fy enw Cristnogol – mae’n enw gwahanol, enw newydd. Mae’r enw’n dangos fy mod wedi newid yn gyfan gwbl. Rwy’n ddyn newydd.

  3. Gwahoddwch y plant i ymateb i’r stori. Ym mha ffordd y gwnaeth Saul newid? Dewch i’n casgliad bod Saul:

    - yn elyn, ond fe ddaeth yn ffrind
    - yn greulon, ond fe ddysgodd fod yn garedig
    - yn ddi-hidio, ond fe ddaeth i sylweddoli bod yr hyn roedd yn ei wneud yn effeithio’n ddrwg ar bobl eraill
    - yn anwybyddu safbwyntiau pobl eraill, ond fe ddaeth i ddeall
    - fe ddysgodd barchu Duw a phobl eraill.

    Mae’r newid yn enw Saul yn adlewyrchu’r newid a ddigwyddodd yn ei gymeriad. Eglurwch fod Cristnogion yn disgrifio’r math yma o newid fel ‘tröedigaeth’.

  4. Dewch i’r casgliad trwy fyfyrio ar y ffaith bod llawer o bobl ledled y byd yn parhau i wynebu casineb a thrais oherwydd yr hyn maen nhw’n ei gredu. Mae stori Saul yn herio ymosodiadau ar arferion, ffydd a thraddodiadau pobl eraill.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am eu hagwedd a’u hymddygiad personol nhw, a meddwl a oes unrhyw beth y gallen nhw ei newid ar ôl iddyn nhw feddwl am y pethau hyn.

Gweddi
Gweddi am heddwch i’r byd

Arwain fi o farwolaeth i fywyd,
o anwiredd i wirionedd.
Arwain fi o anobaith i obaith,
o ofn i ffydd.
Arwain fi o gasineb i gariad,
o ryfel i heddwch.
Gad i heddwch lenwi ein calon,
ein byd, a’n bydysawd.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon