Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod gwych wedi'i wneud hyd yn oed yn well

Ystwyll

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut gallwn ni helpu i ddatrys problem – gan gyfeirio at stori Iesu yn y briodas yng Nghana.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am luniau addas o briodas, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Er mwyn ychwanegu ychydig o ddrama at y stori, fe allech chi ddefnyddio jwg mawr o ddwr, cynhwysydd mawr y mae’n bosib gweld trwyddo, fel bowlen gymysgu neu ddysgl casserole wydr, gwydr gwin gwag, a lletwad (ladle) gyda diferyn neu ddau i hylif coch lliwio bwyd ynghudd yng ngwaelod y lletwad. Pan fydd ychydig o ddwr yn cael ei gasglu yn y lletwad a’i arllwys i’r gwydrau gwin, fe fydd yn ymddangos fel pe byddai wedi troi’n win.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch thema’r gwasanaeth, sy’n ymwneud â helpu ein gilydd i ddatrys problemau, ac a fydd yn cynnwys stori am briodas.

  2. Dangoswch rai o’r lluniau rydych chi wedi eu paratoi ac eglurwch fod priodas yn dathlu cariad dau berson tuag at ei gilydd. Eglurwch fod y ddau berson, yn draddodiadol, yn cael ei galw’n briodfab a phriodferch. Daw eu ffrindiau ac aelodau eu teuluoedd ynghyd i’w cefnogi ac i rannu eu hapusrwydd.  Fe fydd pawb yn mwynhau bwyd a diod arbennig mewn gwledd briodas.

  3. Nodwch y gall pethau fynd o chwith, ambell dro, yn nhrefniadau’r briodas. Gall y car sy’n cario’r briodferch dorri i lawr, fe all rhywun anghofio’r fodrwy, neu fe allai rhywun ollwng y gacen! Ar adegau felly, mae’n bwysig bod pawb yn helpu ei gilydd i ddatrys y broblem rhag i’r diwrnod arbennig gael ei ddifetha.

  4. Adroddwch y stori sydd i’w chael yn y Beibl am y briodas yng Nghana, Galilea. Mae’n disgrifio sut y gallodd Iesu ddatrys problem yno.

    Y briodas yng Nghana Galilea

    Roedd diwrnod y briodas yn ddiwrnod ardderchog ac wedi bod yn llwyddiant mawr! Roedd pawb yn hapus, yn enwedig y briodferch a’r priodfab.

    Roedd pawb yno – aelodau’r teulu o’r ddwy ochr, ffrindiau, cymdogion . . . ac roedd Iesu yno, gyda Mair ei fam.

    Roedd pawb yn mwynhau’r diodydd a’r bwydydd blasus.

    ‘Gymrwch chi ragor i’w fwyta?’ holodd mam y briodferch.
    ‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai’r gwesteion.
    ‘Rhagor i’w yfed?’ holodd tad y briodferch.
    ‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai pawb – a dyna pryd y cododd y broblem.

    ‘Does dim rhagor i’w yfed,’ sibrydodd un o’r gweision. ‘Mae’r cyfan wedi mynd.’

    O dyna drueni! O dyna ofnadwy! Roedd pobl yn dal eu gwydrau gwag, ond doedd dim rhagor o win. Roedd teulu’r briodferch yn teimlo cywilydd am mai nhw oedd wedi trefnu’r wledd, ac yn teimlo rhywfaint o embaras. Roedden nhw’n pryderu y byddai’r bobl yn cofio diwrnod priodas eu merch fel y diwrnod pan aeth rhywbeth o’i le.

    ‘Gwna rhywbeth i helpu!’ sibrydodd Mair wrth Iesu.
    ‘Nid nawr yw’r amser iawn’, atebodd Iesu. ‘Fe fydd pawb yn dweud fy mod yn dangos fy hun.’
    ‘Ond mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth’, mynnodd Mair. ‘Gwnewch beth bynnag mae Iesu’n ei ddweud wrthych chi’, meddai hi wedyn wrth y gweision.

    Yng nghornel yr ystafell roedd cawgiau a oedd yn dal dwr er mwyn i’r gwesteion gael golchi eu dwylo.

    ‘Llanwch y cawgiau hyn â dwr glân’, cyfarwyddodd Iesu’r gweision.

    Os byddwch chi’n defnyddio’r ‘props’, arllwyswch y dwr sydd gennych chi yn y jwg i mewn i’r ddysgl neu’r cynhwysydd clir. Yna rhowch flaen eich bys yn y dwr i ddangos ei fod yn ddwr clir glân cyffredin.

    ‘Nawr, ewch â hwn i’r gwesteion i’w yfed’, meddai Iesu wrth y gweision. Roedden nhw’n methu deall beth y peth, ond fe wnaethon nhw’r hyn roedd Iesu wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud.

    Gan ddefnyddio’r lletwad, sy’n cynnwys y diferion hylif lliwio bwyd, yn ofalus casglwch rywfaint o’r dwr ac arllwys y ‘gwin’ i’r gwydr gwin.

    Er mawr syndod i’r gwesteion yn y wledd briodas roedd y dwr cyffredin wedi troi’n win melys! Yn wir, hwn oedd y gwin hyfrytaf yr oedden nhw wedi ei flasu erioed.

    ‘Gymrwch chi ragor i’w fwyta?’ holodd mam y briodferch.
    ‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai’r gwesteion.
    ‘Rhagor i’w yfed?’ holodd tad y briodferch.
    ‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai pawb yn hapus iawn!

    Roedd Iesu wedi gallu helpu i ddatrys problem. Roedd wedi gallu troi’r dwr yn win – ac wedi gallu troi gwg yn wên. Roedd wedi gallu gwneud diwrnod gwych hyd yn oed yn well!

  5. Gwahoddwch bawb i ystyried sut y bydden nhw’n gallu helpu i ddatrys problem. Sut bydden nhw’n ymateb:

    – pe byddai rhywun yn methu dod o hyd i’w got cyn mynd allan amser chwarae
    – pe byddai ffrind neu oedolyn yn dweud, ‘Rydw i angen help'
    – pe byddai’r cyfan o bensiliau’r dosbarth eisiau eu minio.

    Nodwch nad dangos eich hun ydych chi pan fyddwch chi’n helpu i ddatrys problem. Mae’n ymwneud â sylwi sut mae pobl eraill yn teimlo a dangos cydymdeimlad a chynnig help. Gall helpu i ddatrys problem wneud unrhyw ddiwrnod yn well ac yn hapusach i bawb!

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Arglwydd Iesu,
Ar yr adegau hynny pan fydd pethau’n mynd o chwith, gwna ni’n fwy awyddus i helpu.
Helpa ni i wneud heddiw’n ddiwrnod gwell i bawb.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon