Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhoddwyr llawen

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am haelioni a bod yn rhoddwyr llawen.

Paratoad a Deunyddiau

Os gallwch wneud hynny, trefnwch fod gennych chi rai delweddau, a’r modd o’u dangos, i ddarlunio stori Sacheus yn ystod y gwasanaeth. Gwelwch: http://www.ebibleteacher.com/chalmers/zacchaeus.html  neu http://www.freebibleimages.org/stories/?character=Zacchaeus , er enghraifft. Neu, mae fersiwn dda iawn o’r stori yn The Lion Storyteller Bible gan Bob Hartman (Lion, 3013) stori o’r enw ‘Jesus and the Taxman’, y gallech chi ei haddasu a’i darllen os hoffech chi. 

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant gawson nhw i gyd amser da dros y Nadolig. Yna, gofynnwch iddyn nhw feddwl am yr holl anrhegion gawson nhw, a chyfrif yn eu meddwl tua faint o anrhegion gawson nhw. Ar ôl rhoi cyfle iddyn nhw feddwl, gofynnwch iddyn nhw godi eu dwylo pan fyddan nhw’n clywed cyfanswm sy’n agos at yr hyn gawson nhw.

    – Mwy na 10 anrheg?
    – Mwy na 20 anrheg?
    – Mwy na 30 anrheg?

  2. Gofynnwch i’r plant gyfrif eto tua faint o anrhegion y gwnaethon nhw eu rhoi i bobl eraill ac, eto, godi eu dwylo pan fyddan nhw’n clywed cyfanswm sy’n agos at y nifer o anrhegion y gwnaethon nhw eu rhoi.

    – Mwy na 5 anrheg?
    – Mwy na 10 anrheg?
    – Mwy na 15 anrheg?

  3. Sylwch ar y ffaith bod y rhan fwyaf o’r plant wedi cael mwy o anrhegion nag a wnaethon nhw eu rhoi. Yna gofynnwch, ‘Pwy sy’n hoffi cael anrhegion?’

    Eglurwch eu bod yn awr yn mynd i glywed stori o’r Beibl am ddyn o’r enw Sacheus. Gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus a meddwl ydyn nhw’n gallu clywed sut y gwnaeth Sacheus newid o fod yn rhywun a oedd yn arfer cymryd llawer a throi’n rhywun a oedd wedyn yn rhoi llawer.

  4. Dangoswch y delweddau wrth i chi ddarllen y stori os byddwch yn awyddus i’w defnyddio.

    Sacheus y casglwr trethi

    Roedd Iesu’n cerdded trwy dref Jericho, sef y dref lle’r oedd dyn o’r enw Sacheus yn byw.

    Roedd Sacheus yn ddyn cyfoethog iawn, ond doedd Sacheus ddim yn ddyn poblogaidd iawn am mai casglwr trethi oedd o. Roedd yn twyllo pobl yn aml, ac yn cadw llawer o arian y trethi yr oedd yn ei eu casglu gan y bobl iddo ef ei hun.

    Doedd Sacheus ddim yn ddyn tal, dyn byr oedd o – doedd o ddim yn ddigon tal i allu gweld dros ben y bobl oedd yn sefyll o’i flaen. Trueni am hynny, oherwydd yr oedd Sacheus yn awyddus iawn i weld Iesu. Ond roedd cymaint o bobl wedi dod i Jericho i weld Iesu ac i wrando arno’n siarad â’r bobl. Roedd Sacheus wedi clywed llawer o sôn am Iesu, ac roedd eisiau ei weld, ond doedd o ddim yn ddigon tal. Fe feddyliodd am ffordd o ddatrys y broblem. Fe ddringodd i ben coeden, sycamorwydden, a oedd yn tyfu ar ochr y ffordd y byddai Iesu’n teithio ar ei hyd, fel y gallai ei weld wrth iddo ei basio.

    Yna, fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfedd. Arhosodd Iesu wrth y goeden neilltuol honno. Fe edrychodd i fyny, ac fe ddywedodd mewn llais cryf, ‘Tyrd i lawr, Sacheus, rydw i eisiau dod i gael cinio yn dy dy di heddiw.’ Dechreuodd y dyrfa rwgnach yn uchel ar ôl iddyn nhw ddeall beth oedd Iesu wedi ei ddweud. ‘Pam mae Iesu eisiau mynd i dy Sacheus? Ydi Iesu ddim yn gwybod mai dyn drwg yw Sacheus?’

    Llithrodd Sacheus i lawr o ben y goeden mor gyflym ag y gallai pan glywodd Iesu’n gofyn iddo, ac fe aeth â Iesu i’w gartref gan roi croeso mawr iddo.

    Yn hwyrach y diwrnod hwnnw, daeth Sacheus allan o’i dy a dweud bod ganddo rywbeth pwysig i’w ddweud, ‘Rydw i wedi gwneud rhai pethau drwg ac anonest, ond rydw i’n gwybod nawr bod rhaid i mi newid fy ffordd o fyw. Rydw i’n mynd i roi hanner yr hyn sydd gen i i’r bobl dlawd, ac fe wnaf i dalu’n ôl i chi i gyd bedair gwaith gymaint ag a wnes i ei ddwyn oddi arnoch chi.’

    Dywedodd Iesu wrth Sacheus ei fod yn awr yn rhan o deulu Duw. Ac fe drodd Iesu at y dyrfa ac egluro i’r bobl ei fod ef, Iesu, wedi cael ei anfon gan Dduw i rannu cariad Duw â phawb, hyd yn oed gyda’r bobl oedd wedi gwneud pethau drwg ac anonest, os byddai’n ddrwg ganddyn nhw am yr hyn roedden nhw wedi ei wneud.

  5. Gofynnwch i’r plant pam eu bod yn meddwl bod Sacheus wedi newid o fod yn ddyn barus a hunanol i fod yn ddyn hael a charedig iawn. 

    Awgrymwch fod bywyd Sacheus wedi newid yn hollol ar ôl iddo gyfarfod â Iesu, a’i fod wedi dod yn berson llawer mwy dymunol wedyn!

Amser i feddwl

Dywedwch wrth y plant bod sawl ffordd y gallwn ni fod yn hael, nid yn unig gydag arian. Gofynnwch iddyn nhw droi at yr un sy’n eistedd agosaf atyn nhw a sgwrsio’n dawel am rai o’r pethau y gallen nhw fod yn hael yn ei gylch, neu y gallen nhw ei rannu ag eraill heddiw. Fe fyddai’n bosib iddyn nhw awgrymu pethau fel amser, cyfeillgarwch, bod yn barod i wrando, dweud geiriau caredig, rhannu eiddo, a rhannu gwên. Gwrandewch ar rai o atebion y plant.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch fod Sacheus, yn y stori heddiw, wedi troi o fod yn ddyn barus i fod yn ddyn caredig a hael.
Helpa ni i fod yn hael ac i fod yn rhoddwyr llawen yn yr ysgol ac yn ein cartrefi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon