Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyffwrdd, arogli, clywed, gweld, blasu

Gwasanaeth amlsynhwyraidd

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein synhwyrau mewn gwasanaeth awyr agored.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn dechrau y tu allan i’r dosbarth, yn yr awyr agored, yn ddelfrydol mewn cornel dawel o’r iard neu ar gae’r ysgol. Mae’n golygu ychydig o ymdrech i baratoi’r gwasanaeth, ond unwaith y byddwch wedi gosod y gweithfannau, fe fydd yn ddigon hawdd ailadrodd y gweithgareddau.
  • Gosodwch y gweithfannau synhwyraidd fel a ganlyn: mae angen i weithfannau rhifau 1 – 4 fod yn yr awyr agored, ond bydd gweithfan 5 y tu mewn, o bosib yn y gornel lle byddwch chi’n cynnal eich ‘amser cylch’.

    gweithfan 1: cyffwrdd Cynhwysydd (bowlen fetel o bosib) gyda dwr ynddi, pentwr o bapurau sychu dwylo, a bin i daflu’r rhai sydd wedi cael eu defnyddio iddo. Cyflenwad o ddwr.

    gweithfan 2: arogli Nifer o ffyn persawrus, fel ffyn arogldarth (incense sticks), a chynhwysydd diogel i’w dal yn gadarn. Mae angen i’r rhain fod ynghyn cyn i’r gwasanaeth ddechrau, ac wedyn yn cael eu diffodd fel mai dim ond yr arogl sy’n codi ohonyn nhw pan fydd y plant yn agos, rhag i’r plant losgi.

    gweithfan 3: clywed Pentwr bach o gerrig crynion wedi eu gosod ar ddysgl, a jwg metel i ddal dwr, ynghyd â chyflenwad o ragor o ddwr. Gosodwch y ddysgl fel bod y dwr yn gallu gorlifo drosodd i’r ddaear.

    gweithfan 4: blasu Darnau o fara, neu'n ddelfrydol rholiau bara bach (wedi eu gwneud o beli toes), fel y gall pob plentyn fwyta un ei hun, ond gwiriwch ynghylch unrhyw alergedd.

    gweithfan 5: gweld (yn y dosbarth)Llwythwch i lawr y Cyflwyniad PowerPoint,neu casglwch eich delweddau eich hunan o fyd natur, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth. Goleuwch gannwyll fawr (fel cannwyll eglwys), dewiswch gerddoriaeth dawel a threfnwch fodd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth. Fe fyddai’n dda cael planhigyn, fel planhigyn ty mewn potyn, yma hefyd i ganolbwyntio arno, ond nid yw’n hanfodol.
  • Fe fyddwch hefyd angen hyd o gortyn, a stribedi siâp petryal o ddefnyddiau lliwgar fel y bydd yn bosib eu clymu fel rubanau am y cortyn, er mwyn ffurfio ‘lein weddi’.
  • Gofynnwch i rai aelodau o’r staff neu oedolion eraill fod ar gael i helpu gyda’r gwasanaeth. Cyfarwyddwch yr oedolion i beidio â dweud wrth y plant beth ddylen nhw fod yn ei brofi. Fe allai fod yn syniad rhoi cyfle i’r oedolion hyn roi cynnig ar y gweithgareddau o flaen llaw, heb i’r plant fod yn bresennol, er mwyn iddyn nhw ddeall beth fydd angen ei wneud.
  •  Trefnwch fod gennych chi ambell drac o gerddoriaeth y band Enya, neu unrhyw gerddoriaeth dawel y gallwch ei chwarae drosodd a throsodd, a’r modd o wneud hynny yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant ein bod yn mynd allan i ddechrau ein gwasanaeth heddiw, ac yn dod yn ôl i’r dosbarth erbyn y rhan olaf.

  2. Nesaf, cyfarwyddwch bob un i wisgo ei got a chydgerdded â chi at y gweithfannau sydd wedi eu paratoi ar eu cyfer.

  3. Anogwch bob plentyn i brofi pob un o’r gweithgareddau mewn unrhyw drefn – gall y plant benderfynu ei hunain at ba weithfan y byddan nhw’n dewis mynd, a pha bryd. Yn ddelfrydol, byddai’n dda iddyn nhw wneud hynny’n dawel, os yw’n bosib, a bod yn feddylgar iawn gyda phob profiad.

    gweithfan 1: cyffwrdd Yn araf, arllwyswch ddwr dros un o’ch dwylo, ac yna dros y llaw arall. Sut deimlad yw hwn?
    gweithfan 2: arogli Caewch eich llygaid ac anadlwch bersawr yr arogldarth. Pa ddelweddau sy’n dod i’ch meddwl?
    gweithfan 3: clywed Arllwyswch ddwr dros y cerrig crynion, mor araf neu gyflym ag y dymunwch. Gwrandewch ar swn y dwr yn disgyn dros y cerrig. Am beth mae’r swn yn gwneud i chi feddwl?
    gweithfan 4: blasu Yn araf, gyda’ch llygaid ar gau, bwytewch un o’r rholiau bara bach, a meddyliwch am y blas.

  4. Gweithfan 5: gweld Pan fydd y plant i gyd wedi cael profiad o bob un o’r gweithfannau sydd allan yn yr awyr agored, gan gymryd hynny o amser y maen nhw’n ei ddymuno, fe ddaw pawb yn ôl i’r dosbarth ac eistedd mewn cylch (neu sut bynnag fydd orau gennych). Fe allan nhw ddewis naill ai edrych ar y delweddau, edrych ar y gannwyll a’r planhigyn, neu gau eu llygaid a gwrando ar y gerddoriaeth gan feddwl am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y gwasanaeth hyd yma.

Amser i feddwl

Rhowch gyfle i’r plant eistedd yn dawel am sbel gyda’r delweddau, a’r gannwyll a’r planhigyn i edrych arnyn nhw, a’r gerddoriaeth i wrando arni a myfyrio.

Pan fyddan nhw’n barod i ‘ddod yn ôl’, dangoswch y stribedi defnydd ac eglurwch eu bod yno i’w helpu i feddwl am neges y gwasanaeth. Os oes un teimlad neu syniad y mae’r plant yn teimlo yr hoffen nhw ddal arno, fe allan nhw glymu un o’r stribedi am y cortyn i gynrychioli’r teimlad neu’r syniad hwnnw. Os oes ganddyn nhw rywbeth maen nhw wedi meddwl amdano sydd fwy fel gweddi, yna fe allan nhw glymu stribed o ddefnydd yn yr un ffordd i gynrychioli’r ystyriaeth neu’r weddi honno.

Pan fydd pob un o’r plant wedi clymu eu stribedi (efallai y bydd rhai plant yn dewis peidio gwneud hynny, a bydd popeth yn iawn), rhowch gyfle i’r rhai fydd yn dymuno ymateb rannu gyda gweddill y plant beth mae eu stribed defnydd yn ei gynrychioli.

Pan fydd pawb yn dawel unwaith eto, gofynnwch i’r plant gau eu llygaid am foment neu ddwy yn ychwanegol mewn distawrwydd.

Er mwyn nodi diwedd y gwasanaeth, dywedwch ‘Diolch’.

Yn dilyn y gwasanaeth, fe allech chi roi’r ‘lein weddi’ i hongian ar un o waliau’r ystafell.

Cân/cerddoriaeth

Un o draciau’r band Enya, neu unrhyw gerddoriaeth arall o’ch dewis

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon