Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Fonesig Vera Lynn

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd y Fonesig Vera Lynn.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y caneuon gafodd eu canu gan y Fonesig Vera Lynn neu rai oddi ar yr albwm, wrth i'r plant ddod i mewn i'r ystafell.

  2. Dangoswch y ddelwedd o Vera fel dynes ifanc.

    Gofynnwch i'r plant ddyfalu pa swydd oedd y wraig hon yn ei wneud.

  3. Eglurwch eich bod yn dymuno adrodd ychydig o hanes bywyd Vera wrth y plant.

    Cafodd Vera ei geni ar 20 Mawrth 1917 yn Llundain. Ar yr adeg honno, roedd yn cael ei galw yn Vera Margaret Welch. Plymwr oedd ei thad ac, o'r amser yr oedd Vera’n saith oed, dechreuodd ganu mewn amryw o leoedd yn ei hardal leol. Pan oedd yn 11 oed, gadawodd Vera’r ysgol a dechreuodd deithio o amgylch y theatrau cerdd yn y Deyrnas Unedig. Yn raddol, daeth Vera’n fwy adnabyddus ac, yn y flwyddyn 1937, daeth yn rhan o raglen radio o'r enw Life from Mayfair. Wrth gael ei chlywed ar y radio, daeth yn fwy adnabyddus byth ac ymhen dim hi oedd un o'r cantorion mwyaf poblogaidd yn y wlad.

  4. Yn y flwyddyn 1939, fe ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ac, yn fuan ar ôl hyn, cafodd Vera ei sioe radio ei hun, o'r enw Sincerely Yours, a ddaeth yn boblogaidd iawn gyda'r milwyr oedd yn brwydro dramor yn y rhyfel. Nid yn unig roedd y rhaglen yn atgoffa'r milwyr fod pobl gartref yn meddwl amdanyn nhw ond roedd hefyd yn codi'r gobaith yn eu plith y bydden nhw, rhyw ddydd, yn cael eu haduno â'r rhai hynny yr oedden nhw'n eu caru.

  5. Dangoswch yr ail ddelwedd o Vera, fel 'cariad y lluoedd arfog'.

    Eglurwch fod Vera, yn ystod y rhyfel, wedi dod i gael ei hadnabod fel 'cariad y lluoedd arfog’(‘the forces’ sweetheart’). Teithiodd dramor, gan ganu i’r milwyr mewn sawl man. Y caneuon mwyaf poblogaidd yr oedd yn eu canu oedd ‘We’ll meet again’ a ‘The White Cliffs of Dover’ - roedd y ddwy gân yn dod â gobaith i filoedd o bobl a oedd wedi eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid oherwydd y rhyfel.

    Os ydych chi'n dymuno darllen geiriau'r caneuon hyn i'r plant, dyma'r adeg y gallech wneud hynny.

  6. Priododd Vera yn y flwyddyn 1941, a chafodd hi a'i gwr un ferch. Ar ôl y rhyfel, parhaodd Vera i ganu ac ymddangos mewn ffilmiau a sioeau cerdd. Yn ystod blynyddoedd y 1950au, cyrhaeddodd un o ganeuon Vera frig y rhestr recordiau yn Unol Daleithiau America.

    Roedd Vera’n defnyddio ei phoblogrwydd i helpu eraill bob amser.  Gweithiodd ar y cyd â llawer o elusennau a'u cefnogi, yn cynnwys elusennau’n ymwneud â'r rhai a oedd y dioddef o effeithiau rhyfel. Vera hefyd a sefydlodd elusen i helpu plant gyda pharlys yr ymennydd.

  7. Yn y flwyddyn 2009, Vera oedd y person hynaf i fod ag albwm a oedd yn gwerthu’r nifer fwyaf o gopïau ym Mhrydain! Daeth ei chasgliad o ganeuon, o'r enw We’ll Meet Again: The very best of Vera Lynn, i frig y rhestr recordiau, a hithau erbyn hynny'n 92 mlwydd oed!

    Yn awr, dangoswch y drydedd ddelwedd o Vera, a hithau yn ei nawdegau.

  8. Yn y flwyddyn 2014, rhyddhaodd Vera albwm arall i goffáu seithdegfed pen-blwydd glaniadau D-Day.  Fe gyrhaeddodd yr albwm, Vera Lynn: National Treasure - The ultimate collection, rif 13 yn y siartiau - ac roedd Vera yn 97 mlwydd oed erbyn hynny!

  9. Trwy gydol ei bywyd, fe ddefnyddiodd Vera ei dawn i ganu er mwyn dod â gobaith a llawenydd i bobl yn awr eu hangen. Fe ddywedodd ei bod hi'n fraint gallu helpu pobl yn y ffordd hon. Adroddwyd iddi ddweud unwaith, ‘Fe dderbyniais lawer iawn o lythyrau. Rwy'n parhau i'w derbyn hyd heddiw, ac mae eu darllen yn fy nghyffwrdd ac yn cael argraff deimladwy iawn arnaf bob amser. Roedd yn ymddangos yn anhygoel i mi fod milwyr oedd yn dychwelyd o'r rhyfel dyn ysgrifennu ataf i ddiolch am yr hyn yr oeddwn wedi ei wneud. Fe wnaeth i mi deimlo'n ostyngedig iawn, a dyna pam rwyf wedi gwneud y cyfan a allaf i dalu'r diolch yn ôl iddyn nhw.’

  10.  Fe ddefnyddiodd Vera ei doniau er budd pobl eraill. Sut y gallwn ni ddefnyddio ein bywydau i helpu eraill?

Amser i feddwl

Gadewch i ni ddiolch i Dduw am yr holl weithredoedd da a gyflawnodd y Fonesig Vera Lynn yn ystod ei bywyd, a diolch am yr holl obaith a heddwch a ddaeth i ran cymaint o bobl trwy ei cherddoriaeth yn y gorffennol ac sy’n parhau i wneud hyd heddiw.

Gadewch i ni oedi am foment a meddwl am bobl sy’n brwydro  mewn ardaloedd sy’n dioddef oherwydd rhyfeloedd heddiw. Yn y tawelwch, gadewch i ni ofyn i Dduw am heddwch i’r byd.

Efallai yr hoffech chi chwarae un o ganeuon Vera Lynn yn ystod y cyfnod hwn o ddistawrwydd.

Gadewch i ni oedi eto am foment a meddwl am ein bywyd ein hunain. Sut byddai modd i ni allu defnyddio rhywbeth yn ein bywyd i helpu pobl eraill? Fe ddefnyddiodd Vera Lynn ei dawn hi i ganu er mwyn dod â heddwch a gobaith i bobl mewn adeg ddychrynllyd o ofn a thristwch. Mae gan bob un ohonom ddoniau y byddai modd i ni eu defnyddio er mwyn dod â hapusrwydd i eraill. Allwn ni ddefnyddio’r doniau hynny sydd gennym, ac a ydyn ni’n fodlon eu defnyddio er mwyn gwneud rhywun yn hapus?

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am yr holl ddaioni y mae’r Fonesig Vera Lynn wedi ei gyflawni yn ystod ei bywyd.
Rydyn ni’n diolch i ti am y llawenydd, yr heddwch a’r gobaith y gallodd hi ei roi i gymaint o bobl.
Helpa ni i ddilyn ei hesiampl fel y byddem yn gallu defnyddio ein doniau a’n talentau i helpu eraill. Bydd gyda’r rhai sydd yn profi rhyfel ac ofn ar hyn o bryd.
Gofynnwn i ti ddod â heddwch i’r byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon