Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sir Nicholas Winton

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dathlu’r ffaith bod Sir Nicholas Winton wedi achub 669 o blant Iddewig cyn yr Ail Ryfel Byd, ac ystyried sut y byddai modd i ni, hefyd, fod yn arwyr cudd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun o Sir Nicholas Winton, a’r modd o’i ddangos  yn ystod y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi fynediad at y fideo YouTube video, Sir Nicholas Winton: The man who saved 669 children from the Nazis, Channel 4 News, a’r modd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.youtube.com/watch?v=HxkCeVtwHl8 ). Mae’n para 3.02 munud, ond efallai yr hoffech chi ddechrau ei chwarae 30 eiliad i mewn o’r dechrau.

Gwasanaeth

Dangoswch y llun o Sir Nicholas Winton.

Heddiw, rwy'n awyddus i chi ddod i wybod am y dyn hwn. Tybed a fedrwch chi ddyfalu beth yw ei oedran? Tybed a all unrhyw un ohonoch chi ddweud wrthym pwy ydyw?

Mae'r dyn hwn yn 105 mlwydd oed. O bosib, fydd gennych chi ddim syniad pwy ydyw.

Pan oedd yn 29 mlwydd oed, fe wnaeth beth dewr ac arwrol iawn, ond wnaeth o ddim sôn wrth neb am y peth ar ôl hynny. Wnaeth o ddim ymffrostio na dwyn sylw ato'i hun. Mae wedi bod ar y teledu unwaith neu ddwy ers hynny, ond nid yw'n enwog iawn, er ei fod wedi cyflawni rhywbeth anhygoel; rhywbeth arwrol iawn. Oherwydd ei ostyngeiddrwydd - sy'n golygu nad yw rhywun yn meddwl amdano ei hun fel rhywun pwysig - dydyn ni ddim yn cael clywed llawer am ei stori. Mae'n stori rwy'n credu y dylen ni gofio amdani, fodd bynnag, a dyna pam rwy'n mynd i'w rhannu â chi heddiw.

Enw'r dyn oedd yw Syr Nicholas Winton. Cafodd ei eni yn Lloegr yn y flwyddyn 1909. Roedd ei fam a'i dad wedi dod o'r Almaen tua dwy flynedd ynghynt, ac roedden nhw'n Iddewon, er eu bod wedi troi at Gristnogaeth a newid eu henwau er mwyn iddyn nhw allu integreiddio'n rhwyddach yn eu gwlad newydd.

Pan oedd yn 29 mlwydd oed, fe sylweddolodd Nicholas Winton bod y gyfundrefn Natsïaidd, a oedd yn rheoli'r Almaen ar y pryd, yn trin yr Iddewon yn wael iawn.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr Iddewon wedi cael eu hatal rhag dal rhai swyddi, a’u rhwystro rhag cael mynediad at lyfrau er mwyn astudio. Roedden nhw'n cael eu cadw ar wahân oddi wrth weddill y bobl yn eu cymuned.

Gwelodd Nicholas Winton fod yr Iddewon yng ngwlad Tsiecoslofacia, yr oedd y Natsïaid wedi ei goresgyn, yn wynebu mwy o berygl, felly fe wnaeth y cyfan a allai i'w helpu. Trefnodd gludiant i 669 o blant Iddewig i adael Tsiecoslofacia’n ddiogel am Loegr. Fe drefnodd gartrefi newydd ar eu cyfer, lle'r oedd modd iddyn nhw fyw'n ddiogel, derbyn addysg, derbyn gofal a thyfu i fyny, yn ddigon pell oddi wrth y peryglon yn y wlad lle'r oedden nhw'n byw cyn hynny.

Fe ddigwyddodd hyn ychydig amser cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, pan oedd Prydain, ynghyd â gwledydd eraill, yn ymladd yn erbyn yr Almaen er mwyn atal y Natsïaid rhag ceisio meddiannu'r gwledydd eraill o gwmpas yr Almaen a thrin yr Iddewon mor wael.

Cafodd llawer iawn o Iddewon eu hanfon i wersylloedd crynhoi a'u lladd yno gan y Natsïaid.

Gallwch ymhelaethu ar hyn neu beidio, fel y byddwch yn barnu y gall fod yn briodol o bosib ar gyfer y plant sy'n mynychu'r gwasanaeth.


Diolch i ddewrder Nicholas Winton, cafodd 669 o blant eu harbed rhag y dynged hon a chael cynnig cyfle newydd yn Lloegr.

Yn aml, pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth dewr fel hyn, rydym yn ei alw'n arwr - a hynny'n haeddiannol! Roedd yr hyn a wnaeth Syr Nicholas Winton yn anghredadwy, yn ddewr iawn, ac yn arwrol dros ben, ond fe ddigwyddodd rhywbeth mwy anghredadwy fyth. Yn anaml y byddai'n siarad am yr hyn yr oedd wedi ei wneud gan gredu nad oedd yn rhywbeth rhyfeddol. Nid oedd yn tynnu sylw ato'i hun nac yn ymffrostio na dweud wrth eraill ei fod yn arwr, fe aeth ymlaen â'i fywyd, gan helpu llawer o bobl eraill, hefyd, mewn sawl ffordd wahanol.

Ymhen blynyddoedd lawer wedyn y trosglwyddodd ffrind teuluol ei lyfr lloffion i bapur newydd a daeth ei stori i sylw'r rhaglen deledu That’s Life!  Roedd y llyfr lloffion yn cynnwys lluniau, dogfennau, llythyrau a ffotograffau yn ymwneud â'r ymgyrch, a rhestr o enwau'r plant gafodd eu hachub ganddo, yn debyg iawn i gofrestr. Llwyddodd trefnwyr y rhaglen i ddod o hyd i nifer dda o'r plant, a oedd yn oedolion bellach, wrth gwrs, a rhoi'r cyfle iddyn nhw ddatgan eu diolch iddo am eu hachub.

Pan gafodd stori Nicholas Winton ei datgelu o'r diwedd, cafodd ei anrhydeddu am ei ddewrder a diolchwyd iddo am y modd yr oedd wedi gofalu am y plant hyn. Hyd yn oed wedyn, ni thynnodd sylw ato'i hun - yn lle hynny, fe geisiodd dynnu sylw oddi ar yr hyn yr oedd wedi ei wneud, gan ddiolch yn hytrach i'r plant!

Gadewch i ni wylio’r fideo sydd yma am Sir Nicholas Winton, ac fe fyddwch chi’n gweld beth rwy’n ei feddwl.

Chwaraewch y fideo YouTube - Sir Nicholas Winton: The man who saved 669 children from the Nazis.

Amser i feddwl

Fe soniodd Iesu am y ffordd yr oedd rhai pobl yn tynnu sylw atyn nhw'u hunain pan fydden nhw'n gwneud pethau i elusen neu’n rhoi arian i'r tlodion. Fe ddywedodd, yn lle hynny, os ydyn ni'n rhoi arian gyda'n llaw dde, na ddylai hyd yn oed ein llaw chwith wybod am hynny. Roedd yn ffordd ryfedd o wneud yn siwr fod pobl yn deall yr hyn yr oedd yn ceisio’i ddweud, sef, pan fyddwn yn rhoi rhywbeth i eraill, fe ddylai hynny gael ei wneud yn hollol gyfrinachol, yn union fel yr achubodd Sir Nicholas Winton y plant yn gyfrinachol.

Mae'n hollol annhebygol y bydd unrhyw un ohonom yn cael y cyfle i achub 669 o blant, ond, bob dydd, fe allwn ni fod yn arwyr cyfrinachol mewn ffyrdd syml. Efallai y gallwn ni godi sbwriel a'i roi yn y bin, neu efallai y gallwn ni rannu'r hyn sydd gennym ni gyda phobl sydd ei angen yn fwy na ni. Cofiwn beidio ag ymffrostio na thynnu sylw atom ein hunain, ond yn hytrach cadw'n gyfrinachol ein gweithredoedd arwrol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am Sir Nicholas Winton, ac am y ffordd y llwyddodd i achub yr holl blant hynny o berygl. Diolch hefyd am ei agwedd ostyngedig, byth yn brolio nac yn ceisio enwogrwydd iddo’i hun. Helpa ni, yr wythnos hon, i ddod o hyd i ffyrdd o ddilyn ei esiampl, a bod yn arwyr cudd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon