Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Troi’n ôl

Gwasanaeth ar gyfer y Garawys (Dydd Mercher Lludw)

gan Ruth Hind

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad edifeirwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi gael cwmpawd a map fel cymhorthion gweledol ar gyfer y stori yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Adroddwch y stori sy’n dilyn, gan oedi i ofyn y cwestiynau i’r plant a derbyn eu hymateb.

Tybed faint ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfeiriannu?

Gweithgaredd antur awyr agored yw cyfeiriannu. Y nod yw symud trwy nifer o bwyntiau, neu reolfannau, sydd wedi eu nodi ar fap.

Dangoswch y map a’r cwmpawd, os byddwch am eu defnyddio.

Rydych chi’n symud ymlaen o’r naill bwynt i’r llall, gan benderfynu pa un yw’r ffordd orau i gyflawni’r cwrs yn yr amser cyflymaf. Mae’n gallu bod yn weithgaredd cyffrous.

Sami’n dysgu gwers bwysig

Roedd Sami wrth ei fodd gyda’r gweithgaredd cyfeiriannu. Ambell dro, fe fyddai’n gwneud hynny gyda’i deulu, dro arall gyda grwp o ffrindiau o’r clwb. Roedd yn gallu darllen map yn dda, ac fel arfer fyddai Sami byth yn mynd ar goll. Fodd bynnag, fydd o byth yn anghofio’r un tro hwnnw pan aeth o ar goll.  

Doedd o ddim yn meddwl y byddai’n colli ei ffordd. Roedd yn meddwl y byddai’n ennill y gystadleuaeth yn hawdd. Roedd o mewn coedwig a oedd yn gyfarwydd iddo. Credai ei fod yn adnabod y lle fel cefn ei law. Edrychodd ar ei fap  a meddyliodd, ‘Iawn, mae hwn yn edrych yn llwybr digon hawdd.’ Cynlluniodd y daith yn ei feddwl yn sydyn a chychwyn y ras yn eithaf cyflym, gan alw ar weddill aelodau ei dîm i’w ddilyn. Gwaeddodd, ‘Dewch, fe allwn ni ennill!’ Er nad oedd wedi rhoi cyfle i’r lleill edrych ar y map, fe wnaethon nhw ei ddilyn.

Ar y dechrau, roedd popeth yn iawn, ond yn raddol roedd y llwybr yr oedden nhw’n ei ddilyn yn mynd yn gulach ac yn fwy anodd, gyda drain a mieri’n tyfu ar ei draws. Er gwaethaf yr anhawster, roedd Sami’n benderfynol o ddal ymlaen. Aeth y llwybr yn fwy serth, ac roedden nhw wedi bod yn rhedeg am hir heb weld yr un o’r rheolfannau. Dechreuodd Sami feddwl efallai ei fod wedi mynd i’r cyfeiriad anghywir.

Beth ydych chi’n feddwl ddylai Sami ei wneud?

Ddywedodd Sami ddim wrth unrhyw un arall ei fod yn meddwl eu bod yn mynd i’r cyfeiriad anghywir - dim ond dal i fynd yn ei flaen. Dechreuodd y lleill bryderu. ‘Wyt ti’n siwr ein bod yn mynd y ffordd iawn, Sami?’ Edrychodd aelodau eraill y tîm ar y map a phenderfynu bod rhaid iddyn nhw fynd i gyfeiriad arall.

Roedd Sami’n rhy falch i gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad. Penderfynodd ei fod yn mynd i dorri pob rheol a mynd ymlaen ar ei ben ei hun. Roedd yn bendant y byddai’n gweld tirnod yn rhywle y byddai’n ei adnabod, ac wedyn yn gallu dweud lle’r oedd o. Ond fe ddechreuodd fwrw glaw yn drwm, ac roedd yn anodd gweld unrhyw beth o gwbl. Dyna pryd y sylweddolodd ei fod wedi gwneud camgymeriad go iawn. Ni ddylai byth fod wedi gadael ei grwp.

Beth ydych chi’n feddwl ddylai Sami ei wneud?

Penderfynodd Sami droi yn ei ôl a cheisio mynd yn ôl yr un ffordd ag y daeth o. Er ei fod wedi blino, ceisiodd symud yn gyflym. Roedd yn awyddus iawn i gael ymuno â’i ffrindiau mor fuan ag y gallai!

Sut ydych chi’n meddwl yr oedd Sami’n teimlo?

Pan welodd Sami’r lleill yn y pellter teimlodd ryddhad mawr ac fe redodd atyn nhw. Wedyn, gyda’i gilydd fe wnaethon nhw edrych yn iawn eto ar y map. Fe wnaethon nhw sylweddoli eu bod wedi mynd i’r cyfeiriad cwbl anghywir a bod angen iddyn nhw droi a mynd i’r cyfeiriad hollol groes.

Wnaeth tîm Sami ddim ennill y gystadleuaeth gyfeiriannu y diwrnod hwnnw, ond fe wnaethon nhw o leiaf orffen y cwrs, ac roedd Sami wedi dysgu gwers bwysig iawn, iawn: os byddwch chi’n mynd i’r cyfeiriad anghywir mae’n well cyfaddef hynny mor fuan â phosib.

Yn y Beibl, mae sawl enghraifft o bobl sy’n sylweddoli eu bod wedi mynd y ffordd anghywir ac wedi newid cyfeiriad. Ambell dro, nid ar goll yn gorfforol y maen nhw, ond yn hytrach wedi penderfynu dilyn llwybr anghywir yn eu bywyd neu yn eu ffordd o fyw.

Yn dibynnu ar lefel gwybodaeth y plant am y Beibl, efallai yr hoffech chi ofyn iddyn nhw awgrymu enghreifftiau, gan ddisgwyl i’r plant gyfeirio at stori Sacheus, y Mab Afradlon neu hanes Jacob.

Sylweddoli eich bod yn mynd y ffordd anghywir, a throi yn ôl, yw’r hyn mae Cristnogion yn ei alw’n edifeirwch. Penderfynu eich bod yn edifar am rywbeth a newid eich ffordd o fyw. Ond does dim rhaid i chi fod yn Gristion i edifarhau. Pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriad, fe ddylem i gyd gyfaddef hynny a gwneud rhywbeth am y peth. Dyna beth yw edifarhau ac, weithiau, fel pan aeth Sami ar goll, dyna’r peth gorau y gallwn ni ei wneud.

Amser i feddwl

Tybed ydych chi wedi gwneud dewis anghywir ryw dro?

Tybed sut rydych chi’n teimlo ynghylch gofyn am help?

Dydi hi ddim bob amser yn hawdd cyfaddef pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, ond mae pobl ddewr yn wynebu eu camgymeriadau a, phan fyddan nhw’n gwneud hynny, maen nhw’n gweld bod pobl eraill yn barod i helpu a chael pethau’n ôl yn iawn unwaith eto, gyda’i gilydd.

Gweddi

Arglwydd,
Ambell dro, fe allwn ni fynd i’r cyfeiriad anghywir,
Ambell dro, fe allwn ni sylweddoli ein bod wedi gwneud camgymeriad.
Rho i ni’r dewrder i newid cyfeiriad, a’r hyder i wybod dy fod ti gyda ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon