Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Addunedau Blwyddyn Newydd

gan Gill O'Neill

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am yr holl addunedau sy’n cael eu gwneud, a pha mor anodd yw eu cadw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar ddarnau bach o gerdyn, ysgrifennwch tua 10 o addunedau y gallech chi fod wedi’u gwneud (neu fe allan nhw  fod yn rhai gan y plant), e.e. Rwyf am:

        weithio’n galetach yn yr ysgol,
        bwyta mwy o lysiau a llai o felysion,
        gwneud mwy o ymarfer,
        cadw fy ystafell wely’n daclus,
        rhoi’r gorau i gnoi fy ewinedd,
        ymweld â fy ffrindiau’n amlach,
        gwenu mwy,
        bod yn fwy prydlon,
        gorffen fy ngwaith mewn pryd,
        helpu mwy ar fy rhieni.

  • Rhowch y darnau mewn bocs (fel bocs esgidiau) a’i lapio â phapur newydd.

Gwasanaeth

1. Dywedwch wrth y plant gymaint y gwnaethoch chi fwynhau’r Nadolig, a’ch bod chi wedi cael anrhegion hyfryd. (Gallwch ddiolch i’r plant os yw hynny’n briodol.) Fe allech chi ymestyn y rhan yma trwy sôn am anrhegion gawsoch chi, a rhai y gwnaethoch chi eu rhoi, a holi am yr anrhegion gafodd y plant - ond gwyliwch am y syndrom ‘gefais i anrhegion drud’!

Dangoswch y bocs ac eglurwch eich bod wedi dod o hyd i un anrheg heb ei agor. Gofynnwch am help un neu ddau o’r plant i agor yr anrheg i chi. A gofynnwch iddyn nhw ei ysgwyd a’i deimlo a dyfalu beth sydd ynddo cyn ei agor. Ar ôl iddyn nhw’i agor gofynnwch iddyn nhw ddweud wrth y plant eraill beth sydd yn y bocs: dim ond darnau o bapur.

Edrychwch yn siomedig a dweud wrth y plant nad dyma beth oeddech chi’n ddisgwyl.


2. Gofynnwch i blentyn arall ddewis un o’r cardiau o’r bocs a darllen beth sydd arno. Ymatebwch fel petai chi’n meddwl mai adduned y plentyn ei hun yw’r adduned, gan ddweud pethau fel “Wyt ti wir?” Nag wyt erioed! Go dda wir!.

Dewiswch blant eraill, fesul un, i ddod i ddewis cerdyn a gwnewch yr un peth eto. Wedyn gofynnwch i’r plant sefyll yn rhes a dangos y cardiau. Darllenwch bob un eto ac anfon y plant yn ôl i’w lle.


3. Eglurwch i’r plant mai eich addunedau chi oedd y rhain mewn gwirionedd. Dywedwch a ydych chi wedi llwyddo i’w cadw hyd yn hyn, a pham y gwnaethoch chi ddewis yr addunedau yma. Dywedwch wrth y plant pa mor hir rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gallu eu cadw.


4. Holwch y plant oes rhai ohonyn nhw wedi gwneud addunedau. Ydyn nhw wedi gallu eu cadw hyd yn hyn? Oes rhai plant wedi methu cadw’u haddunedau?


5. Dywedwch wrth y plant fod llawer o’ch addunedau’n bethau cadarnhaol. Rydych chi am wneud rhywbeth. Ond yn aml mewn addunedau fe fyddwn ni’n penderfynu peidio â gwneud rhywbeth e.e. rhai pobl am beidio ag ysmygu, peidio â rhoi siwgr yn eu te, peidio â bwyta siocled etc. A gyda’r math yma o addunedau y maen nhw’n fwyaf tebygol o fethu â’u cadw. Yn hytrach na thynnu rhywbeth allan o’n bywyd, mae’n well i ni feddwl am roi rhywbeth da i mewn ynddo.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a cheisiwch feddwl am un neu ddau o bethau yr hoffech chi eu newid ynglyn â chi’ch hun. Meddyliwch am ffordd gadarnhaol y gallech chi newid. Allech chi wneud mwy i helpu gartref neu yn yr ysgol? Allech chi weithio’n galetach i ddatblygu talent sydd gennych chi. Allech chi helpu i godi arian at achos da, efallai?

Sut gallech chi newid i ychwanegu rhywbeth newydd neu wahanol er mwyn gwneud eich hun yn unigolyn gwell?

Annwyl Dduw.
Rho nerth i ni gadw’n haddunedau,
fel eu bod yn dal gyda ni ar ddiwedd y flwyddyn.
Felly fe fyddwn ni wedi gallu gwneud
rhywbeth cadarnhaol yn ein bywydau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2003    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon