Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adeiladwyr a theirw dur

Ydych hi’n adeiladu pobl neu’n eu taro i lawr?

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ein hatgoffa y dylai ein geiriau a’n gweithredoedd fod yn gyfrwng i annog pobl eraill ac nid i’w bychanu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi ddelweddau o darw dur (bulldozer), a dau neu dri o bobl yn gweithio fel adeiladwyr – yn ddelfrydol un dyn ac un ddynes, beth bynnag, a threfnwch fodd o ddangos y delweddau hyn yn ystod cam 4 y gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen rhai blociau chwarae adeiladu.

Gwasanaeth

  1. Heddiw rydyn ni’n mynd i feddwl am y gwahanol bethau y gallech chi eu gweld ar safle adeiladu. Allwch chi feddwl am rai o’r cerbydau neu’r peiriannau y bydden ni’n debygol o’u gweld ar safle adeiladu?

    Gwahoddwch y plant i awgrymu enwau rhai cerbydau neu beiriannau y gallan nhw feddwl amdanyn nhw, fel cloddiwr, dympar, injan rowlio, peiriant cymysgu sment ac ati.

  2. Ydych chi’n gwybod pa wahanol waith y mae pob un o’r holl beiriannau hyn yn ei wneud?

    Treuliwch foment neu ddwy yn siarad am y gwahanol gerbydau neu beiriannau a gynigiwyd gan y plant, a sôn am eu gwahanol swyddogaethau ar safle adeiladu.

  3. Mae rhai peiriannau ar safle adeiladu sy’n cael eu defnyddio i daro i lawr bethau fel waliau, a hen adeiladau oedd yno eisoes, er mwyn gallu clirio’r lle. Ac mae peiriannau eraill yn cael eu defnyddio i adeiladu tai newydd, adeiladu ffyrdd, twneli, pontydd ac adeiladau eraill. Caiff y rhai hynny eu defnyddio yn y broses o adeiladu pethau newydd.

  4. Felly, rydyn ni wedi bod yn meddwl am y ffordd mae rhai peiriannau’n cael eu defnyddio i adeiladu pethau a rhai eraill yn cael eu defnyddio i chwalu pethau. Fe hoffwn i ofyn i chi nawr ai adeiladwyr ydych chi sy’n helpu i godi pethau, neu ai teirw dur ydych chi sy’n chwalu pethau?

    Dangoswch y delweddau sydd gennych chi o darw dur ac adeiladwyr.

  5. Caiff y tarw dur ei ddefnyddio i chwalu pethau, i’w gwthio o’r ffordd a chlirio’r lle. Mae’n beiriant sy’n dymchwel ac yn distrywio, ac yn cael ei ddefnyddio i gael gwared â phethau. Mae hynny’n fy atgoffa o sut y gallwn ni fod yn ymddwyn ambell dro. Fe fyddwn ni weithiau’n dweud pethau cas, difeddwl efallai, neu’n beirniadu’r ffordd mae rhywun yn gwneud rhywbeth, neu efallai y byddwn ni’n cau pobl allan o rywbeth y byddwn ni’n ei wneud, neu allan o’r gemau y byddwn ni’n eu chwarae. Mae hynny’n ein gwneud yn debyg i’r tarw dur, yn gwthio eraill i lawr heb fod yn adeiladol iawn.

  6. Fe fyddai’n well pe bydden ni’n gallu bod yn fwy fel yr adeiladwyr, yn adeiladu pobl trwy eu hannog a dweud pethau caredig wrthyn nhw, trwy ganmol eraill pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth yn dda, a thrwy ofalu eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cynnwys i fod yn rhan o’ch gweithgareddau.

    Estynnwch y blociau chwarae adeiladu a dechreuwch godi twr uchel wrth i chi siarad.

  7. Bob tro y byddwn ni’n dweud rhywbeth caredig wrth bobl eraill, fe fyddwn ni’n eu ‘codi’ a gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fe allen ni wneud hyn trwy wneud i eraill deimlo eu bod yn cyfrif, wrth ddweud ‘Helo’ wrthyn nhw yn y bore. Yna, os gwelwn ni rywun ar ben ei hun, neu’n edrych yn unig ar yr iard, fe allen ni eu gwahodd i ymuno yn ein gêm. Efallai, pan fyddwn ni’n gweld rhywrai’n ceisio’u gorau glas yn y dosbarth, fe allen ni ddweud ‘Da iawn’ wrthyn nhw, er mwyn eu hannog. Bob tro y byddwn ni’n gwneud pob un o’r pethau hyn, fe fyddwn ni’n adeiladu’r unigolion eraill gam wrth gam ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus, yn falch, ac yn hyderus. Byddai hynny’n ein gwneud ni’n ‘adeiladwyr’ wrth i ni ‘adeiladu’ y rhai sydd o’n cwmpas.

  8. Fe fyddai’n ardderchog pe gallen ni fod ag ysgol lawn o adeiladwyr, lle bydden ni bob dydd yn chwilio am ffyrdd o wneud i bobl eraill deimlo’n hapus a hyderus. Fe fyddai hynny gymaint gwell na bod fel teirw dur yn chwalu pobl gyda geiriau cas ac angharedig.

Amser i feddwl

 Gadewch i  ni fod yn hollol dawel am foment er mwyn i ni gael cyfle i feddwl.

Tybed sut byddwch chi’n teimlo pan fydd rhywun yn dweud pethau annifyr wrthych chi? Efallai eu bod wedi bod yn gas wrthych chi trwy eich gadael allan o’u gêm neu heb fod wedi cydweithio’n hapus â chi yn y dosbarth. Dyna sut mae’n teimlo i gael eich gwthio gan y ‘tarw dur’!

Nawr, pwy sy’n gwybod sut deimlad yw pan fydd rhywun yn eich trin yn garedig? Sut beth yw cael rhywun yn dweud, ‘Da iawn’ wrthych chi pan fyddwch chi’n gweithio’n galed, neu pan fydd rhywun wedi gwneud ymdrech arbennig i fod yn ffrind da i chi? Dyna sut beth yw bod yng nghwmni ‘adeiladwr’, ac mae’n llawer gwell i bawb ohonom fod yn adeiladwyr!

Yn y Beibl, yn un o’r llythyrau at yr Eglwys Fore, mae’n dweud y dylen ni annog ein gilydd ac adeiladu’r naill a’r llall, a dyna’n union beth rydyn ni wedi bod yn sôn amdano heddiw. Dyma’r adnod o’r Beibl: ‘Am hynny, calonogwch eich gilydd ac adeiladwch bob un ei gilydd – fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.' (1 Thesaloniaid 5.11)

Gweddi
Arglwydd,
Diolch am ein ffrindiau ac am gymuned yr ysgol.
Diolch am yr holl wahanol ffyrdd y gallwn ni annog ein gilydd – trwy siarad yn garedig a bod yn garedig gyda phobl eraill.
Helpa ni i fod yn adeiladwyr, fel y gallwn ni adeiladu ein gilydd i fod yr unigolion gorau bosib.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Love is something if you give it away’ neu ‘Magic penny’ gan Malvina Reynolds

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon