Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dwi'n hapus

gan Trish Tazzini-Lloyd

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio beth sy’n ein gwneud yn hapus a sut gallwn ni rannu ein hapusrwydd ag eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r rhan o Efengyl Luc 14.12–14 , y darn y mae’r stori sydd yng Ngham 4 y gwasanaeth hwn yn seiliedig arno.
  • Trefnwch fod gennych chi gasgliad bach o wahanol lyfrau Mr Men a Miss Fach.
  • Casglwch ynghyd rai delweddau o emoticonau, a threfnwch fodd o’u harddangos.

Gwasanaeth

  1. Tybed oes rhai ohonoch chi wedi gweld y llyfrau hyn o’r blaen, a rhai tebyg iddyn nhw?

    Dangoswch y llyfrau Mr Men a Miss Fach sydd gennych chi.

  2. Roeddwn i’n meddwl dechrau gyda gêm fach. Pe bawn i’n dweud enw gwahanol gymeriadau Mr Men neu Miss Fach wrthych chi, allech chi wneud ystum i gyfleu pob un ohonyn nhw yn eu tro?

    Er enghraifft, ar gyfer Mr Goglais fe allai’r plant smalio codi goglais ar rywun dychmygol. Ar gyfer Mr Ffroenuchel, fe allen nhw ddal eu pen i fyny ac edrych i lawr eu trwyn ar y rhai sydd o’u cwmpas. Gwneud eu hunain yn fach ar gyfer Mr Bach, efallai, ac ati. Ac ar gyfer Mr Hapus fe allen nhw roi gwên fawr ar eu hwyneb. Cyflymwch y gweithgaredd fel rydych chi’n mynd ymlaen, a chadwch Mr Hapus tan y cymeriad olaf.

  3. Tybed ydyn ni’n hapus heddiw, neu efallai ein bod fel un o’r cymeriadau hyn sydd gennym yma.

    Dangoswch y delweddau o’r emoticonau.

    Efallai bod un o’r rhain yn darlunio sut rydych chi’n teimlo o ddifri heddiw.

    Sgwrsiwch ychydig am bob un o’r emoticonau hyn yn eu tro. Er enghraifft:

    – wyneb hapus: gall llawer o bethau ein gwneud yn hapus, tywydd braf, ein tîm pêl-droed yn ennill gêm, cael gwahoddiad i barti . . .
    – wyneb trist: mae adegau pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn hefyd, os byddwn ni’n cael ein gadael allan o weithgareddau neilltuol, os byddwn ni wedi cwympo, os byddwn ni’n sâl, neu ffrindiau wedi bod yn gas wrthym ni.

  4. Y mae’r Beibl, llyfr cysegredig Cristnogion, yn cynnwys llawer o storïau y gallen ni ddefnyddio’r lluniau hyn ar eu cyfer. Mae rhai’n storïau trist, rhai’n storïau hapus, rhai yn llawn cyffro a rhai’n sôn am antur a dewrder.

    Heddiw, mae ein stori’n sôn am barti yr aeth Iesu iddo. Tybed ai wyneb hapus ai wyneb trist fydd ei angen arnom ni i fynd gyda’r stori hon?

    Iesu’n mynd i barti yn nhy dyn pwysig

    Un diwrnod, cafodd Iesu wahoddiad gan ryw ddyn i fynd i’w barti. Felly, fe aeth Iesu yno. Pan oedd yn y parti fe ddywedodd Iesu wrth y dyn, ‘Pam rydych chi wedi gwahodd yr holl bobl anghywir i’ch parti?’

    Edrychodd y dyn ar Iesu mewn penbleth a dweud, ‘Dydw i ddim yn dy ddeall. Wnes i ddim wedi gwahodd y bobl anghywir.’ Yna, fe ddywedodd Iesu wrtho, ‘Rwyt ti wedi gwahodd dy holl ffrindiau cyfoethog, y bobl bwysig, a’r aelodau o dy deulu yr wyt ti’n fwyaf hoff ohonyn nhw. Mae’n debyg dy fod wedi gwahodd y bobl hyn er mwyn i ti gael gwahoddiad yn ôl i’w partïon nhw pan fyddan nhw’n cael parti.’

    ‘Wel, do, mae’n debyg bod hynny’n wir,’ atebodd y dyn.

    Wedyn, fe ddywedodd Iesu wrtho, ‘Y tro nesaf, pan fyddi di’n cynnal parti, beth am i ti beidio â gwahodd y bobl hyn ond yn hytrach dos allan i’r strydoedd a rho wahoddiad i’r bobl sy’n unig, y rhai sy’n ddigartref, a’r bobl sy’n begio am fwyd – rho wahoddiad i’r holl bobl hynny sydd byth yn cael cyfle i fynd i barti.’

    ‘Pam dylwn i wneud hynny?’ holodd y dyn.

    Atebodd Iesu ef fel hyn, ‘Wel, am na fydd y bobl hyn byth yn gallu dy wahodd di i barti ganddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn ddigon cyfoethog i gynnal eu partïon eu hunain. Ond hyd yn oed os na allan nhw dy wahodd di i barti, does dim gwahaniaeth am hynny. Fe fydd Duw mor hapus gyda’r hyn y byddi di wedi ei wneud gan y byddi di wedi dangos caredigrwydd mawr.’

  5. Tybed sut gallwn ni ddangos caredigrwydd at bobl eraill heddiw? Tybed ydyn ni’n adnabod pobl sy’n cael eu gadael allan o weithgareddau? Beth allwn ni ei wneud i beri iddyn nhw deimlo’n hapusach?

Amser i feddwl

Wrth i ni weddïo, meddyliwch am yr holl bethau sy’n eich gwneud chi’n hapus, a sut y gallwch chi ddod â hapusrwydd i eraill.

Gweddi
Arglwydd,
Diolch i ti am y byd rhyfeddol hwn yr wyt ti wedi ei greu.
Helpa ni i gymryd amser i rannu gwên a gwneud gweithredoedd bach caredig a fydd yn dod â hapusrwydd i fywyd y rhai y byddwn ni’n cwrdd â nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

I’m gonna jump up and down (be happy!) gan Doug Horley oddi ar y CD Lovely Jubbly (Integrity Music, 2002)

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon