Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo, Sgryffi!'

Bywyd mwy teg: Iesu’n clirio’r deml

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried sut gallwn ni wneud y byd yn lle mwy teg ar gyfer pawb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn ffurfio ail ran gwasanaeth ‘Helo Sgryffi: Hosanna (Dathliad Gwyl Fai)’, ond mae’n bosib ei ddefnyddio ar ei ben ei hun – dim ond gwneud y newidiadau priodol a awgrymir yng Ngham 2 y gwasanaeth.
  • Ymgyfarwyddwch â’r darn o’r Beibl - Mathew 21.12,13 – y mae’r stori sydd i’w gweld yng Ngham 9 y gwasanaeth yn seiliedig arno.
  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Chwiliwch am ddarn byr o gerddoriaeth addas i’w chwarae yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

1.Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

2.Os byddwch chi’n dilyn ymlaen o’r gwasanaeth ‘Hello, Sgryffi: Hosanna (Dathliad Gwyl Fai)’, dywedwch y canlynol. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn bydd angen i chi addasu fel mae’n briodol a gosod yr olygfa o Liwsi Jên yn cael ei choroni’n Frenhines Gwyl Fai, ac yn cymryd rhan yn y dathliadau.

Mae Sgryffi eisiau dweud wrthych chi beth ddigwyddodd ar ôl i Liwsi Jên gael ei choroni’n Frenhines Fai.

3. Roedd llawer iawn o bethau diddorol i’w gwneud yn y parc y diwrnod hwnnw – castell bownsio, twba lwcus, stondinau gwerthu melysion, bisgedi a theisennau cartref, stondin deganau a chwaraeon, ac os oedd y bobl yn teimlo eu bod eisiau rhywbeth i’w fwyta roedd yno farbeciw yn gwerthu cwn poeth a byrgers, ac roedd yno fan gwerthu hufen ia hefyd.

Beth hoffech chi ei wneud yn y parc?

4. Roedd pwyllgor y pentref wedi penderfynu bod yr arian roedden nhw’n ei gasglu ar y diwrnod yn mynd i gael ei anfon i gartref plant amddifad yn Affrica.

5. Daeth llawer o fechgyn a merched i weld Sgryffi a’r gert liwgar yr oedd yn ei thynnu ar ei ôl gyda Liwsi Jên yn eistedd ynddi, ac fe roddodd hynny syniad da i Liwsi Jên. ‘Dad,’ meddai hi, ‘fe hoffwn i godi arian at gartref y plant bach yn Affrica. Gaiff Sgryffi a fi gario’r plant sydd eisiau mynd am dro rownd y parc? Fe allen ni godi 50 ceiniog ar bawb sydd eisiau cael reid.’ Cytunodd Mr Bryn, ond oherwydd nad oedd y gert yn fawr iawn, dim ond dau blentyn y byddai Liwsi Jên yn gallu eu cario gyda hi ar y tro.

6. Roedd y teithiau gyda Liwsi Jên a Sgryffi yn boblogaidd iawn, ac felly am weddill y pnawn fe fu Sgryffi’n trotian o gwmpas y parc gyda Mr Bryn yn arwain gan ofalu bod pawb yn ddiogel.

7. Am 6 o’r gloch meddyliodd Mrs Bryn ei bod hi’n amser i Liwsi Jên gael rhywbeth i’w fwyta oddi ar y barbeciw a chael hufen ia wedyn. Fe fyddai’n rhaid i Sgryffi aros nes bydden nhw’n cyrraedd adref cyn cael ei fwyd ef!

8. Wedi iddyn nhw gyrraedd y stabl, wrth i Liwsi Jên roi ei fwyd iddo, fe ddywedodd hi wrth Sgryffi, ‘Rydw i wedi cael diwrnod wrth fy modd heddiw. Wyt ti, Sgryffi ?’

‘‘Hi-ho, hi-ho!’ nodiodd Sgryffi.

‘Rydw i’n mynd i ofyn i Dad faint o arian wnaethon ni ei godi i’w anfon i Affrica.’

Allwch chi ddyfalu tybed faint o arian roedden nhw wedi ei gasglu? Roedd Sgryffi  wedi tynnu’r gert fach 20 gwaith o gwmpas y parc, gan gario 2 deithiwr gyda Liwsi Jên bob tro. Ac roedd y teithwyr yn talu 50 ceiniog yr un.

Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

9. Nawr, gadewch i ni wrando ar un o’r storïau o’r Beibl y mae Sgryffi’n hoff ohonyn nhw.

Iesu’n clirio’r deml

Ar ôl i Iesu farchogaeth i mewn i ddinas Jerwsalem, ar ebol asyn, fe aeth ar ei union i’r deml. Roedd yn ddiwrnod gwyl, felly roedd llawer o bobl yno eisiau prynu colomen neu oen i’w cyflwyno i Dduw er mwyn diolch iddo am ofalu amdanyn nhw.

Y tu mewn i furiau’r deml roedd pobl farus yn gwerthu colomennod ac wyn ac yn codi prisiau uchel iawn amdanyn nhw. Roedden nhw’n twyllo llawer o bobl dlawd.

Edrychodd esu o’i gwmpas, ac roedd yn ddig iawn. Roedd mor ddig, yn wir, nes iddo ddechrau gwthio’r byrddau drosodd, chwalu’r adar a’r anifeiliaid, ac anfon y gwerthwyr allan o’r deml i’r stryd! Fe waeddodd arnyn nhw, ‘Y mae’n ysgrifenedig: Gelwir fy nhy i yn dy gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron!’

Amser i feddwl

Allwch chi feddwl am rai pethau sy’n annheg, ac sydd ddim yn iawn i’w gwneud?

Gwrandewch ar y gerddoriaeth o’ch dewis tra byddwch chi’n meddwl.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am yr adeiladau arbennig lle gallwn ni fynd i weddïo ynddyn nhw.
Diolch i ti hefyd ei bod hi’n bosib i ti siarad â ni yn unrhyw le, a dy fod ti’n gallu dangos i ni sut y gallwn ni helpu pobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon