Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pan fydd y dagrau'n llifo

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Deall sut mae gwahanol emosiynau’n cael eu mynegi mewn dagrau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen nionyn, cyllell, bwrdd torri, a bocs o hancesi papur ar gyfer y cyflwyniad yng Ngham 1 y gwasanaeth, ond hefyd gwelwch y cam sy’n dilyn.
  • Fe fyddai’n bosib addasu deunydd y gwasanaeth nhw ar gyfer ymateb i eitem yn y newyddion cenedlaethol, neu ar adeg o brofedigaeth o fewn cymuned yr ysgol. Mewn achosion o’r fath, fe allech chi newid y cyflwyniad er mwyn cyfeirio at y digwyddiadau neilltuol hynny, a hepgor Cam 1 felly. Fe allech chi ddangos delwedd o  enfys yn lle hynny.
  • Fe fyddai’n briodol i Ysgolion Eglwys ddefnyddio’r deunydd hwn yn ystod cyfnod y Garawys, gan ddiweddu’r gwasanaeth gyda darlleniad o Efengyl Ioan 11.28–29 a 31–36.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch blicio a thorri'r nionyn. Sylwch nad yw'n hawdd paratoi nionyn heb ddechrau crio. Caiff rhyw sylwedd cryf ei ryddhau sy'n peri i ddagrau ddod i’n llygaid a gwneud iddyn nhw ddyfrio.

  2. Sychwch eich llygaid yn ofalus gyda'r hancesi papur a chyfeiriwch at y ffaith y gall emosiynau dwys (neu deimladau) hefyd achosi dagrau. Eglurwch fod crio weithiau'n cael ei ystyried yn blentynnaidd neu'n wirion. Ond, fel chwerthin, mae dagrau'n syml yn fynegiant o'n teimladau dyfnaf. Mae pobl o bob oed yn crio. Mae rhai’n colli dagrau'n hawdd. Bydd eraill yn cadw eu teimladau'n gudd.

  3. Dewch i’r casgliad fod dagrau'n llifo o ganlyniad i ystod eang o emosiynau. Soniwch am hyn trwy gyfeirio at chwaraeon.

    - Bydd athletwyr buddugol, wrth sefyll ar y podiwm, yn ddagreuol yn aml pan gaiff eu hanthem genedlaethol ei chanu. Pam?  Pwysleisiwch mai dagrau o lawenydd, balchder a rhyddhad am gyflawni camp neilltuol iddyn nhw'u hunain a'u gwlad yw'r rhain.
    - Bydd dagrau'n llifo hefyd pan fydd athletwyr yn cael eu niweidio neu eu gorchfygu. Pwysleisiwch mai dagrau o siomedigaeth, poen a rhwystredigaeth yw'r rhain.

  4. Yn dyner, eglurwch, fel mae rhai plant yn gwybod yn rhy dda, y bydd dagrau'n llifo pan fydd rhywbeth trist wedi digwydd. Efallai bod ffrind neu aelod o'r teulu wedi symud i ffwrdd, yn wael neu wedi marw. Nid yn unig mewn achosion o dristwch y mae dagrau'n llifo, ond hefyd pan fydd atgofion hapus am gyfeillgarwch yn cael eu rhannu ynghyd. Yn aml, gall dagrau a chwerthin fod yn gymysg – gallwn brofi rhywbeth mor ddoniol nes ein bod yn y diwedd yn crio o lawenydd!

  5. Sicrhewch bawb ei fod yn beth naturiol i grio. Mae dagrau'n fodd o fynegi teimladau dyfnion ac fe allan nhw, yn rhyfeddol, ein helpu ni deimlo'n well.

  6. Gorffennwch trwy wahodd y plant i ystyried sut i ymateb pan fydd dagrau'n llifo. Bydd angen mwy na hances bapur arnoch chi o bosib - er gall hynny fod o gymorth! Gallai ffrind eistedd yn dawel wrth ymyl rhywun sy'n ofidus. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw aros yn amyneddgar os yw'r person hwnnw eisiau bod ar ei ben ei hun. Gall gair o gysur neu anogaeth fod o gymorth - neu'n syml efallai gyffyrddiad bach cysurlon. Bydd rhywun sy'n ofidus yn aml yn gwerthfawrogi cael rhywun arall i wrando arnyn nhw, heb wneud sylwadau na chynnig cyngor. Pwysleisiwch os yw'r plant ar unrhyw adeg mewn sefyllfa lle mae rhywun wedi ei niweidio'n ddrwg neu eu bod mewn perygl, fe ddylen nhw ddweud wrth oedolyn y maen nhw'n ymddiried ynddo ef neu hi.  Mae ffrindiau'n rhannu chwerthin, a hefyd yn rhannu tristwch – ar yr holl adegau pan fydd dagrau'n llifo.

Amser i feddwl

Mae sôn am Iesu’n crio yn y Beibl. Mewn un hanesyn mae’n dweud, ‘Torrodd Iesu i wylo’. Roedd ei ddagrau’n llifo am fod brawd ei ffrindiau, Martha a Mair, wedi marw -  (Ioan 11.35). Mae sôn amdano’n wylo hefyd wrth deimlo’n drist a rhwystredig pan oedd pobl ddim yn deall - (Luc 19.41). Roedd Iesu’n gwybod am y teimladau dwys sy’n peri i ni wylo.

Gweddi
Dduw cariadus,
Rwyt ti gyda ni . . .
ar adegau hapus, ac ar adegau trist hefyd.
Diolch am y rhodd o ddagrau ac am yr iachâd sy’n dod gyda nhw.
Helpa ni i fod yn ffrind sy’n gallu cysuro, gofalu a deall.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon