Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori'r Pasg

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Addysgu plant ifanc am stori’r Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai geiriau a delweddau sy’n gysylltiedig â’r Pasg, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Fe allech chi ddewis rhai plant i ddarllen rhannau o’r gwasanaeth i chi, fe allen nhw ddarllen y rhan fwyaf os dymunwch chi.
  • Dewiswch un o hoff emynau’r Pasg i’w chanu ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Mae’r Pasg yn adeg pan fyddwn ni’n cynnal helfa wyau, ac yn bwyta wyau Pasg a chwningod siocled. Ond fe fyddwn ni’n dathlu bywyd rhywun arbennig iawn ar adeg y Pasg hefyd. Oes rhywun yn gallu dyfalu pwy fyddai’r person hwnnw? Rhowch eich llaw i fyny os ydych chi’n gwybod.

Dyna chi, y person arbennig rydyn ni’n cofio amdano ar adeg y Pasg yw Iesu.

2. Mae stori’r Pasg yn stori drist am fod Iesu wedi marw ar y groes, ond peidiwch â phoeni, mae diwedd hapus i’r stori.

3. Gadewch i ni ddechrau’r stori.

Ar y Dydd Iau Cablyd, cafodd Iesu a’i ddisgyblion eu swper olaf gyda’i gilydd, ac fe wnaeth Iesu rannu bara a gwin gyda nhw.

Wrth y bwrdd, fe eglurodd Iesu iddyn nhw y byddai un o’i ffrindiau yn ei fradychu i’w elynion yn fuan. Fe ddywedodd Iesu hefyd y byddai yn marw cyn hir. Roedd y disgyblion yn drist iawn wrth glywed hyn, ond gwenodd Iesu a dweud y byddai’n dal i fod gyda nhw ac y bydden nhw’n ei weld gyda’u llygaid eu hunain.

4. Ar Ddydd Gwener y Groglith, gorfodwyd Iesu i gario croes fawr drom i’r man lle byddai’n cael ei groeshoelio. Ar ôl iddo gyrraedd y lle hwnnw cafodd Iesu ei godi ar y groes a’i groeshoelio.

Ar ôl iddo farw, cafodd Iesu ei roi i orwedd mewn bedd arbennig – ogof gyda charreg fawr ar geg yr ogof.

5. Ar Ddydd Sul y Pasg, aeth ffrind i Iesu, merch o’r enw Mair, at y bedd er mwyn cael ffarwelio â Iesu.

Pan gyrhaeddodd hi, fe sylwodd bod y garreg fawr wedi cael ei rholio oddi ar geg yr ogof. Fe gerddodd Mair i mewn i’r ogof, ac er mawr syndod iddi fe sylwodd bod corff Iesu wedi diflannu.

Roedd Mair yn teimlo’n drist iawn. Ond, yn sydyn fe welodd angel yn sefyll yn ei hymyl. ‘Paid â dychryn,’ meddai’r angel wrthi. ‘Rwyt ti’n chwilio am Iesu, oedd wedi cael ei groeshoelio. Mae Iesu wedi atgyfodi. Nid yw yma.’

6. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi dod â Iesu yn ôl yn fyw, a bod Iesu’n dal i fod gyda ni, yn union fel y gwnaeth ei addo i’w ddisgyblion.

7. Mae Cristnogion hefyd yn ystyried y Pasg fel adeg drist iawn, ond hefyd yn adeg hapus iawn, am fod Iesu wedi marw, ac wedyn wedi dod yn ôl yn fyw! Mae pobl ledled y byd yn dathlu’r Pasg am y rheswm hwn ac yn gweddïo ar Iesu oherwydd ei fod yn rhywun arbennig iawn.

8. Os byddwch chi’n anfon cerdyn at eich ffrindiau, neu’n rhoi wy Pasg i rywun y Pasg hwn, cofiwch ein bod yn gwneud hynny er mwyn dathlu’r Pasg, dathlu bywyd newydd a bod yn garedig a hael fel Iesu. Fe ddylem ni hefyd geisio maddau, yn union fel y maddeuodd Iesu i’r bobl a wnaeth ei frifo.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch am Iesu ac am ein teulu a’n ffrindiau.
Diolch i ti am ein dysgu i ofalu a bod yn barod i faddau.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewiswch emyn Pasg i’w chanu gyda’ch gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon