Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Helo, Sgryffi!’ Tristwch a hapusrwydd – gwasanaeth y Pasg

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Meddwl yn gadarnhaol ynghylch marwolaeth a dechreuadau newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Casglwch ynghyd rai hadau, bylbiau, wy, brigyn noeth, chwiler (chrysalis) ac ati – pethau sy’n ymddangos yn ddifywyd, ond sy’n gallu dod yn fyw.

Gwasanaeth

1.Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

2. Roedd Sgryffi wedi sylwi pa mor drist yr oedd Liwsi Jên wedi bod ers pan fu farw ei hewythr Bob. Ond ar ôl yr ysgol, un diwrnod, fe ddaeth Liwsi i’r stabl at Sgryffi dan redeg, ac roedd gwên fawr ar ei hwyneb. Roedd ganddi gymaint i’w ddweud wrth Sgryffi.

‘Mae ein hathrawes wedi bod yn dweud stori’r Pasg wrthym ni,’ meddai hi wrth Sgryffi. ‘Mae hi wedi bod yn sôn am yr hyn mae Cristnogion yn ei gredu  . . .  Ar ôl i Iesu farw ar y groes, roedd ei fam. Mair, a’i ffrindiau’n teimlo’n drist iawn. A dyna sut rydw i wedi bod yn teimlo ers pan wnaethom ni golli Yncl Bob. Ond wnaeth stori Iesu ddim gorffen felly. Ymhen tri diwrnod, fe ddaeth Iesu yn ôl at ei ffrindiau a siarad â nhw yn yr ystafell lle roedden nhw’n cuddio. Roedden nhw’n methu â chredu’r hyn roedden nhw’n ei weld! Oedd Iesu, o ddifrif, yn fyw?

Fe ddywedodd Iesu wrth ei ffrindiau nad marw oedd y diwedd, ond yn hytrach dechrau ar fywyd newydd a hapus gyda Duw.

Mae hynny’n beth gwych, wyt ti ddim yn cytuno, Sgryffi? Ryw ddiwrnod fe fydd pawb ohonom ni’n mynd at Dduw i fan lle does dim byd drwg yn digwydd - rhywle does neb yn teimlo’n drist. Dwi’n meddwl fy mod i’n hoffi’r syniad hwnnw. Wyt ti’n hoffi’r syniad Sgryffi?’

‘Hi-ho, hi-ho!’ nodiodd Sgryffi. Roedd Sgryffi’n hapus am fod Liwsi Jên yn hapus eto.

Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

Amser i feddwl

Allwch chi feddwl am bethau sy’n edrych fel pe bydden nhw wedi marw, ond sy’n gallu dod yn fyw?

Dangoswch yr hadau, y bylbiau a’r wy ac ati i’r plant a thrafod.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Bydd yn agos at bobl sy’n teimlo’n drist am fod rhywun yr oedden nhw’n ei garu wedi marw.
Diolch i ti am stori’r Pasg a’i diwedd hapus.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon