Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydi hyn ddim yn deg!

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio beth sy’n deg yn nhermau cyfiawnder, yn hytrach na dim ond yn nhermau cael ein ffordd ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori sydd i’w gweld yn ‘Cam 4’ y Gwasanaeth.
  • Trefnwch fod dau fachgen o Blwyddyn 6 yn chwarae rhan y ddau frawd yn y stori. Eglurwch fod un o’r ddau frawd yn sengl a’r llall wedi priodi ac, wrth i chi ddarllen y stori, pan fydd cyfeiriad at eu cymeriad fe fydd angen i’r ‘brawd’ hwnnw feimio’r gweithredoedd sy’n cael eu disgrifio yn y stori. Dangoswch y stori i’r ‘brodyr’ o flaen llaw. Fe fydd angen i chi drefnu ambell saib wrth i chi ddarllen y stori er mwyn i’r ‘brodyr’ gael amser i feimio’r symudiadau sy’n cael eu disgrifio.
  • Fe allech chi ddefnyddio torsh neu lamp i greu’r golau lleuad y mae sôn amdano ar ddiwedd y stori.

Gwasanaeth

1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddechrau trwy ofyn cwestiwn i bawb, ac fe hoffech chi iddyn nhw i gyd fod yn hollol onest (100 y 100) pan fyddan nhw’n ateb.

Gofynnwch, ‘Oes unrhyw un wedi dweud, ‘Dydi hyn ddim yn deg!’ rywbryd yn ystod yr wythnos ddiwethaf?’ Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo os gwnaethon nhw.

2. Nodwch eich bod yn gweld bod sawl llaw wedi ei chodi, ac yna gofynnwch i’r plant droi at y rhai sy’n eistedd yn eu hymyl a sôn am rai o’r pethau sydd wedi digwydd iddyn nhw’n ddiweddar.

Gofynnwch i rai o’r plant ydyn nhw’n fodlon rhannu eu hatebion â’r gynulleidfa gyfan.

3. Pwysleisiwch fod sawl un o’r atebion yn cynnwys y gair ‘fi’. Mae’n bosib bod rhai o’r atebion wedi bod yn rhywbeth tebyg i: ‘Dydi hyn ddim yn deg, dydw i ddim yn cael digon o bres poced!’ ‘Dydi hyn ddim yn deg, fi sy’n gorfod golchi’r llestri bob tro!’

Dywedwch fod hyn, mewn ffordd, yn ymddangos fel pe byddai elfen ychydig yn hunanol i’r atebion oherwydd eu bod yn ymwneud â’r hyn y byddwn ni ein hunain ei eisiau.

4. Eglurwch eich bod yn awr yn mynd i adrodd stori. Hen chwedl Iddewig yw’r stori sy’n dehongli’r frawddeg, ‘Dydi hyn ddim yn deg!’ mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Gofynnwch i’r ddau fachgen o Blwyddyn 6, sy’n mynd i’ch helpu, ddod i’r blaen atoch chi i adrodd y stori.

Y ddau frawd

Un tro, roedd dau frawd a oedd yn ffermio gyda’i gilydd. Roedden nhw’n rhannu’r gwaith yn gyfartal ac yn rhannu’r elw’n gyfartal hefyd. Roedd gan y ddau ysgubor bob un. Roedd un brawd wedi priodi ac roedd ganddo ef deulu mawr; roedd y brawd arall yn sengl.

Un diwrnod, fe ddywedodd y brawd sengl wrtho’i hun, ‘Dydi hyn ddim yn deg iawn, Rydyn ni’n rhannu popeth yn gyfartal. Rydyn ni’n rhannu’r grawn rydyn ni’n ei dyfu’n gyfartal. Ond mae gan fy mrawd deulu mawr i’w fwydo, does gen i ddim ond fi fy hun. Fe wn i beth wna i, fe af i â sachaid o’r grawn o fy ysgubor i bob nos a’i rhoi yn ysgubor fy mrawd.’ Felly y noson honno, wedi iddi dywyllu, fe gariodd lond sach fawr o’r grawn yn ofalus ar draws y cae a’i gadael yn ysgubor ei frawd.

Nawr, fe ddywedodd y brawd priod fel hyn wrtho’i hun, ‘Dydi hyn ddim yn deg iawn, Rydyn ni’n rhannu popeth yn gyfartal. Rydyn ni’n rhannu’r grawn rydyn ni’n ei dyfu’n gyfartal. Ond mae gen i lawer o blant i ofalu amdanaf fi pan fydda i’n hen, does gan fy mrawd ddim plant. Fe wn i beth wna i, fe af i â sachaid o’r grawn o fy ysgubor i bob nos a’i rhoi yn ysgubor fy mrawd.’ Felly y noson honno, wedi iddi dywyllu, fe gariodd lond sach fawr o’r grawn yn ofalus ar draws y cae a’i gadael yn ysgubor ei frawd.

Y bore wedyn, roedd y ddau frawd wedi rhyfeddu wrth ganfod, er eu bod wedi cario sachaid o rawn y noson flaenorol i’r ysgubor arall, roedd yr un faint yn union o sachau ganddyn nhw ag oedd ganddyn nhw cyn hynny. Y noson honno, fe ddigwyddodd yr un peth yn union eto. Fe aeth y brawd sengl â sachaid o rawn o’i ysgubor ef a’i rhoi yn ysgubor ei frawd. Ac fe aeth y brawd priod â sachaid o rawn o’i ysgubor ef a’i rhoi yn ysgubor ei frawd.

Fe ddigwyddodd hyn dro ar ôl tro, am sawl noson wedyn, nes digwyddodd rhywbeth un nos olau leuad. Fe gychwynnodd y ddau frawd ar draws y cae ar yr union yr un adeg â’i gilydd. Hanner ffordd ar draws y cae, fe ddaeth y ddau frawd i gyfarfod â’i gilydd!

Arhosodd y ddau. Edrychodd y ddau ar ei gilydd. Fe welodd y naill y llall yn cario sachaid o rawn ar ei gefn ac yn sydyn fe ddeallodd y ddau beth oedd yr ateb i ddirgelwch yr ysguboriau a oedd bob amser yn llawn! Gwenodd y ddau frawd ac ysgwyd llaw yn llawen, ac roedd y ddau’n llawn o wir gariad tuag at ei gilydd.

Mae’r chwedl yn dweud bod Duw yn edrych i lawr arnyn nhw o’r nefoedd, ac wedi gweld y ddau frawd yn cofleidio fe ddywedodd, ‘Rwy’n datgan y lle hwn yn le sanctaidd oherwydd rwyf wedi bod yn dyst i gariad rhyfeddol yma.’

Amser i feddwl

Wnaeth y ddau frawd yn y stori ddim defnyddio’r frawddeg, ‘Dydi hyn ddim yn deg!’ mewn ffordd hunanol. Yn hytrach, fe wnaethon nhw ddefnyddio’r frawddeg mewn ffordd gadarnhaol wrth iddyn nhw geisio gwneud rhywbeth i wneud y sefyllfa’n fwy teg ac yn fwy cyfiawn.

Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel a meddwl oes rhywbeth y gallen nhw ei wneud er mwyn gwneud y byd yn lle mwy teg i fyw ynddo. Cynigiwch y pwyntiau canlynol iddyn nhw feddwl amdanyn nhw:

– fe allech chi drin pawb yn eich dosbarth mewn ffordd deg, heb adael neb allan na rhoi ffafriaeth i unrhyw un

– fe allech chi brynu siocled masnach deg gan wybod bod y bobl sydd wedi bod yn tyfu ac yn cynaeafu’r ffa siocled – llawer ohonyn nhw’n blant – yn cael eu trin yn deg ac yn cael cyflog teg

– fe allech chi a’ch teulu, neu efallai gymuned yr ysgol, ystyried noddi plentyn sy’n byw mewn gwlad dlawd fel y gallai’r plentyn hwnnw, fynd i ysgol er mwyn cael addysg.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i wneud y byd yn lle mwy teg i fyw ynddo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon