Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Esgidiau wedi eu gwneud i gerdded

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ein helpu i werthfawrogi teimladau pobl eraill, a sylweddoli efallai bod rheswm pam maen nhw’n ymddwyn mewn ffordd neilltuol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch amrywiaeth o esgidiau fel y gallwch eu dangos a’u disgrifio i’r plant. Rhowch y rhain mewn bag. Gwelwch ‘Cam 1’ y gwasanaeth am rai enghreifftiau, a sut y gallech chi eu disgrifio, ond dewiswch rai mor wahanol i’w gilydd ag sydd bosib, fel esgidiau rhedeg, esgidiau gorau, sliperi cyfforddus, esgidiau cerdded neu esgidiau gwaith gyda blaenau caled, esgidiau garddio neu esgidiau glaw, esgidiau bale, esgidiau pêl-droed sandalau ac ati.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘These boots are made for walking’ gan Nancy Sinatra, a threfnwch fodd o’i chwarae wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, a recordiad o’r gân ‘Walk a mile in my shoes’ gan Joe South and the Believers, i’w chwarae wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

1.Chwaraewch y gân, ‘These boots are made for walking’ gan Nancy Sinatra wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Ar ôl i’r plant setlo, dechreuwch y gwasanaeth trwy dynnu esgidiau o’r bag, fesul math, a gofyn i’r plant awgrymu ar ba achlysur y byddai rhywun yn gwisgo esgidiau fel y rhain, a beth sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer yr achlysur hwnnw.

Ar gyfer esgidiau cerdded, er enghraifft, fe allech chi ddweud eu bod yn cael eu defnyddio pan fydd rhywun am gerdded ar daith hir dros dir garw. Mae’n gyfforddus ac yn gryf. Mae’r marciau dwfn ar y gwadnau yn rhoi gafael da i’r esgid pan fydd y tir y llithrig neu’n arw. Mae’r cefn uchel yn rhoi cynhaliaeth i’r ffêr ac yn helpu rhag i chi droi eich troed wrth gerdded tir caregog anwastad. Mae’n dal dwr, felly os byddwch chi’n gwisgo esgidiau fel y rhain fydd eich traed ddim yn gwlychu pe byddech chi eisiau mynd trwy le gwlyb neu dir corsiog.

Yn achos sandal fflip-fflop, fe allech chi ddweud bod pobl yn gwisgo’r rhain yn yr haf pan fydd y tywydd yn braf, yn enwedig ar y traeth neu ar lan pwll nofio. Maen nhw’n gwarchod gwadnau’r traed rhag tywod poeth neu loriau concrid caled. Ac mae’n hawdd eu cicio oddi ar eich traed pe byddech chi eisiau mynd i’r dwr – does dim careiau na byclau i’w hagor. Maen nhw hefyd yn ysgafn ac yn hawdd eu pacio yn eich cês.

Daliwch ati yn yr un ffordd gydag enghreifftiau eraill o wahanol esgidiau sydd gennych chi yn eich casgliad, gan ddewis rhai sydd mor wrthgyferbyniol â phosib i’r rhai blaenorol. Ym mhob achos, disgrifiwch y cyd-destun pryd y byddai’r gwahanol esgidiau’n cael eu gwisgo, a beth sy’n eu gwneud yn addas i’r pwrpas hwnnw.

2. Eglurwch fod angen i blant gael sgidiau sy’n ffitio’n dda ac sy’n rhoi rhywfaint i le i draed y plentyn dyfu. Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa mor anghyfforddus yw esgidiau sy’n rhy fach, a pha mor boenus yw hynny i fodiau traed.

3. Mae sawl dywediad adnabyddus sy’n cyfeirio at esgidiau. Dyma rai, a rhowch eglurhad byr am y dywediadau y byddwch chi’n sôn amdanyn nhw.

– Mae wedi mynd yn rhy fawr i’w esgidiau.

– Mae’r esgid ar y droed arall erbyn hyn.

– Salaf ei gwadnau, gwraig y crydd.

– Anodd llenwi ei esgidiau.

– Hoffwn i ddim bod yn ei esgidiau ef/hesgidiau hi.

4. Mae un dywediad Saesneg sy’n nodi, ‘Don’t judge a person until you have walked a mile in their shoes.’

Wrth gwrs, nid yw’n syniad da gwisgo esgidiau pobl eraill, ond nid yw’r dywediad hwn wedi ei fwriadu i’w gymryd yn llythrennol. Ffordd o siarad sydd yma. Yn hytrach, mae’r dywediad wedi ei fwriadu i ddysgu rhywbeth i ni. Mae’n golygu na allwn ni ddeall pobl eraill yn iawn nes byddwn ni’n gwybod sut beth yw bywyd yn eu hachos nhw, a gallu gweld pethau o’u safbwynt nhw.

Fe allwn ni fod yn feirniadol o weithredoedd pobl eraill, ond efallai bod rhesymau neilltuol pam maen nhw’n ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n gwneud.

– Efallai bod y bachgen sy’n gwrthod ymuno â’ch gêm yn swil iawn. Efallai eich bod chi’n meddwl nad yw yn eich hoffi chi.

– Efallai bod y ferch sy’n gwrthod siarad â chi’n ofni y byddech chi’n chwerthin am ei phen, am mai dyna beth mae pobl eraill wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol. Efallai eich bod chi’n meddwl nad yw hi eisiau siarad â chi.

– Efallai nad oes gan y plentyn sy’n digio am eich bod yn chwarae gyda rhywun arall lawer o ffrindiau. Efallai eich bod chi’n meddwl ei fod ef neu ei bod hi o natur ymlynol neu’n rhy ‘clingy’.

– Efallai bod gan y plentyn tenau, llwydaidd, sydd heb lawer o egni salwch dydych chi ddim yn gwybod amdano. Efallai eich bod chi’n meddwl bod y plentyn hwnnw’n ddiog, ac y dylai wneud mwy o ymdrech i ymuno yn eich gemau.

– Efallai bod eich ffrind, sydd byth yn dod i’ch partïon pen-blwydd yn teimlo gormod o embaras i gyfaddef ei fod yn methu fforddio prynu anrheg i chi. Efallai eich bod chi’n meddwl ei fod ef neu hi’n rhy gybyddlyd i brynu anrheg.

5. Dyma ddim ond ychydig o enghreifftiau. Ac efallai bod sawl rheswm arall pam mae unigolion yn ymddwyn fel hyn neu mewn ffordd neilltuol arall. Mae’n bwysig nad ydym yn eu beirniadu’n rhy frysiog. Mae angen i ni geisio deall sut maen nhw’n teimlo.

Fe fyddai’n dda i ni bob amser gofio’r rheol aur: ‘Ceisiwch ymddwyn tuag at eraill yn y ffordd yr hoffech chi iddyn nhw ymddwyn tuag atoch chi.’

Amser i feddwl

Anogwch y plant i feddwl am adeg pan wnaethon nhw ymddwyn mewn ffordd neilltuol a rhywun arall wedi eu camddeall.

Fe allen nhw hefyd ystyried dywediad fel hwn hefyd: ‘I was footsore and weary until I met a man with no feet.’

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni i geisio deall sut mae pobl eraill yn teimlo.
Efallai eu bod nhw’n teimlo’n drist, pan fyddwn ni’n teimlo’n hapus.
Efallai eu bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gadael allan, a ninnau â digon o ffrindiau.
Helpa ni bob amser i geisio ymddwyn tuag at eraill yn y ffordd y byddem ni’n hoffi iddyn nhw ymddwyn tuag atom ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon