Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amser i wrando

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Ein hannog i fod yn rhai da am wrando.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi baratoi’r cwestiynau sy’n cael eu defnyddio yn y cwis ar ddechrau’r gwasanaeth yn ‘Cam 1’, a’r rhai sy’n ymddangos yn yr adran ‘Amser i feddwl’ fel delweddau, a’u harddangos, fel y gall y plant eu darllen yn ogystal â’u clywed.
  • Ymgyfarwyddwch â stori Martha a Mair yn y Beibl, sydd i’w chael yn Efengyl Luc 10.38–42.

Gwasanaeth

1. Eglurwch ein bod ni heddiw’n mynd i gael pawb i feddwl am sut rydyn ni, ambell dro, yn gallu cweryla â’n ffrindiau ac yn dod yn ôl yn gyfeillion wedyn. Mae gennych chi gwestiynau cwis bach i’r plant eu hateb yn gyntaf.

Eglurwch y byddwch yn darllen cwestiynau’r cwis fesul un yn eu tro, ond bod dau ateb posib i’r plant ddewis ohonyn nhw ar gyfer pob cwestiwn. Rydych chi eisiau i’r plant bleidleisio’r ateb y byddan nhw’n ei ddewis trwy godi eu llaw.

– Beth fyddai orau gennych chi ei wneud yn ystod amser chwarae – chwarae pêl-droed neu eistedd ar fainc yn siarad gyda’ch ffrindiau?

– Beth fyddai orau gennych chi ei wneud gyda’ch ffrind – chwarae ar y consol gemau neu fynd i nofio?

– Pe byddai eich ffrind gorau wedi mynd i ffwrdd, beth fyddech chi’n ei wneud – fyddech chi’n eistedd ar ben eich hun am y diwrnod, neu’n mynd i eistedd yn ymyl rhywun arall?

– Pe byddai bachgen newydd yn eich dosbarth, beth fyddech chi’n ei wneud – ei anwybyddu, neu’n mynd i chwarae gydag ef?

– Pe byddai rhywun yn eich bwlio ar yr iard, beth fyddech chi’n ei wneud – taro’r bwli, neu’n mynd i ddweud wrth athro neu’r athrawes?

– Pe byddech chi wedi cweryla â’ch ffrind, beth fyddech chi’n ei wneud – mynd i ddweud wrth bawb pa mor annifyr yw eich ffrind, neu geisio cymodi â’ch ffrind a dod yn gyfeillion eto?

2. Pwysleisiwch fod y plant wedi gorfod gwneud rhai dewisiadau wrth ateb y cwis, y cyfan yn ymwneud â ffrindiau.

Yn y tri chwestiwn cyntaf, roedd eu dewisiadau’n ddewis personol yn eu hachos nhw eu hunain – a’u hatebion yn dibynnu ar chwaeth bersonol a’r hyn maen nhw eu hunain yn hoffi ei wneud orau. Ond ym mhob un o’r tri chwestiwn sy’n dilyn, fe allen nhw  fod wedi gwneud dewis da neu ddewis gwael wrth ateb. Fe fyddai eu dewisiadau wedi gallu naill ai eu helpu i ddod ymlaen yn dda gyda’u ffrindiau neu wedi peri iddyn nhw gweryla â’u ffrindiau.

3. Dywedwch eich bod yn awr yn mynd i adrodd stori iddyn nhw o’r Beibl am ddwy chwaer ac, yn y stori, mae’r ddwy chwaer bron iawn â chweryla am rywbeth.

Martha a Mair

Roedd Iesu a’i ffrindiau, y disgyblion, yn teithio ar hyd ffordd pan ddaethon nhw i bentref. Roedd hi’n amser cinio, ac roedden nhw’n teimlo eu bod eisiau bwyd. Felly fe wnaethon nhw dderbyn gwahoddiad gwraig o’r enw Martha i’w chartref i gael pryd o fwyd. Roedd gan Martha chwaer o’r enw Mair, a oedd yn byw yn yr un ty â hi.

Gwibiodd Martha o gwmpas y ty yn brysur iawn wrth geisio paratoi’r bwyd. Roedd ganddi ddwster yn ei phoced hefyd, a phob yn ail â pharatoi’r bwyd, roedd hi’n ceisio rhoi sglein ychwanegol ar y dodrefn fel y byddai pob man yn dwt ac yn daclus erbyn y byddai Iesu’n cyrraedd y ty.

Wedi i Iesu a’i ddisgyblion fynd i’r ty, fe eisteddodd Mair yn ymyl Iesu a gwrando’n astud ar bopeth yr oedd yn ei ddweud a’r holl bethau yr oedd yn ei ddysgu i’r bobl am Dduw.

Roedd Martha’n mynd yn fwyfwy blinedig yn ei phrysurdeb ac roedd yn dechrau teimlo’n ddig hefyd am nad oedd ei chwaer yn helpu dim arni i baratoi’r pryd bwyd a chael y lle i drefn. Yn y pen draw, fe waeddodd Martha ar Iesu a dweud fel hyn, ‘Wyt ti ddim yn gweld bod fy chwaer yn gadael yr holl waith i mi ei wneud? Wnei di ddim dweud wrthi am ddod yma i fy helpu i?’

‘Martha,’ meddai Iesu wrthi’n garedig, ‘paid â phryderu cymaint. Ar yr achlysur yma, mae dy chwaer wedi gwneud y dewis iawn. Mae hi wedi gwrando’n ofalus ac mae hi wedi dysgu llawer o bethau pwysig am Dduw, ac fe fydd y pethau hyn yn aros gyda hi am byth.’

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd yn eu hymyl a sgwrsio am y tri chwestiwn canlynol yn eu tro:

– Pam roedd Martha’n teimlo’n ddig tuag at Mair yn y stori?

– Yn y stori, fe ddywedodd Iesu wrth Martha ei fod yn beth da ambell dro i ddim ond eistedd a gwrando. Pam mae hi’n bwysig i chi wrando ar eich ffrindiau?

– Sut gall gwrando ar eich ffrindiau eich helpu rhag cweryla?

Ar ôl pob cwestiwn, ac ar ôl i’r plant gael moment neu ddwy i feddwl am eu hymateb, gwrandewch ar rai o’r atebion y maen nhw’n eu cynnig.

Dewch i gasgliad trwy bwysleisio pa mor bwysig yw gwrando ar eraill. Os tybiwch fod hynny’n briodol, efallai yr hoffech chi awgrymu bod Cristnogion yn credu ei fod yn syniad da gwrando ar yr hyn sydd gan Iesu i’w ddweud wrthym ni trwy ddarllen amdano yn y Beibl.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y stori o’r Beibl y gwnaethom ei chlywed heddiw – stori am wrando.
Helpa ni i gofio bod yn fodlon rhoi amser i wrando ar ein ffrindiau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon