Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mor ddoeth â ....

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos trwy gyfrwng stori ddarluniadol, sut mae doethineb yn gallu helpu wrth ddatrys problem.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Efallai eich bod wedi clywed rhywun yn sôn am ‘ddoethineb Solomon’, neu wedi clywed rhywun yn dweud bod rhywun mor ddoeth â Solomon. Mae gennym stori ar gyfer y gwasanaeth heddiw. Pan fyddwch chi’n gwrando ar y stori, fe fyddwch chi’n cael cyfle i ystyried a ydych chi mor ddoeth â’r dyn yn y stori!

  2. Un tro, roedd dyn a oedd yn grefftus iawn yn gallu gwneud blodau ffug –gwneuthurwr blodau a oedd yn gwneud y blodau artiffisial mwyaf prydferth. Roedd yn grefftwr mor fedrus, allai neb ddweud a oedd y blodau y byddai’n eu creu’n rhai go iawn ai peidio, heb eu cyffwrdd neu eu harogli. Roedd y dyn yn honni na allai hyd yn oed y dyn doethaf yn y dref ddweud y gwahaniaeth rhwng tusw o'i flodau artiffisial ef a thusw o rai go iawn. Roedd yn sicr yn grefftus iawn, yn ardderchog mewn difri, ond roedd y ffaith ei fod yn brolio drwy’r amser yn gwylltio pobl - gymaint felly nes iddyn nhw un diwrnod benderfynu rhoi prawf ar yr hyn yr oedd yn ei honni. Fe wnaethon nhw osod dau dusw yn Neuadd y Dref; roedd un wedi ei wneud gyda blodau go iawn a’r llall gyda’r blodau artiffisial; roedd y ddau drefniant yn cael eu dewis a'u paratoi gan y gwneuthurwr blodau ei hunan. Yna, fe wnaethon nhw wahodd y dyn doethaf yn y dref i geisio darganfod pa dusw oedd yn cynnwys y blodau go iawn – ac roedd rhaid iddo wneud hynny heb eu cyffwrdd na’u harogli.

  3. Cytunai holl bobl y dref mai’r Hen Adda oedd y dyn doethaf. Roedd yr Hen Adda’n byw ar ben ei hun mewn bwthyn bach ar gyrion y dref, ac roedd wedi byw yno cyhyd ag y gallai unrhyw un gofio. Roedd pobl yn arfer mynd ato pan oedd angen cyngor neu help arnyn nhw, a doedden nhw erioed wedi cael eu siomi. Roedd yn gwybod am fyd natur, a gallai enwi pob anifail ac aderyn yn y goedwig. Roedd yn gwybod enwau blodau a pherlysiau, a gallai ddweud sut y byddai’n bosib eu defnyddio i wella pob math o anhwylderau. Roedd yn ddyn tawel, ychydig yn swil, ond fe gytunodd i gymryd rhan yn yr her, er ei fod braidd yn anfoddog i wneud hynny hefyd.

  4. Wrth fynd i mewn i Neuadd y Dref, fe welodd yr Hen Adda bod tyrfa fawr o bobl wedi dod yno i wylio, pob un yn awyddus i weld beth fyddai'n digwydd. Fe wnaethon nhw sefyll yn ôl tra’r oedd yr Hen Adda’n mynd mor agos ag y gallai at y ddau dusw o flodau. Fe edrychodd ac fe edrychodd ar y blodau, gan gerdded o gwmpas y ddau dusw yn eu tro ac roedd yn rhaid iddo gyfaddef iddo’i hun na allai ddweud pa un oedd y tusw blodau naturiol. Aeth tuag at y ffenestr a'i hagor, ac yna fe ddaliodd ati i syllu ar y blodau. Meddyliodd y bobl mai teimlo’n boeth yr oedd yr Hen Adda, ac mai dyna pam roedd arno eisiau agor y ffenest. Mae’n siwr bod y prawf yma wedi ei drechu. Ar ôl syllu eto am ychydig funudau ar y blodau, fe bwyntiodd yr Hen Adda at un o’r ddau dusw gan ddweud, ‘Rhain yw’r blodau artiffisial, rwy’n bendant o hynny. Dyna’r blodau go iawn,’ meddai gan bwyntio at y tusw arall. Ac roedd yr Hen Adda’n berffaith gywir. Allwch chi ddyfalu pam ei fod mor bendant? (Oedwch i dderbyn rhai awgrymiadau gan y plant.)

  5. Nid oherwydd ei fod yn boeth ac eisiau awyr iach yr oedd yr Hen Adda wedi agor y ffenestr. Roedd yn cofio bod yna gychod gwenyn yn yr ardd drws nesaf i Neuadd y Dref. Roedd yn gwybod na fyddai’r gwenyn yn cael eu twyllo gan flodau artiffisial, ac roedd yn meddwl yn sicr na fyddai'n hir cyn y byddai ambell wenynen yn dod i mewn drwy'r ffenestr agored. Yn sicr ddigon, fe ddaeth un, ac fe aeth ar ei hunion at y tusw a oedd yn cynnwys y blodau go iawn. Doedd yr Hen Adda ddim yn gallu gwahaniaethu rhyngddyn nhw - ond fe allai’r wenynen.

Amser i feddwl

Fe welwyd doethineb yr Hen Adda yn y ffaith ei fod yn gallu defnyddio ei wybodaeth i ddatrys problem mewn ffordd wreiddiol. Yn yr ysgol, rydym yn ychwanegu at ein gwybodaeth mewn pob math o ffyrdd, ond y ffordd yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon ac yn ei chymhwyso a fydd yn penderfynu a ydym yn ddoeth ai peidio. 

Gweddi

Dduw, Dad,
helpa ni heddiw i geisio bod yn ddoeth yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn ac yn siarad;
helpa ni i wrando’n dda ar yr hyn y byddwn yn ei ddysgu,
helpa ni i feddwl cyn i ni siarad, a helpa ni i fod yn garedig ac yn feddylgar ym mhopeth y byddwn yn ei wneud.
Amen.

Trafodaeth bellach

Fe allai fod yn briodol trafod rhai diarhebion cyfarwydd neu ddywediadau sy’n darlunio gwirioneddau mewn ffordd syml ond ystyrlon.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon