Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Maddeuant

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried maddeuant fel ffordd o drwsio cyfeillgarwch sydd wedi torri.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch rai delweddau ar PowerPoint i gyd-fynd â’r hyn sydd dan sylw yng Ngham 1 y gwasanaeth (dewisol).
  • Mae fersiwn Saesneg o’r stori dan y pennawd ‘The Unforgiving Servant’ i’w chael yn y llyfr The Lion Storyteller Bible gan Bob Hartman. Fe allech chi addasu hon. Gallai’r plant ymuno gyda’r frawddeg ‘Hei mae hynny’n iawn/Hey, that’s OK!’ brawddeg sy’n cael ei hailadrodd yn y stori drwyddi draw.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant godi eu dwylo os ydyn nhw wedi torri rhywbeth yn ddiweddar. Gallwch, efallai, sôn wrthyn nhw am rywbeth yr ydych chi eich hun wedi ei dorri. Nodwch nad oes modd trwsio rhai pethau sy'n cael eu torri, ond yn aml mae'n bosib trwsio’r rhan fwyaf o bethau yr ydym ni wedi eu torri. Os ydym yn ofalus o'n hamgylchfyd, mae'n syniad da i geisio trwsio pethau yn hytrach na'u taflu i ffwrdd fel yr ydym yn ei wneud yn aml, ac yna’n prynu pethau newydd yn eu lle. Er enghraifft, gofynnwch i'r plant beth fyddan nhw'n ei ddefnyddio i drwsio'r pethau canlynol pe bydden nhw wedi torri (dangoswch y delweddau os byddwch yn eu defnyddio):

    twll ym mlaen fy hosan? (edau a nodwydd)
    tudalen o lyfr sydd wedi rhwygo? (selotep)
    handlen sydd wedi dod i ffwrdd oddi ar gwpan? (‘superglue’)
    twll yn nheiar fy meic? (cit trwsio twll mewn teiar)
    toriad ar fys? (plastr neu rwymyn)

  2. Yna gofynnwch i'r plant beth fydden nhw'n allu ei wneud i drwsio neu adfer cyfeillgarwch sydd wedi cael ei dorri neu ei niweidio.

    Pan fyddwch chi’n ffraeo gydag un o'ch ffrindiau, allwch chi ddim trwsio'r cyfeillgarwch hwnnw gydag edau a nodwydd, neu selotep, neu 'superglue' neu blastr neu rwymyn. Felly, rydych yn mynd i ddarllen stori iddyn nhw o'r Beibl a allai roi rhyw fath o syniad iddyn nhw ar sut i drwsio neu adfer cyfeillgarwch sydd wedi ei thorri neu ei niweidio.

  3. Dameg y Gwas Anfaddeugar:

    Daeth Pedr, ffrind Iesu, ato un diwrnod a gofyn cwestiwn iddo:

    ‘Os yw rhywun yn troseddu yn fy erbyn, a hynny'n rhywbeth sy'n peri loes i mi, ac yn parhau i wneud y pethau cas hyn, sawl gwaith y dylwn i faddau iddo? A ddylwn i faddau iddo hyd seithwaith?’

    Gan ysgwyd ei ben yn araf, edrychodd Iesu i fyw llygaid Pedr, ac atebodd:

    ‘Na, nid seithwaith - fe ddylet faddau iddo saith deg seithwaith!’

    Yna, fe ddywedodd Iesu stori wrth Pedr i'w helpu i ddeall mwy am faddeuant a sut i fyw bywyd yn unol â ffordd Duw.

    Un tro, roedd gan ryw frenin lawer o weision. Un diwrnod roedd y brenin yn edrych trwy ei lyfrau cyfrifon pan ddygwyd un o'i weision ato i'r ystafell. Roedd ar y gwas hwn arian i'r brenin - yn wir, roedd mewn dyled iddo o swm mawr o arian. Fel mater o ffaith, roedd arno filoedd o bunnoedd i'r brenin, ond doedd ganddo ddim digon o arian i glirio'r ddyled.

    ‘Gwerthwch y dyn hwn fel caethwas,’ gwaeddodd y brenin, ‘a'i wraig a'i blant hefyd! Fel hynny, fe gawn ni ddigon o arian i dalu'n ôl y ddyled sydd arno i mi!’

    Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen y brenin a chrefodd am faddeuant. ‘Mae'n wir ddrwg gen i’ dywedodd, ‘pe byddet ti ddim ond yn rhoi tipyn bach mwy o amser i mi, fe allaf ennill yr arian, yna fe allaf dalu fy nyled yn llawn i ti.’

    Roedd y gwas yn edrych mor drist fel y dechreuodd y brenin deimlo drosto, ac mewn llais mwyn fe ddywedodd wrtho, ‘Mae popeth yn iawn! Rwy'n maddau i ti, ac rwy'n canslo dy ddyled.’

    Roedd y gwas wedi ei synnu'n enfawr, ond llamodd i fyny ar ei draed a gadawodd balas y brenin yn llawen. Fel yr oedd yn dod allan drwy'r drws, fe ddaeth wyneb yn wyneb â gwas yr oedd arno arian iddo fo. Doedd y ddyled honno ddim yn swm mawr o arian - dim ond llond llaw o geiniogau. Er bod y gwas cyntaf yn y stori newydd dderbyn maddeuant gan y brenin, fe anghofiodd hynny ac fe afaelodd yn y gwas arall, rhoi ysgytwad go arw iddo, a mynnu ei fod yn talu pob ceiniog o'r ddyled yn ôl iddo fo. Nawr, doedd gan yr ail was hwn ddim arian o gwbl ychwaith, felly dyma yntau'n syrthio ar ei liniau a gweiddi'n groch, ‘Mae'n wir ddrwg gen i, pe byddet ddim ond yn rhoi tipyn bach mwy o amser i mi, fe allaf ennill yr arian, yna fe allaf dalu fy nyled yn llawn i ti.’ Ni chymerodd y gwas cyntaf unrhyw sylw ohono a gorchmynnodd ei fod yn cael ei fwrw i garchar nes y byddai'n talu ei ddyled.

    Pan glywodd y brenin beth oedd wedi digwydd, roedd yn ddig iawn, iawn, ac fe roddodd orchymyn i’r gwas cyntaf gael ei ddwyn ato yn ôl i'r palas. ‘Rwy'n anhapus iawn!’ gwaeddodd yn groch. ‘Mi wnes i faddau i ti a chanslo dy ddyled am i ti ofyn yn daer i mi wneud hynny. Pam na allet ti fod wedi gwneud yr un peth i'th gyd-weithiwr yn hytrach na'i fwrw i garchar? Rwyf yn awr am dy anfon di i'r carchar nes y byddi'n talu'n ôl yn llawn y ddyled sydd arnat ti i mi!’

    Eglurodd Iesu i'w ffrind Pedr fod Duw yn debyg i'r brenin yn y stori: Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn maddau i ni bob tro yr ydym yn dweud wrtho ei bod hi'n ddrwg gennym am y pethau anghywir a wnawn, ac mae o'n dymuno ein bod ni'n trin ein ffrindiau yn yr un modd - trwy faddau iddyn nhw bob tro y maen nhw'n dweud ‘sori’ wrthym ni.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant beth fydden nhw'n ei feddwl yw'r gair allweddol yn y stori hon? Dywedwch eich bod chi'n meddwl mai ‘maddeuant’ allai'r gair allweddol fod.

Gofynnwch iddyn nhw droi at y plentyn agosaf atyn nhw a rhoi cynnig ar ateb un o'r cwestiynau hyn: ‘Beth mae'n ei olygu i faddau i rywun?’ (CA2) neu ‘Am ba fath o bethau y dylem ddweud 'sori'? (CA1) Gwrandewch ar rai o'u hatebion.

Atgoffwch nhw fod Iesu wedi dweud wrthym, ar ddiwedd y stori o'r Beibl, os ydyn ni wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn, y dylen ni ddweud 'sori' wrth Dduw ac yna fe fydd yn rhoi maddeuant i ni. Yn yr un modd, os ydych chi wedi ffraeo gyda ffrind, rwy'n credu y dylai dau beth ddigwydd yn fel rheol: os ydych chi’n gwybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth o'i le neu beri loes i rywun, fe ddylech chi fod yn ddigon dewr i ddweud 'sori' wrth y person hwnnw. Fe ddylai'r person hwnnw wedyn faddau i chi.

Felly, gadewch i ni fynd yn ôl at y cwestiynau ar ddechrau'r gwasanaeth:

Beth allaf i ei ddefnyddio i drwsio neu adfer cyfeillgarwch neu berthynas sydd wedi torri? Fe ddywedwn i, mai ateb da i'r cwestiwn hwnnw fyddai ‘maddeuant’.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y stori heddiw o’r Beibl sy’n sôn am faddeuant.
Diolch dy fod ti’n rhoi dechrau newydd i ni os dywedwn ni sori wrthyt ti.
Helpa ni i fod yn bobl faddeugar yma yn yr ysgol hon.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon