Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

‘Helo, Sgryffi!’ Tynnu waliau i lawr: Josua a Brwydr Jericho

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried rôl waliau.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen:

  • pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi
  • bocs o ddominos
  • utgorn tegan (dewisol).

Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud,

‘Helo, Sgryffi!’

Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol:

Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos.

Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  1. Roedd Sgryffi, y mul bach, ar fuarth y fferm, yn gwylio Liwsi Jên a’i ffrind, Inca, yn chwarae dominos ar y bwrdd picnic. (Ydych chi’n gwybod sut i chwarae dominos?)

    Roedden nhw wedi penderfynu mai’r enillydd fyddai’r un a fyddai’r gyntaf i ennill tair gêm. Roedd yn ornest agos iawn, oherwydd roedd y ddwy wedi ennill dwy gêm yr un. A’r gêm nesaf oedd yr un a fyddai’n penderfynu pwy oedd yr enillydd. (Pwy ydych chi’n feddwl sy’n mynd i ennill?)

    Inca a enillodd, tair gêm i ddwy. (Felly sawl gêm oedden nhw wedi ei chwarae? Ydych chi’n meddwl bod Liwsi Jên wedi derbyn mai hi oedd wedi colli y tro hwn? Sut gollwr ydych chi fel arfer?)

    ‘Beth gawn ni ei wneud nesa?’ gofynnodd Inca. ‘Dwi’n gwybod,’ meddai Liwsi Jên, ‘beth am i ni adeiladu twr uchel gyda’r dominos.’ (Efallai y gallwch chi wneud hyn ryw dro?)

    Yn ofalus iawn, fe osododd y ddwy y dominos fesul dau ar ben ei gilydd, fel hyn. (Dechreuwch adeiladu twr). Roedd Sgryffi wedi dod at y bwrdd i wylio. Ac fel roedden nhw’n mynd i osod y domino olaf ar ben y twr . . . O! diar, fe laniodd gwenynen ar drwyn Sgryffi, buzzzzzzzz. Fe ysgydwodd Sgryffi ei ben o ochr i ochr dros y bwrdd picnic, a . . . beth ddigwyddodd nesaf? Fe siglodd y twr a chwympo a chwalu!

    ‘O, Sgryffi!’ chwarddodd Liwsi Jên. ‘Nawr, fe fydd rhaid i ni ddechrau eto!’ A dyna beth wnaethon nhw.

    (Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.)
  2. Roedd pobl Dduw yn teithio’r daith hir o'r Aifft i Wlad yr Addewid. Roedd eu harweinydd newydd, dyn ifanc o'r enw Josua, yn eu harwain at waliau uchel dinas Jericho, ond doedd neb yn gadael iddyn nhw fynd i mewn. Beth allen nhw ei wneud?

    Roedd gan Dduw gynllun, ac fe ddywedodd wrth Josua beth yn union yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud. Roedd Josua i fod i drefnu gorymdaith. Ar flaen yr orymdaith yr oedd milwyr, yn cael eu dilyn gan saith offeiriad yn chwythu utgyrn, a’r offeiriaid hynny’n cerdded o flaen y bobl oedd yn cario Arch y Cyfamod. (Dangoswch y llun.) Ac yna yn dilyn, roedd rhagor o filwyr.

    Bob dydd am chwe diwrnod, fe wnaethon nhw fartsio un waith o gwmpas mur y ddinas: chwith, dde, chwith, dde, chwith, dde. Ac fe ganodd yr offeiriaid yr utgyrn: twt tw twt twt!

    (Tybed beth oedd y bobl oedd y tu mewn i fur y ddinas yn ei feddwl oedd yr orymdaith ryfedd hon. Oedden nhw’n chwerthin?)

    Ar y seithfed dydd, fe roddodd Josua gyfarwyddiadau newydd oddi wrth Dduw i’w ddynion. Roedden nhw i fod i gerdded o gwmpas mur y ddinas chwe gwaith, fel o'r blaen, ond pan fyddai’r utgyrn yn cael eu chwythu am y seithfed tro, roedden nhw i gyd i fod i weiddi mor uchel ag y gallen nhw. (Beth ydych chi’n meddwl wnaethon nhw weiddi?)

    Felly, fe arweiniodd Josua yr orymdaith ar y seithfed diwrnod, a phan ganodd yr utgyrn - twt tw twt twt, twt tw twt twt - a phan waeddodd y dynion, ‘Mae Duw gyda ni!’, fe chwalodd mur y ddinas a disgyn i lawr (clap uchel)!

    Doedd y bobl oedd y tu mewn i fur y ddinas ddim yn chwerthin nawr, wrth i Josua a’i ddynion grafangio i mewn i’r ddinas dros yr holl rwbel. Roedd pawb wedyn yn gwybod bod Duw gyda Josua.

Amser i feddwl

Yn y stori hon, roedd y wal yn rhwystr; roedd yn cadw rhai pobl i mewn, ac yn cadw rhai pobl eraill allan. Allwch chi feddwl am unrhyw beth arall allai beri ein bod yn cael ein cadw ar wahân i fechgyn a merched eraill?

(Lliw ein croen, ein bod yn siarad ieithoedd gwahanol, neu’n bwyta bwydydd gwahanol, neu’n byw mewn llefydd gwahanol iawn.)

Gweddi

Dduw dad, diolch i ti am y stori gyffrous hon.
Roedd dy gynllun di yn ymddangos yn un rhyfedd iawn, ond fe wnaeth Joshua ufuddhau, gan gredu y byddet ti’n gallu chwalu’r mur oedd o gwmpas dinas Jericho, a’u dymchwel.
Helpa ni i gofio ein bod i gyd yn rhan o dy deulu di – pobl ddu a phobl wyn, henoed a phobl ifanc, pobl gyfoethog a phobl dlawd, rydyn ni i gyd yn perthyn i Ti.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon