Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfrifoldebau

Am beth rydyn ni’n gyfrifol?

gan Kay Partridge

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu i ddeall ein cyfrifoldebau tuag atom ein hunain, tuag at eraill, a thuag at ein planed.

Paratoad a Deunyddiau

  • darluniau (wedi eu hargraffu neu ar sgrin – angen gliniadur)
  • siocledi/ melysion
  • yr adnod o’r Beibl wedi ei hargraffu ar wahân
  • Beibl
  • can o Coke.

Gwasanaeth

1. Pwy ohonoch chi sy'n gwybod beth yw ystyr cyfrifoldeb? Mae'n golygu bod yng ngofal rhywbeth, cael rheolaeth dros rywbeth. Felly, er enghraifft, mae gan eich athrawon gyfrifoldeb i'ch helpu chi ddysgu pethau tra rydych chi yn yr ysgol.

Mae gen i rai lluniau o bobl yma ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu dweud  wrthyf ba gyfrifoldebau sydd gan y bobl hyn . . . (dyma rai syniadau ond fe allech chi ychwanegu rhai enwau sy'n fwy priodol i'ch ardal chi))

  • Roy Hodgson
  • Y Prif Weinidog
  • meddyg
  • Simon Cowell.

2. Rydych chi’n ateb yn dda dros ben, da iawn chi - mae rhai pethau y mae gwahanol bobl yn gyfrifol amdanyn nhw, on'd oes? Ond mae rhai pethau hefyd y gallwn ni i gyd fod yn gyfrifol amdanyn nhw. Felly rydw i angen eich help chi gyda hyn: Fe hoffwn i chi geisio cofio am y pethau hyn yn awr a’m hatgoffa i amdanyn nhw ar y diwedd.

3. Siocledi neu felysion – ni sydd â chyfrifoldeb i ofalu am eraill a rhoi eraill yn gyntaf. A allwch chi gymryd y rhain os gwelwch yn dda a gofalu bod pob un o'r athrawon yn cael un?

Adnod o'r Beibl - rydyn ni'n gyfrifol am ddysgu a gwneud y gorau ohonom ein hunain (‘Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd; carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu’ch gilydd ' Ioan 13.34).

Can o ddiod Coke – rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn gofalu am y blaned.

Iawn, ydych chi’n meddwl y gallwch chi gofio'r adnod honno? Ydych chi’n credu y gallwch chi ei hadrodd yn uchel?

Amser i feddwl

Mae Cristnogion yn credu mai'r cyfrifoldeb mwyaf sydd gennym yw'r un i garu ein gilydd. Mae gen i adnod yr hoffwn ei hadrodd i chi wrth ddiweddu’r gwasanaeth heddiw, ac fe hoffwn i chi feddwl am eich cyfrifoldeb o ofalu a charu eraill – a yw'r adnod hon yn dweud sut y gallech gyflawni hynny?  Yna rwy'n mynd i weddïo ac, os ydych chi'n dymuno ymuno gyda mi yn y weddi honno, teimlwch yn rhydd i ddweud ‘Amen’ ar y diwedd.

1 Corinthiaid 13: y rhodd o gariad

Os llefaraf â thafodau meidrolion ac o angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar.

Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.

Ac os rhof fy holl feddiannau i borthi eraill, ac os rhof fy nghorff yn aberth, a hynny er mwyn ymffrostio, a heb fod gennyf gariad, ni wna hyn ddim lles imi.

Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw'n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio; nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond mae’n cyd-lawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.

Nid yw cariad yn darfod byth.

Gweddi

Arglwydd Dduw,helpa ni i roi eraill yn gyntaf ac i ofalu am y bobl sydd o’n cwmpas.
Diolch i ti am dy gariad tuag atom ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon