Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y peth real

Grym y Pentecost

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut gwnaeth y Pentecost newid pobl o’r tu mewn allan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bocs bach o siocledi wedi eu lapio’n unigol e.e. siocledi Lindt
  • Dwy o ysgewyll bach (Brussels sprouts) wedi eu gorchuddio â siocled, ac wedi eu lapio i’w gwneud i ymddangos yn debyg i’r siocledi eraill 
  • Dau blentyn a dau oedolyn i’ch helpu
  • Dau ddisgybl i ddarllen y rhannau o Luc 24.49 ac Actau 1.8.

Gwiriwch oes alergedd bwyd gan y plant fydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn

Gwasanaeth

  1. Gall yr arweinydd ddechrau trwy sôn sut y mae ef neu hi yn hoff iawn o siocled, a sut y mae’n hoff iawn o'r Nadolig a'r Pasg a phenblwyddi oherwydd bod siocledi, fel arfer, yn rhywbeth sy’n cael eu rhoi fel anrhegion ar yr achlysuron hyn! Gofynnwch a oes unrhyw un arall yn blysio siocled. Byddwch wedi trefnu gyda dau oedolyn o flaen llaw, a galwch ar y ddau i ddod ymlaen ar y pwynt hwn. Dewiswch ddau blentyn i ddod atoch. Dylai'r plant sefyll ar un ochr i chi a'r oedolion ar yr ochr arall, gryn bellter oddi wrth y naill a'r llall.

  2. Cymerwch ddarn o siocled eich hun a dywedwch ‘mmm’ ac ‘aaah’ wrth i chi ei fwyta. Yna gofynnwch i'r pedwar a fydden nhw'n hoffi cael siocled. Gadewch i’r ddau oedolyn gymryd y siocledi rydych chi’n gwybod mai ysgewyll wedi eu gorchuddio â siocled ydyn nhw (gofalwch bod y rhain ar ben y gweddill yn y bocs), ac yna gadewch i’r plant ddewis eu siocledi eu hunain. A chymerwch siocled arall eich hunan! ‘Iawn, gadewch i ni eu bwyta a’u mwynhau.’

    Fe ddylai'r oedolion ymateb yn sydyn, ‘O, ych-a-fi! Mae hwn yn blasu fel sbrowts!’

    Gwnewch ffws a ffwdan fawr o hyn.

    ‘Ond siocled oedd o, ac roedd wedi cael ei lapio mewn papur crand.’

    ‘Efallai mai siocled oedd o ar y tu allan, ond yn sicr nid siocled ydi o ar y tu mewn! A fyddech chi'n hoffi ei flasu?’

    Arweinydd y gwasanaeth yn amlwg yn gwrthod.

    ‘Mae'n ddrwg iawn gen i am hynny. Blant, beth amdanoch chi? Ydi’r rhai gawsoch chi yn siocled iawn?’

    Cynigiwch siocled arall i'r oedolion. Fe ddylen nhw edrych braidd yn ansicr i drio un arall, ac fe fyddan nhw’n procio'r un maen nhw wedi ei ddewis unwaith y bydd y papur wedi ei dynnu oddi arno,  cyn ei roi yn eu ceg.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                       
    Wedyn, fe ddywed yr oedolion, ‘Mmmm. Dyna welliant. Siocled yw hwn, yn bendant- hyfryd iawn.’

  3. Eglurwch, pan oedd Iesu ar y ddaear, ei fod yn gwybod o ddifrif a oedd pobl yr hyn yr oedden nhw'n ymddangos i fod, a oedden nhw, heb amheuaeth, yn real. Fe wyddai pa un ai â oedd eu daioni a'u caredigrwydd yn ddim amgenach na sioe ar yr wyneb, neu a oedd yn mynd yn ddyfnach na hyn.

    Un diwrnod fe gythruddodd rhai arweinwyr crefyddol, o ddifrif. Roedden nhw'n ymddangos yn sanctaidd, ac yn onest, ac yn eithaf balch o'u safle, ac roedd yn gwneud i bobl eraill edrych arnyn nhw mewn parchedig ofn.

    ‘Gwae chi,. . . ragrithwyr. Oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd ... ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.’ (Mathew 23.27–28).

    Doedden nhw ddim yn hoffi hynny o gwbl!

  4. Mae Cristnogion yn credu mai Duw oedd Iesu, a'i fod yn ddi-os yn wir ac yn real. Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe ddewisodd 12 o ffrindiau arbennig, sy'n cael eu galw’n ddisgyblion gennym ni, ac fe'i haddysgodd nhw am y cyfan yr oedd ef yn ei wybod. Fe'i haddysgodd nhw fod Duw yn caru pawb ym mhob man ac fe ddangosodd iddyn nhw sut i garu a gofalu am bobl. Fe'i haddysgodd nhw mai goleuni a gwirionedd oedd Duw a'u haddysgu nhw am y doethineb i fyw. Ddydd ar ôl dydd am dair blynedd fe'i haddysgodd a dangos iddyn nhw sut i fyw.

    Ond roedd Iesu hefyd yn gwybod bod ei ddisgyblion fel yr ysgewyll bach oedd wedi cael eu gorchuddio â siocled! Efallai bod ganddyn nhw rywfaint o ddeallusrwydd, ac wedi cael rhywfaint o hyfforddiant ynghylch pa mor bwysig yw caru, ond roedd y cyfan ar yr wyneb, yn union ar y tu allan fel y siocled oedd yn gorchuddio’r ysgewyll. Ar yr arwydd cyntaf o drafferth fe wyddai y bydden nhw'n methu dal ati. Doedden nhw ddim yn gallu gwneud y cyfan ar eu pennau eu hunain. Ac felly, ar ôl iddo gael ei groeshoelio a dod yn ôl yn fyw ar ôl marw, fe ddywedodd wrthyn nhw am ddisgwyl.

    Disgybl i ddarllen Luc 24.49. ‘Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth?’

    Disgybl i ddarllen Actau 1.8. ‘Ond fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.’

    Ufuddhaodd y disgyblion, ac ar y Pentecost fe wnaethon nhw dderbyn yr Ysbryd Glân gafodd ei addo iddyn nhw, a'i holl nerth. Dyna pryd y daeth y gwahaniaeth. Fe ddaethon nhw'n eofn, gan bregethu drosodd a throsodd i unrhyw un a phawb, er eu bod yn cael eu carcharu a'u curo bob tro.

    ‘Mae'n rhaid i ni bregethu'r neges hon,’ oedd eu hateb i'r awdurdodau.

    Fe wnaethon nhw ymroi eu hunain i addysgu eraill ac i weddïo. Fe wnaethon nhw adael eu cartrefi a byw gyda'i gilydd mewn cymuned. Fe wnaethon nhw werthu eu meddiannau a'u heiddo, a'u rhoi nhw i'r rhai mewn angen. Fe wnaethon nhw weddïo dros y bobl a'u gweld nhw'n cael eu hiacháu a'u rhyddhau oddi wrth bob math o rwystredigaethau. Fe wnaethon nhw deithio ar hyd ac ar led y wlad gan siarad â phob math o bobl, ac fe wnaethon nhw wynebu erledigaeth a llongddrylliad, dioddef cael eu curo a chafodd rhai eu lladd hyd yn oed. Doedden nhw ddim mwyach fel ysgewyll bach wedi eu gorchuddio â siocled, roedden nhw'n real ac o ddifrif ‘y peth go iawn’ yn llwyr.

Amser i feddwl

Efallai yr hoffech chi ystyried y cwestiynau canlynol o ddifrif.

A yw sut rydych chi’n ymddangos ar y tu allan o ddifrif yr un fath â phwy ydych chi ar y tu mewn? Ydych chi 'y peth go iawn'?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw, diolch bod Iesu’n gyfan gwbl lawn cariad a gwirionedd. Yn aml, fyddwn ni ddim yn hollol yr hyn rydyn ni eisiau bod. Diolch i ti am neges y Pentecost.  Diolch dy fod ti’n gallu ein gwneud ni’n driw o’r tu mewn allan. Rho i ni dy rym i fod yr hyn roeddet ti’n bwriadu i ni fod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon