Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori’r Deg o Wahangleifion

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ein hatgoffa pa mor dda yw dweud ‘Diolch’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen sawl rholyn o bapur toiled a selotep.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori yn Luc 17.11–19, am Iesu a’r deg o wahangleifion, fel y gallwch chi ei hailadrodd yn y gwasanaeth mewn ffordd a fyddai’n briodol ar gyfer oedran y plant yn eich cynulleidfa.

Gwasanaeth

1. Dechreuwch trwy roi sgwrs fer, ac addas ar gyfer oedran y plant, am wahangleifion a’r afiechyd gwahanglwyf (leprosy) – gan egluro, er enghraifft, mai afiechyd sy’n effeithio ar y croen ydyw. Yna, soniwch fel y byddai pobl ers talwm yn cael eu gorfodi i fyw ar wahân i bobl eraill pe bydden nhw’n dal yr afiechyd. Fe fyddai’n rhaid iddyn nhw fyw ymhell o gyrraedd pobl eraill oherwydd bod yr afiechyd yn heintus iawn.

2. Adroddwch y stori yn Luc 17.11–19 am Iesu a’r deg o wahangleifion – eto, mewn ffordd a fyddai’n briodol ar gyfer oedran y plant yn eich cynulleidfa.

3. Nawr gofynnwch i ddeg o wirfoddolwyr ddod ymlaen atoch chi, a deg plentyn arall hefyd i helpu.
Gofynnwch i’r helpwyr lapio rhannau o gorff y gwirfoddolwyr â stribedi o bapur toiled - awgrymwch roi rhwymyn am y pen neu am fraich neu law, er enghraifft. Cyfarwyddwch yr helpwyr, rhag ofn iddyn nhw wneud gormod o’r dasg (does arnoch chi ddim eisiau deg mymi!), ond fe ddylai fod yno ddigon o’r rhwymynnau i awgrymu salwch ac afiechyd y gwahanglwyf. Gallai defnyddio darnau bach o selotep ar bob pen i’r broses o lapio’r papur toiled helpu i gadw’r ‘rhwymyn’ yn ei le.

Pan fydd yr helpwyr wedi gorffen, diolchwch iddyn nhw a gofyn iddyn nhw fynd yn ôl i’w lle i eistedd.

4. Nawr, adroddwch y stori eto ac, wrth i chi wneud hynny, gofynnwch i’r ‘gwahangleifion’ actio’r hyn rydych chi’n ei ddisgrifio sy’n digwydd iddyn nhw.

5. Ar y diwedd, gofynnwch, ‘Faint ddaeth yn ôl i ddiolch i Iesu?’

Fe allech chi gyfrif yn ôl o ddeg, gan ddefnyddio eich bysedd. Deg? Naw? Wyth?’ ac ymlaen – yna dywedwch, ‘Un. Ie, dim ond un!’

6. Siaradwch pa mor dda, a pha mor hyfryd, pa mor bwysig ac iawn yw dweud ‘Diolch!’ - wrth bobl eraill, ac wrth Dduw.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio ychydig funudau yn meddwl am yr holl bobl yr ydych eisoes wedi dweud 'Diolch yn fawr' wrthyn nhw heddiw. . . . eich rhieni, eich athrawon, y person sy'n eich helpu i groesi'r ffordd. . . efallai eich chwaer neu eich brawd hyd yn oed!

Yn awr, gadewch i ni feddwl am bawb na wnaethoch chi ddweud 'Diolch yn fawr' wrthyn nhw. . .

Efallai, pan fyddwch yn mynd yn ôl adref, neu yn ôl i’ch ystafell ddosbarth, efallai y byddwch yn gallu dweud diolch wrth y rhai hynny.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon