Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arddangosfa o flodau

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein hatgoffa ein bod i gyd yn wahanol, ond mae pob un yn hardd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tusw o flodau, mewn fâs neu gynhwysydd arall.
  • Ar gyfer Ysgol Eglwys, cynhwyswch Gam rhif 5 yn eich cyflwyniad, felly ymgyfarwyddwch o flaen llaw â’r darn allan o Efengyl Mathew 6.25–34.

Gwasanaeth

1. Helo, wel, rydych chi’n edrych yn smart heddiw! Dyma i chi ystafell hyfryd yn llawn o bobl a phlant hardd!

2. Tybed beth ydych chi’n ei feddwl o’r blodau hardd sydd gen i yma?

Dangoswch y tusw blodau, gan efallai dynnu ambell flodyn allan o’r fâs, fesul un,  er mwyn edrych yn fwy manwl arnyn nhw a thrafod eu golwg, eu harogl a’u henwau, fel y gallwch chi.

3. Tybed pa flodyn ydych chi’n meddwl yw’r harddaf?

Fe allech chi gynnal pleidlais ynghylch pa flodyn yw’r harddaf yng ngolwg y plant.

4. Fe ddywedais i’n gynharach eich bod i gyd yn edrych yn smart iawn. Mae hynny’n wir, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n meddwl mai’r blodau sy’n ennill y gystadleuaeth am y peth harddaf yn yr ystafell. Ydych chi’n cytuno â fi? Sylwch, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwisgo dillad i’w gwneud nhw edrych yn smart!

5.Ar gyfer Ysgol Eglwys.

Un diwrnod pan oedd Iesu’n addysgu tyrfa o bobl, fe gyfeiriodd at y blodau yn y cae, ac at ba mor hardd oedden nhw. Fe ddywedodd wrth y dyrfa fod y blodau yn ei atgoffa o wers bwysig iawn y dylai pob un ohonom ei chofio.

Gwahoddwch un o’r plant i ddarllen yr adnodau o Efengyl Mathew 6.25-34.

6. Ydych chi’n gweld, mae Cristnogion yn credu bod Duw’n gofalu am y blodau – mae’n eu helpu i dyfu a blodeuo’n hardd, gyda’u lliwiau tlws. Efallai eich bod yn cofio plannu hadau neu fylbiau ryw dro, ac yn cofio disgwyl nes bydden nhw wedi tyfu a blodeuo. Duw sy’n gwneud i’r planhigion dyfu, a gofalu amdanyn nhw. Mae Cristnogion yn credu y bydd Duw’n gofalu amdanom ninnau hefyd.

7. Mae pobl yn rhai da am bryderu ynghylch pethau. Roedd y bobl yr oedd Iesu’n siarad â nhw’r pryderu am bethau, ac rydyn ninnau hefyd yn poeni am bethau yn aml.

Weithiau, y pethau bach sy’n ein poeni, pethau fel, ‘Beth alla i ei wisgo?’Ac ambell waith rydyn ni’n pryderu am bethau mwy fel, ‘Sut bydda i’n gallu ymdopi pan fydda i’n newid dosbarth, neu’n dechrau mewn ysgol newydd, neu sut ganlyniad gaf i yn y prawf?’ Fe allwn ni bob amser feddwl am rywbeth i bryderu yn ei gylch!

8. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, rydyn ni’n gweld pob math o flodau tlws yn ymddangos o’n cwmpas – yn ein gerddi, neu ar hyd ymyl y ffordd ar ein taith i’r ysgol ac yn ôl. Efallai, y tro nesaf y byddwch chi’n sylwi ar flodau, mae’n bosib iddyn nhw eich atgoffa i beidio â phryderu, oherwydd mae pawb yma’n wahanol i’n gilydd, fel mae’r holl flodau tlws yn wahanol i’w gilydd. Ac mae pob un ohonom ni yma’n unigryw, yn dalentog ac yn hardd - yn union fel y blodau.

Amser i feddwl

Gadewch i ni wneud ein hunain yn hollol dawel a meddwl am eiliad. Efallai yr hoffech chi edrych yn ofalus ar y blodau tra byddwch chi’n gwneud hyn.

Meddyliwch am funud, a oes rhywbeth sy'n eich poeni chi heddiw? Efallai mai problem fach sydd gennych chi, neu efallai ei fod yn rhywbeth mwy pwysig.

Os oes rhywbeth rydych chi’n poeni amdano ar hyn o bryd, peidiwch â'i gadw i chi eich hun. Mae eich athrawon yma i wrando ar eich pryderon, ac fe fyddwn yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddatrys y pethau sy’n eich poeni.

Gweddi

Annwyl Dduw.
Diolch i ti am y blodau hardd rydyn ni’n eu gweld yn blodeuo o’n cwmpas.
Helpa ni i gofio, yn union fel mae pob blodyn yn wahanol, felly hefyd rydyn ninnau i gyd yn wahanol, ac mae gan bob un ohonom ein gofidiau a’n pryderon ein hunain.
Helpa ni heddiw i fod yn fodlon ynghylch pwy ydyn ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon