Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Aw!

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dysgu gwers gan Paul ar sut i ddelio â’r achlysuron hynny pan fyddwch chi’n dweud, ‘Aw!’

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a phedwar Darllenydd.
  • Meddyliwch am rai enghreifftiau o eiriau sydd wedi bod yn niweidiol, neu am achlysuron pan gafodd teimladau rhywun eu brifo. Meddyliwch am eu heffaith ar y bobl, er mwyn eu trafod yn rhan gyntaf y gwasanaeth. Er enghraifft, 'Rwy'n gwybod am ferch a oedd wedi cael torri ei gwallt cyn gala nofio. Dywedodd ffrind wrthi, "Be wyt wedi ei wneud i dy wallt? Mae mor fyr!" O ganlyniad, fe wrthododd y ferch nofio yn y gala'r noson honno, er y byddai wedi bod yn debygol o fod wedi ennill.’ Yn yr un modd, fe allech chi ddechrau gydag enghraifft arall debyg i: ‘Rwy'n gwybod am fachgen sy'n. . . ', Yna rhowch enghreifftiau priodol o’ch amser chi eich hunan pan oeddech chi yn yr ysgol.
  • Ymgyfarwyddwch â’r hyn sy’n digwydd i Paul yn yr hanes yn Rhufeiniaid 9.

Gwasanaeth

Arweinydd: Efallai eich bod yn gyfarwydd â’r dywediad Saesneg, ‘Sticks and stones may break my bones, but words will never harm me.’

Byddwch hefyd wedi darganfod erbyn hyn mor anghywir yw'r dywediad hwn. Mae geiriau'n bethau grymus iawn. Gall geiriau achosi niwed i ni, yn ddwfn yn ein calon. Gall y niwed hwnnw arwain at hunanddelwedd isel, chwerwder a dicter - a hyd yn oed iselder ysbryd - os rhown ni le iddo.

Rhannwch gyda’ch cynulleidfa rai enghreifftiau rydych chi wedi meddwl amdanyn nhw o flaen llaw wrth baratoi ar gyfer y gwasanaeth.

Felly, mae geiriau yn sicr yn gallu ein niweidio - ond dim ond os gwnawn ni adael iddyn nhw.

Ffordd well yw dweud, ‘Aw! Roedd yr hyn ddywedaist ti’n brifo, mi wnes i deimlo’, a lleisiwch sut y gwnaeth i chi deimlo. Dychmygwch pe byddai'r eneth gyda'r gwallt byr wedi troi rownd a dweud fel hyn wrth ei ffrind:

Darllenydd 1: Pan wnest ti ddweud hynny am fy ngwallt i, fe wnaeth i mi deimlo fel pe byddwn i eisiau cuddio a pheidio â nofio yn y gala.  Fe wnes i feddwl beth fyddai pawb arall yn ei ddweud, ‘Beth mae hi wedi ei wneud i'w gwallt? Mae'n erchyll!’

Arweinydd: Wrth i ni dyfu i fyny fe allwn ni ymarfer y ffordd amgenach hon o ddelio â phethau y byddwn yn dod wyneb yn wyneb â nhw mewn bywyd sy'n gwneud i ni deimlo'n ddigalon.

Yn y Beibl, mae dyn o'r enw Paul yn rhoi enghraifft dda i ni o'r ffordd amgenach hon.

Ateb Paul i'r teimladau ‘Aw!' hynny

Iddew oedd Paul, a dyn dysgedig iawn hefyd. Yn wreiddiol, roedd yn wrthwynebus iawn i Iesu a'i ddilynwyr ac fe achosodd drafferth fawr iddyn nhw ar y dechrau.

Er gwaethaf hyn, fe ddewisodd Duw Paul i drosglwyddo'r neges am ei gariad at bobl eraill yn y byd hefyd nad oedd yn Iddewon, am fod cariad Duw ar gyfer pawb. O ganlyniad, cafodd gryn drafferth gydag arweinwyr yr Iddewon. Fe wnaethon nhw ei alw'n bob math o bethau, ei guro, a'i garcharu. Dioddefodd Paul lawer iawn o deimladau ‘Aw!’

Fel ninnau, gallai Paul, fod wedi ymateb mewn sawl ffordd wahanol. Fe allai fod wedi dweud:

Darllenydd 1: Wna'i ddim trafferthu gyda’r Iddewon ddim mwy. Fe siarada'i â'r lleill yn unig.

Darllenydd 2: Beth ydw i'n ei wneud? Rwyf wedi siomi fy mhobl fy hun. Rhaid fy mod i'n anghywir. Fe fyddai’n well i mi gau fy ngheg.

Darllenydd 3: Dydy hyn ddim yn deg! Y cyfan rwy'n dymuno ei wneud yw dod â newyddion da iawn atyn nhw, a sylwch sut maen nhw'n fy nhrin. Does neb yn fy ngharu, mae pawb yn fy nghasáu, rwy'n credu yr af â chadw'r cyfan o’r newyddion da i mi fy hun!

Darllenydd 4: Maen nhw'n griw anodd o bobl. Doeddwn i ddim yn eu hoffi sut bynnag.

Arweinydd: Er hynny, wnaeth Paul ddim troi’n chwerw, nac yn ddig, ac ni adawodd i hyn effeithio arno a mudlosgi yn ei feddwl am ddyddiau. Yn hytrach, fe wynebodd ei gyd-Iddewon a phwysleisio ei safbwynt ef. Fe siaradodd â nhw yn amddiffynnol - nid mewn chwerwedd, nid mewn barn, ond yn gariadus ac yn dyner. Fe ddywedodd wrthyn nhw fel yr oedd hyn i gyd yn gwneud iddo deimlo.

Mewn gwirionedd, yr hyn mae’n ei ddweud yn Rhufeiniaid 9 yw:

Yr wyf yn siarad y gwir wrthych chi, nid wyf yn dweud celwydd. Mae gen i dristwch mawr yn fy nghalon o'i herwydd. Rwyf yn pryderu amdanoch chi yn fwy nag yr wyf yn poeni am fy mywyd fy hun. Yr wyf yn daer am i chi wybod fod Iesu wedi dod at yr Iddewon yn gyntaf, ond mae hefyd yn caru'r Cenhedloedd.

- ac fe ddaliodd ati i geisio eu helpu i ddod i wybod mwy am athrawiaeth Iesu am flynyddoedd wedyn.

Amser i feddwl

Ydych chi wedi cael moment ‘Aw!’ yn ystod y dyddiau diwethaf?

Beth gafodd ei ddweud? Sut gwnaethoch chi ymateb?

Beth allech chi fod wedi ei wneud a allai fod wedi newid y canlyniad?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Rwyt ti’n gwybod y gall geiriau frifo ein teimladau, a bod effaith hynny’n gallu para am flynyddoedd weithiau.
Mae’n bosib i ni fynd yn swil ac yn bryderus, neu’n chwerw a dig o ganlyniad i rywbeth mae rhywun yn ei ddweud wrthym.
Helpa ni i wybod sut i fynegi ein momentau ‘Aw!’,  a siarad amdanyn nhw gyda rhywun arall fel y gallwn ni deimlo’n rhydd unwaith eto.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon