Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Grym na allwch ei weld: Anadl a gwynt . . . ac ysbryd

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o rym anweledig Duw.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen gwellt yfed, peli ping pong, a bwrdd neu fainc (does dim rhaid i chi gael yr eitem olaf).

Gwasanaeth

1. Siaradwch am nodweddion y gwynt – trafodwch ei fod yn anweledig, yn nerthol ac, er na allwn ei weld, rydym yn gallu ei deimlo. Ewch ymlaen i ddweud bod hyn yn debyg mewn ffordd i ddisgrifiad o Dduw.

2. Gofynnwch i’r plant chwythu ar eu dwylo a meddwl sut mae hynny'n teimlo. Mae’n teimlo’n oer!

Yna gofynnwch i’r plant anadlu ar eu dwylo – mae hynny’n teimlo’n gynnes!

3. Sgwrsiwch am y pethau da mae’r gwynt yn gallu ei wneud, yn cynnwys chwifio barcut a chynhyrchu trydan.

Trafodwch nerth y gwynt – sut mae, er na allwn ei weld, yn gallu peri i goed gwympo, a hyd yn oed adeiladau hefyd.

4. Dangoswch un o’r peli ping pong gan egluro ei bod yn ysgafn iawn, dangoswch pa mor ysgafn ydyw. Fe allech chi wneud hyn trwy ei phasio i rai o’r plant er mwyn iddyn nhw allu cadarnhau hyn.

Yna dangoswch welltyn yfed.

5. Gofynnwch am wirfoddolwr i ddod atoch chi. Gofynnwch i’r gwirfoddolwr geisio llywio un o’r peli ping pong rhwng gwrthrychau rydych chi wedi eu gosod ar y llawr, neu ar y bwrdd neu’r fainc os ydych chi’n defnyddio un. Rhaid iddo ef neu hi reoli’r bêl gyda dim ond anadl. Caiff chwythu trwy’r gwelltyn, ond ni chaiff gyffwrdd y bêl.

Amser i feddwl

Eglurwch fod Cristnogion yn credu bod Duw’n gallu ein harwain trwy fywyd gyda grym anweledig ei Ysbryd, sy’n aml yn cael ei ddychmygu fel anadl Duw.

Mae Cristnogion yn credu hefyd bod Ysbryd Duw’n gallu siarad â ni drwy ein cydwybod - y llais bach hwnnw yn ein pen sy’n ein helpu ni i wybod pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth o’i le, neu’n gwneud y peth iawn.

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy nawr mewn distawrwydd, i wrando am y llais hwnnw i’n helpu ni feddwl am y diwrnod hyd yma. Ydyn ni wedi gwneud y pethau iawn?

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon