Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwaith tîm

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2

Nodau / Amcanion

Ystyried beth sy’n gwneud tîm da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwiliwch am ddelwedd o’r deuddeg apostol a’u henwau, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth wrth i chi ddarllen y stori (dewisol).
  • Paratowch ddelwedd yn dangos y ddau awgrymiad sy’n cael eu rhestru yn yr adran ‘Amser i feddwl’ ar y diwedd, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth (dewisol).

Gwasanaeth

1. Eglurwch eich bod eisiau i bawb heddiw feddwl am y ffordd yr ydym yn perthnasu gyda gwahanol fathau o bobl, a beth mae hynny'n ei olygu mewn perthynas â bod yn aelodau o dîm.

2. Gofynnwch i'r plant droi at y plentyn nesaf atyn nhw a chael sgwrs am y pethau sy'n gyffredin i'r naill a'r llall (er enghraifft, eu bod yn yr un dosbarth, bod ganddyn nhw lygaid glas, eu bod yn chwech oed ac yn y blaen).

Ar ôl treulio ychydig funudau, gofynnwch iddyn nhw wirfoddoli i rannu rhai o'u hatebion gyda phawb arall.

3. Yna, gofynnwch iddyn nhw droi'n ôl eto at eu partneriaid, a'r tro hwn, i gael sgwrs am y pethau sydd ddim yn gyffredin rhyngddynt (fel eu taldra, lliw eu gwallt ac ati).

Unwaith eto, gofynnwch i'r plant rannu ychydig o'u hatebion gyda phawb arall.

4. Ewch ymlaen i ddweud y gallech chi feddwl, oherwydd eu bod i gyd yn aelodau o'r un ysgol, y bydden nhw'n debyg i'w gilydd. Ond y gwirionedd yw eu bod i gyd yn unigryw ac yn wahanol. Mae gan bawb wahanol ddiddordebau, gwahanol chwaethau, gwahanol farn am bethau, a gwahanol arferion.

Mae'r ffaith eu bod i gyd mor wahanol i'w gilydd yn golygu eu bod yn creu ysgol ddiddorol, oherwydd bod yr holl wahaniaethau hynny o'u rhoi gyda'i gilydd yn gwneud tîm cryf, cyn belled â'u bod yn gallu cyd-dynnu'n dda â'i gilydd.

5. Dywedwch yn awr eich bod yn mynd i adrodd stori iddyn nhw o'r Beibl sy'n sôn am Iesu'n dewis ei dîm - tîm yn cynnwys llawer o wahanol fathau o bobl. Yn y rhan honno o’r Beibl, y Testament Newydd, gallwn ddarllen llawer o storïau sy'n sôn wrthym am yr holl wahanol fathau o bobl yr oedd gan Iesu ymhlith ei ffrindiau. Ond mae un stori yn Luc, pennod 6, yn y Testament Newydd, yn sôn wrthym fod Iesu wedi dewis 12 o ffrindiau arbennig oedd ganddo, i fod yn apostolion iddo.

Iesu’n dewis y Deuddeg Apostol

Dringodd Iesu gyda'i ddisgyblion i ben bryn mawr ac, o gyrraedd y copa, fe ddewisodd 12 ohonyn nhw i fod yn apostolion iddo. Fe ddywedodd wrthyn nhw:

‘Rydw i wedi gofyn i chi ddod gyda mi heddiw oherwydd rwyf wedi eich dewis chi i fod yn ffrindiau arbennig i mi. Yn wir, rwy'n mynd i roi enw arbennig i chi hefyd: Rwy'n mynd i'ch galw chi'n apostolion i mi.’

Edrychodd y 12 dyn ar ei gilydd, gan feddwl beth oedd Iesu'n ei olygu, ond doedden nhw ddim yn hoffi gofyn iddo. Roedd hi'n glir fod Iesu'n dyfalu beth oedd ar eu meddyliau, oherwydd aeth yn ei flaen i ddweud:

‘Rwyf am i chi deithio o amgylch y wlad gyda mi. Rwyf i hefyd am i chi ddweud wrth bobl eraill amdanaf fi ac fe roddaf i chi'r gallu i wneud rhai pethau gwirioneddol ryfeddol yn fy enw i.’

Dangoswch y ddelwedd o’r Deuddeg Apostol, os byddwch yn ei dewis ei defnyddio.

Enwau'r 12 dyn hynny oedd Simon Pedr, ei frawd, Andreas, Iago a'i frawd ef, Ioan, Philip, Bartholomeus, Mathew, Thomas, Iago arall, Simon arall, Jwdas a Jwdas Iscariot. Am dair blynedd, fe wnaethon nhw deithio o amgylch y wlad yng nghwmni Iesu, gan wneud yr holl bethau hynny y dywedodd Iesu wrthyn nhw y bydden nhw'n eu gwneud.

6. Eglurwch nad ydym yn gwybod rhyw lawer am bob un o'r Deuddeg Apostol, ond rydyn ni’n gwybod rhai pethau. Roedd Simon Pedr ac Andreas yn frodyr, fel y clywsom funud yn ôl, ac roedd Iago ac Ioan hefyd yn ddau frawd, ac roedd y pedwar yn bysgotwyr. Roedd Simon Pedr hefyd yn dipyn o geg faw, a oedd ddim bob amser yn oedi i feddwl cyn iddo agor ei geg i ddweud rhywbeth; casglwr trethi oedd Mathew; amau pob dim bob amser oedd Thomas ac yn gofyn llawer o gwestiynau; ac fe drodd Jwdas yn rhywun nad oedd yn ffrind da wedi'r cyfan, oherwydd fe fradychodd ef Iesu i'r milwyr.

Roedd pobl eraill yn synnu i raddau bod Iesu wedi dewis rhai o'r dynion hyn i fod yn ffrindiau arbennig iddo, ond y rhain oedd y rhai wnaeth Iesu eu dewis, er mor wahanol i’w gilydd oedden nhw! Fe ddaethon nhw'n dîm da iawn - yn wir, fe ddaethon nhw'n dîm a newidiodd y byd, ac fe wnaethon nhw ddysgu derbyn gwahaniaethau'r naill a'r llall a chydweithio'n dda.

Amser i feddwl

Tybed beth allwn ni ei ddysgu o’r stori rydyn ni wedi ei chlywed heddiw a allai ein dysgu ni i fod yn dîm cryf yn yr ysgol hon? Rydw i wedi meddwl am ddau awgrymiad:

– dysgu derbyn pobl sy’n wahanol i ni – cael yr holl amrywiaeth o unigolion yma sy’n gwneud yr ysgol hon yn ysgol mor ddiddorol i fod ynddi 

– dysgu sylwi ar rywun sy’n dda am wneud rhywbeth nad ydych chi efallai ddim mor dda am ei wneud, a dweud  ‘Da iawn!’ wrtho ef neu hi ynghylch yr hyn mae’n ei wneud.

Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel am foment neu ddwy a meddwl am eich awgrymiadau, ac yna ystyried tybed beth allen nhw ei wneud ynglyn â’r rhain.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti’n dewis pob math o wahanol bobl i fod yn aelodau o dy dîm di.
Diolch bod cymaint o wahanol fathau o gymeriadau yma yn yr ysgol hon.
Helpa ni i fod yn dîm cryf gyda’n gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon