Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y tu ôl i’r llenni

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried datblygiad pwysig agweddau cadarnhaol trwy gydol yr amser mae’r plant yn ddisgyblion yn yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os bydd hynny’n bosib, trefnwch holiadur syml ar gyfer pennaeth yr ysgol, iddo ef neu hi holi’r pant o flaen llaw cyn y gwasanaeth. Dyma enghreifftiau o’r math o gwestiynau i’w cynnwys yn yr holiadur.

    – Beth oedd eich llwyddiant gorau neu eich cyflawniad mwyaf yn ystod y flwyddyn ysgol hon?

    – Beth ydych chi’n ei feddwl oedd y peth pwysicaf wnaethoch chi ei ddysgu yn ystod y flwyddyn?

    – Ym mha agwedd ar fywyd ysgol, neu fywyd yn gyffredinol y gwnaethoch chi wella yn ystod y flwyddyn?
  • Fe fydd arnoch chi angen sgrin, neu fwrdd arddangos mawr sy’n sefyll ar ben ei hun, a rhai labeli mawr gyda’r geiriau canlynol un ar bob un - geiriau fel gwirionedd, caredigrwydd, amynedd, dygnwch, dyfalbarhad, meddylgarwch, cariad. Cysylltwch ddarnau o gortyn i’r labeli hyn a gosodwch ben arall cortyn pob label yn sownd wrth ben uchaf y sgrin neu’r bwrdd arddangos, gyda’r labeli’n hongian o’r golwg am y tro y tu ôl i’r sgrin. Yna, fe fydd yn bosib dod â phob un o’r labeli yn eu tro o’r tu ôl i’r sgrin i’w dangos fel byddwch chi eu hangen.
  • Paratowch dri o’r disgyblion hynaf i ddarllen yr adnodau o 1 Corinthiaid 13 sy’n cael eu cyflwyno yng Ngham 8 y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Efallai bydd y plant yn ymwybodol eich bod chi (neu’r pennaeth) wedi bod yn mynd o gwmpas yr ysgol yn y dyddiau blaenorol yn holi cwestiynau. Eglurwch hyn gan ddweud eich bod yn awr yn mynd i sôn am y cwestiynau hyn heddiw ac am yr atebion. Awgrymwch eich bod yn meddwl y bydd y staff a chyd-ddisgyblion yn gweld bod yr atebion yn galonogol iawn.

2. Darllenwch y cwestiwn/cwestiynau a rhannwch rai o’r ymatebion, yn ôl fel mae’r amser yn caniatáu. Er enghraifft, ‘Fe ddywedodd Jâms yn Blwyddyn 2  . . .’,  ‘Fe ddywedodd Nel yn Blwyddyn 6 . . .’

Neu, os na fyddwch wedi llwyddo i drefnu’r holiadur, fe allech chi’n syml ofyn i’r plant godi eu dwylo i ymateb i’r un cwestiynau wrth i chi eu gofyn ar y diwrnod. Er enghraifft, ‘Pwy fu’n llwyddiannus mewn prawf mathemateg eleni? Neu mewn arholiad cerdd? Mewn cystadleuaeth efallai? Neu gêm bêl-droed?’

Siaradwch am lwyddiannau fel hyn, a dywedwch eu bod yn dangos i ni fod gennym ni lawer o bethau i’w dathlu heddiw wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben am flwyddyn arall.

3. Eglurwch eich bod eisiau meddwl am yr hyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen ‘y tu ôl i’r llenni’ yn ystod y flwyddyn.

Mae’r dywediad ‘y tu ôl i’r llenni’ fel arfer yn cyfeirio at y bobl hynny sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y theatr yn ystod drama neu gyflwyniad pan fydd y perfformwyr yn cael eu gweld ar y llwyfan. Mae’n golygu rhywbeth sy’n digwydd allan o lygad y cyhoedd, neu’n syml yn cyfeirio at y bobl sy’n gweithio heb i neb eu gweld. Dyma’r rhai hynny sy’n gweithio mewn ffordd dawel heb dynnu sylw atyn nhw’u hunain, felly does neb yn sylwi arnyn nhw.

Gofynnwch i’r plant awgrymu, o’u profiad eu hunain o gynhyrchiad a gyflwynwyd yn yr ysgol, beth fyddai rhai o’r tasgau hyn sy’n cael eu gwneud gan yr unigolion rheini sydd ‘y tu ôl i’r llenni’.

Pwysleisiwch pa mor hanfodol yw rhan y gweithwyr hyn at lwyddiant y cynhyrchiad.

4. Awgrymwch fod llawer o brofiadau dysgu wedi bod yn digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ yn ein hachos ninnau yn yr ysgol trwy gydol y flwyddyn. Mae’r profiadau hyn wedi bod yn digwydd mor dawel dydych chi ddim hyd yn oed wedi sylwi arnyn nhw.

O du ôl y sgrin neu’r bwrdd arddangos, dewch â’r label ‘caredigrwydd’ i’r tu blaen yn gyntaf. Gofynnwch i’r plant, ‘Rhowch eich llaw i fyny os oes rhywun wedi bod yn garedig  wrthych chi yn ystod y flwyddyn, neu wedi dangos ‘caredigrwydd’? Yna, gofynnwch, ‘Rhowch eich llaw i fyny os ydych chi wedi bod yn dangos caredigrwydd tuag at unrhyw un yn ystod y flwyddyn?’

5. Ewch ymlaen yn yr un ffordd gyda’r label nesaf - ‘amynedd’, gan ofyn, ‘Beth am y gair amynedd, a bod yn amyneddgar? Rhowch eich llaw i fyny os oes rhywun wedi bod yn amyneddgar gyda chi yn ystod y flwyddyn? Nawr, rhowch eich llaw i fyny os ydych chi wedi dysgu bod yn fwy amyneddgar yn ystod y flwyddyn?’

6. Gwnewch yr un peth gyda’r labeli eraill hefyd fesul un.

7. Dathlwch ddatblygiad rhyfeddol cymeriad y plant a’r agweddau da sydd wedi bod yn digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’ yn ystod y flwyddyn.

8. Cyfeiriwch at y plant hynny sy’n symud ymlaen ar ôl yr haf i ysgol arall. Pan ddaethon nhw i’r ysgol yn bedair neu’n bump oed, rai blynyddoedd yn ôl, roedden nhw gryn dipyn yn iau bryd hynny nag ydyn nhw heddiw - nid dim ond yn iau o ran oedran, ond hefyd yn llai aeddfed o ran eu hymddygiad.  Mae’r Beibl yn sôn am hyn yn y ffordd ganlynol:

Darllenydd 1:

Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu.

1 Corinthiaid 13.11

Arweinydd:Rydyn ni i gyd yn cofio’r amser pan oedden ni dipyn yn iau, ac rydyn ni’n sylweddoli ein bod ni’n wahanol mewn sawl ffordd bryd hynny i’r hyn ydyn ni nawr.

Ac yna, trwy gydol yr amser rydyn ni wedi bod yn yr ysgol, ac wrth gwrs, gartref ac yn y grwpiau rydyn ni’n perthyn iddyn nhw, rydyn ni’n dysgu’r pethau canlynol trwy fod yng nghwmni pobl eraill.

Darllenydd 2:

Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo. Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam; nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd. Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf. Nid yw cariad yn darfod byth.

1 Corinthiaid 13.4–8

Arweinydd:Mae’r broses ddysgu hon yn para trwy gydol ein bywyd, nes byddwn ni’n gallu dweud . . .

Darllenydd 3:

Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn.

1 Corinthiaid 13.11

Arweinydd:Dywedwch wrth eich cynulleidfa bod cymaint o’r dysgu hwn yn digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’, yng nghanol ein bywyd bob dydd. Pwysleisiwch mor falch yw cymuned yr ysgol o ba mor bell mae plant Blwyddyn 6 wedi dod ar y daith hon, a dymunwch yn dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Amser i feddwl

Dewiswch un o’r geiriau sydd ar y labeli ‘y tu ôl i’r llenni’ sydd ar y sgrin er mwyn gallu meddwl amdano.

Treuliwch foment yn dathlu sut mae’r agwedd hon yn datblygu yn eich bywyd chi.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti’n teithio gyda ni trwy gydol ein bywyd.
Rwyt ti’n gwybod mai’r ffordd i hapusrwydd yw trwy ddysgu dy garu di a charu pobl eraill.
Rydyn ni’n gweddïo’n arbennig dros y rhai hynny sy’n ymadael â’r ysgol hon i barhau eu taith mewn man arall.
Bydd gyda nhw, helpa nhw, eu hannog a’u bendithio, wrth iddyn nhw ddatblygu o fod yn blant i fod yn oedolion.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon