Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Paratoi i symud ymlaen

Mae Duw gyda ni ble bynnag y byddwn ym mynd

gan Becky May

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant ar gyfer symud ymlaen i ddosbarth neu ysgol arall.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun ysgol ohonoch chi eich hunan, a dynnwyd pan oeddech chi tua’r un oed â’r plant rydych chi’n eu cyfarch. Os oes nifer fawr o blant yn y gwasanaeth, lluniwch ddelwedd o’r ffotograff er mwyn ei harddangos yn ystod y cyflwyniad.
  • Ar gyfer Ysgolion Eglwys, cynhwyswch gam rhif 6, sydd i’w weld yn y rhan ‘Gwasanaeth’, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

Gwasanaeth

1. Tybed sut ydych chi’n teimlo wrth i ni nesáu at ddiwedd y tymor. Pwy ohonoch chi sy'n edrych ymlaen at y gwyliau ysgol?

Gofynnwch i'r plant roi eu dwylo i fyny.

Pwy ohonoch chi sy'n mynd i ffwrdd am wyliau? Pwy ohonoch chi sydd â rhywbeth cyffrous wedi ei gynllunio? Pwy sy'n edrych ymlaen at beidio â gorfod codi'n gynnar bob bore?

2. Rwy'n siwr eich bod yn teimlo’n gyffrous wrth i chi edrych ymlaen at y gwyliau, ond tybed a oes gennych chi deimladau eraill, hefyd.

Efallai bod rhai ohonoch chi’n teimlo ychydig yn ansicr ynghylch symud ymlaen ar ddiwedd y tymor. Efallai eich bod braidd yn nerfus am y pethau nesaf fydd yn dod i'ch rhan.

Bydd rhai ohonoch chi’n symud i ddosbarth arall, neu at athro neu athrawes arall, a bydd rhai ohonoch chi’n symud i ysgol newydd. Efallai y byddwch yn profi cymysgiad o gyffro a nerfusrwydd wrth i chi edrych ymlaen at gyfleoedd newydd, ond efallai'n ymboeni ychydig am adael yr ysgol hon a ffarwelio â ni yma.

3. Mae rhai plant yn dweud wrthyf, ‘Mi fyddwn yn hoffi pe byddwn i’n gallu aros yma am byth!’ ac mae llawer o blant yn dweud, ‘Dydw i ddim eisiau gadael yr ysgol hon!’ Tybed a ydych chi'n teimlo fel yna weithiau?

4. Dangoswch lun ohonoch chi eich hun pan oeddech chi yn yr ysgol, neu dangoswch ddelwedd ohono.

Tybed ydych chi’n gwybod llun o bwy yw hwn?

Gwahoddwch y plant i ymateb.

Ie, rydych chi’n gywir. Fi yw hwn/hon pan oeddwn i tua’r un oed â chi, yn fy ngwisg ysgol. Fel y gwelwch chi, dydw i ddim wedi bod yn edrych fel dwi'n edrych yn awr ar hyd yr adeg. Roeddwn innau’n blentyn unwaith, yn union fel chi. Roeddwn i’n arfer mynd i'r ysgol a dysgu llawer o bethau pwysig, roeddwn i’n arfer chwarae gyda'm ffrindiau ac roeddwn i’n arfer ffraeo gyda nhw weithiau, hefyd, yn union fel rydych chi'n ei wneud!

Fel mae'n digwydd, rwy'n cofio pan oeddwn i yn eich oed chi, blant Blwyddyn 6, ac yn union fel chi, yn paratoi i symud i ysgol arall, hefyd, roeddwn innau'n teimlo yn nerfus iawn am hynny ac fe wnes i ddweud wrth fy athro, ‘A gaf i aros yma am byth?’ Wel, edrychwch arna i yn awr! Allwch chi ddychmygu pa mor wirion y byddwn yn edrych pe byddwn wedi aros yn fy ysgol gynradd? Fe fyddwn i'n edrych yn wirion iawn yn eistedd mewn rhes o blant fel chi, a minnau mor fawr erbyn hyn!

5. 'Ydych chi'n gweld, rydyn ni’n mynd yn hyn bob blwyddyn, yn mynd yn dalach -  ac yn ddoethach, gobeithio. Rydyn ni’n tyfu ac yn newid, ac mae pethau o'n cwmpas ni hefyd yn newid. Wrth i ni fynd yn hyn, rhaid i ni adael y pethau yr ydym yn gyfarwydd â nhw ar ôl, a chamu i'r hyn sy'n ddieithr i ni. Gall hynny wneud i ni deimlo'n nerfus neu'n ansicr, wrth gwrs, ond fe all hefyd fod yn gyffrous iawn.

Wrth i chi baratoi i symud ymlaen, i'n gadael ni ar ôl, a chymryd eich lle yn eich ysgolion newydd, cofiwch am y llun hwn ohonof fi a meddyliwch pa mor wirion y byddech chi’n edrych, yn parhau i eistedd yn y fan hon, yn eich gwisg ysgol ymhen ychydig o flynyddoedd!

6. Yn y Beibl, gallwn ddarllen am amser pan oedd disgyblion Iesu'n paratoi am newid, yn union fel chi yn awr. Fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw y byddai'n gorfod ymadael â nhw yn y dyfodol agos, a gadael iddyn nhw barhau â'r gwaith da yr oedden nhw wedi bod yn ei wneud, a hynny heb ei bresenoldeb gyda nhw ar y Ddaear.

Roedd gan Iesu gyfeillgarwch arbennig gyda'i ddisgyblion ac roedden nhw'n teimlo'n agos iawn ato. Roedd adegau pan oedd wedi eu haddysgu'n fwy am Dduw, fel rydyn ni, eich athrawon, yn eich helpu chi i ddeall pethau. Roedd adegau, hefyd, pan ddangosodd iddyn nhw pa mor ofalgar oedd ohonyn nhw, gan roi sicrwydd iddyn nhw eu bod yn cael eu caru. Roedd adegau hefyd pan fyddai’n gosod her iddyn nhw wneud pethau yr oedden nhw'n meddwl na allen nhw eu gwneud.

Pan ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion y byddai'n ymadael â nhw, roedden nhw'n teimlo'n nerfus iawn. Sut bydden nhw'n gallu parhau i wasanaethu Duw heb gael Iesu’n cyd-fyw â nhw?

Cyn iddo fynd oddi wrthyn nhw, fe addawodd Iesu y byddai'n anfon atyn nhw rywun arbennig i'w helpu - Yr Ysbryd Glân - a fyddai'n parhau i roi nerth iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu gwneud y pethau y byddai Duw’n gofyn iddyn nhw eu gwneud. Er nad oedd yn bosib iddyn nhw weld yr Ysbryd Glân, roedden nhw'n gallu dal ati heb i Iesu fod gyda nhw, oherwydd bod Duw yn parhau i'w helpu trwy ei Ysbryd Glân.

Yn fwy na hynny, mae Duw yn addo bod gyda ni hefyd, os gofynnwn iddo. Fe fydd ef gyda ni, boed gartref, yn yr ysgol neu hyd yn oed mewn lle gwahanol - gan ddechrau yn ein hysgol newydd, er enghraifft.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ymdawelu a bod yn ddistaw iawn er mwyn i ni allu canolbwyntio ar y teimladau hynny sydd gennym yn ddwfn ynom ein hunain, fel y byddwn yn awr yn meddwl am yr ysgolion newydd a'r lleoedd newydd y byddwn yn mynd iddyn nhw.

Mae llawer o bethau i edrych ymlaen atyn nhw - profiadau newydd, anturiaethau newydd, gwersi newydd i'w dysgu - a, hyd yn oed pan fyddwn i’n teimlo ychydig yn nerfus, fe allwn ni gofio fod Duw yn mynd gyda ni i ba le bynnag y byddwn yn mynd. Felly fyddwn ni ddim yn unig.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Ble bynnag y byddwn ni’n mynd a beth bynnag y byddwn ni’n ei wneud, diolch dy fod ti yno gyda ni bob amser.
Wrth i ni baratoi i ymadael â’r ysgol hon, diolchwn i ti am yr holl atgofion hapus sydd gennym ni ac am yr holl wersi rydyn ni wedi eu dysgu.
Diolch hefyd nad ydyn ni’n dy adael di ar ôl. Rydyn ni’n gwybod y byddi di gyda ni yn ein dosbarth neu yn ein hysgol newydd, hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon