Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyliau'r haf

gan The Children's Society

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall yr anawsterau y gallen nhw, neu eu ffrindiau, eu hwynebu yn ystod gwyliau’r haf.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

1. Gwnewch sylw o’r ffaith bod pawb ohonom ar hyn o bryd, yn yr ysgol, i gyd yn yr un lle. Er mwyn cynrychioli hyn gofynnwch i’r plant gysylltu eu breichiau â phwy bynnag sy’n eistedd agosaf atyn nhw. Unwaith y byddan nhw wedi cysylltu eu breichiau, gofynnwch iddyn nhw afael yn dynn yn eu dwylo eu hunain wedyn er mwyn i bob rhes ffurfio cadwyn gref hir.

Gofynnwch i bawb aros ar eu heistedd gan ofalu cadw eu dwylo ynghyd. Rhaid iddyn nhw beidio â symud oni bai bod eu henw’n dechrau ag un o’r llafariaid A, E, I, O, U, W neu Y.

Os yw eu henw’n dechrau â llafariad, gofynnwch iddyn nhw ddal i gadw eu breichiau ym mhleth, a’u dwylo ynghyd, ond codi’n araf a sefyll ar eu traed heb dorri’r gadwyn! Mae’n debyg y bydd hyn yn anodd iawn - os nad yn amhosib (ac, o bosib, yn dipyn o hwyl!)

2. Gofynnwch i’r plant pam nad oedden nhw’n gallu codi ar eu traed i sefyll. Yr ateb yr hoffech chi ei gael yw oherwydd eu bod yn symud oddi wrth ei gilydd. Eglurwch mai dyma sut bydd pethau’n digwydd efallai dros wyliau’r haf. Gofynnwch, ‘Sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi’n methu sefyll?’

3. Nawr, gofynnwch iddyn nhw sefyll i fyny gyda’i gilydd. Fe ddylai hynny fod yn haws. Gofynnwch iddyn nhw eistedd wedyn.

Pwysleisiwch fod angen iddyn nhw gydweithio a chadw gyda’i gilydd, fel arall fyddai pethau ddim yn gweithio. Dyna sut mae cyfeillgarwch a gwaith tîm yn gweithio hefyd.

4. Eglurwch mai dim ond hyn a hyn o amser sydd tan wyliau’r haf (anogwch y plant i gymeradwyo neu weiddi ‘Hwre’). Mae gwyliau’r haf bron yma (anogwch y plant i gymeradwyo neu weiddi ‘Hwre’ eto). Dros y flwyddyn, rydych chi’n gobeithio bod y plant wedi dod yn fwy o dîm ac wedi dod yn ffrindiau (anogwch y plant i gymeradwyo neu weiddi ‘Hwre’ am y trydydd tro).

Pan fydd y tymor ysgol yn dod i ben, fydd dim cymaint o gyfle i’r plant weld ei gilydd. Fe fyddan nhw’n mynd i wahanol lefydd.

Nid yw pawb yn edrych ymlaen at wyliau’r haf. Gofynnwch, ‘Ydych chi’n gallu meddwl pam?’ Fe allai rhai plant ddweud y byddan nhw’n colli gweld eu ffrindiau, efallai na fyddan nhw’n cael mynd i unman ar eu gwyliau, efallai bydd rhai plant yn dadlau a chweryla. Gofynnwch, ‘Sut deimlad yw bod heb rywun y gallwch chi ymddiried ynddo ef neu hi, a chael hwyl gyda nhw?’

5. Adroddwch hanes Megan i’r plant.

Hoff bwnc Megan yw mathemateg ac mae hi eisiau gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub pan fydd yn oedolyn. Ond roedd hi’n teimlo mor anhapus gartref, fe benderfynodd redeg i ffwrdd un diwrnod.

Ydych chi’n gwybod fod, yn ein gwlad ni, lawer o blant fel Megan yn rhedeg i ffwrdd o’u cartref – rhywun bob pum munud. Holwch oes rhywun yn gallu dweud faint sy’n debygol o fod yn rhedeg o’u cartref bob awr, felly.

Ystyriwch pa mor drist yw’r ystadegyn hwnnw, a pha mor drist mae’r unigolion rheini’n teimlo felly - i fod eisiau gadael cartref, fel hyn.

Ond does dim rhaid i bethau fod felly. Roedd Megan wedi llwyddo i siarad â rhywun y gallai ymddiried ynddi ac a ddaeth yn ffrind iddi. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw lwyddo i ddatrys problemau Megan fel y gallai fwynhau byw gartref unwaith eto.

6. Eglurwch mai un ffordd y gallwn ni i gyd helpu’r rhai hynny sydd efallai ddim yn edrych ymlaen at wyliau’r haf yw trwy gadw mewn cysylltiad â nhw, a bod yn ffrind i rywun sydd efallai’n mynd trwy gyfnod anodd.

Mae Cymdeithas y Plant (The Children’s Society) yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi ac yn wynebu cael eu hesgeuluso pan fyddan nhw’n bobl ifanc. Mae’n gweithio gyda phlant sydd wedi rhedeg i ffwrdd o’u cartref er mwyn ceisio gofalu eu bod yn gallu tyfu mewn amgylchedd diogel, a thrwy hynny fe all y wlad hon ddod yn wlad lle mae plant yn rhydd o anfanteision.

7. Os hoffech chi gefnogi gwaith Cymdeithas y Plant gyda rhai fel Megan, fe allwch chi ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar childrenssociety.org.uk/summer

Amser i feddwl

Dywedwch wrth y plant, ‘Yn ystod gwyliau’r haf, gadewch i ni wneud ymdrech ychwanegol i gadw mewn cysylltiad, a chadw fel tîm, hyd yn oed pan fyddwn mewn llefydd gwahanol, er mwyn gofalu nad oes neb yn anhapus neu’n unig.’

Darllenwch Luc 10.1-2.

Yna, gofynnwch i’r plant edrych i’r chwith ac i’r dde iddyn nhw, yna edrych o’u cwmpas. Yn union fel y gwnaeth Iesu annog ei ddisgyblion i fynd allan gyda’i gilydd fesul dau, fel roedd yn nodi yn y darn o Efengyl Luc 10.1-2, gofynnwch i’r plant feddwl am un person y bydden nhw, mae’n bosib, ddim yn eu gweld dros wyliau’r haf, a’u hannog i gadw mewn cysylltiad. Fe fydden nhw wedyn, yn y ffordd hon, yn cadw wedi eu cysylltu â’i gilydd. Eglurwch y bydden nhw wedyn, fel tîm, yn gallu cefnogi’r rhai hynny a fyddai fel arall ddim yn mwynhau gwyliau’r haf efallai.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch nad ydw i ar ben fy hun, diolch bod gen i ffrindiau y gallaf siarad â nhw.
Diolch bod help bob amser ar gael, waeth beth fydd y sefyllfa.
Helpa bob un ohonom i ofalu am ein gilydd yn ystod gwyliau’r haf.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon