Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dweud y gwir

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1/2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y plant feddwl pa mor bwysig yw dweud y gwir.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol – paratowch sleidiau ar gyfer y gêm ar y dechrau, gêm ddyfalu beth sy’n wir.
  • Dewisol – paratowch sleidiau gyda lluniau cefndir i stori Daniel yn ffau’r llewod, er enghraifft:http://www.christart.com/christianbooks/read/4862/8
  • Paratowch sleidiau ar gyfer y cwestiynau sydd i’w trafod yn ystod yr adran ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddatgan ein bod, yn y gwasanaeth hwn heddiw, yn mynd i feddwl am ddweud y gwir, ac mae gen i gêm fach gwir/gau i chi ar y dechrau fel hyn. (Dangoswch y sleidiau, os byddwch chi’n eu defnyddio.)  Dywedwch dri pheth amdanoch eich hun wrth y disgyblion, dau beth sydd ddim yn wir ac un sydd yn wir, a gofynnwch iddyn nhw geisio dyfalu pa rai sydd ddim yn wir a pha un yw'r gosodiad sy'n wir. Paratowch tair neu bedair set o gliwiau o’r fath ar eu cyfer i'w cael i ddyfalu - pethau fel 'fy enw canol i yw . . .' pa un o’r tri ateb sy'n gywir? Neu fe allech chi gyfeirio at gyflawniadau amrywiol ym myd chwaraeon pan oeddech chi yn yr ysgol, ac eto, dim ond un ohonyn nhw'n gywir!

  2. Gwnewch sylw o’r ffaith nad ydych chi’n gwybod faint o'r atebion y gwnaethon nhw eu cael yn gywir, ond mai dim ond gêm oedd hon. Tipyn bach o hwyl yn unig oedd, a dydych chi ddim yn meddwl eich bod chi'n dda iawn yn dweud anwiredd amdanoch eich hun beth bynnag! Ond yn y stori o'r Beibl heddiw roedd rhai pobl yn dda iawn am ddweud anwiredd ac roedd un person yn dda iawn am ddweud y gwir, er bod y gost yn uchel iddo wneud hynny. Gofynnwch iddyn nhw wrando'n ofalus er mwyn gweld a allan nhw ddyfalu pwy ddywedodd anwiredd a phwy oedd yn dweud y gwir yn y stori hon.

  3. Daniel a Ffau’r Llewod (dangoswch y sleidiau, os byddwch chi’n eu defnyddio).

    Roedd Daniel yn byw mewn gwlad estron ymhell o'i gartref ei hun, ond yr oedd bob amser yn gweithio'n galed iawn. Sylwodd brenin y wlad honno pa mor galed yr oedd Daniel yn gweithio a gosododd ef yng ngofal ei deyrnas. Roedd dynion eraill a oedd yn gweithio i'r brenin yn genfigennus iawn o Daniel, ond doedden nhw ddim yn gallu cael hyd i unrhyw beth i'w gyhuddo ohono, felly fe wnaethon nhw yn hytrach droi at gynllwynio ac anwiredd.

    Fe aethon nhw i weld y brenin a'i berswadio i basio deddf newydd - deddf oedd yn datgan y dylai pawb addoli'r brenin, a neb arall ond y brenin. Byddai unrhyw un a fyddai'n anufuddhau i'r ddeddf hon yn cael ei daflu i ffau'r llewod!

    Clywodd Daniel am y ddeddf newydd, ond y bore canlynol fe wnaeth yn union fel yr oedd wedi arfer ei wneud; penliniodd i lawr wrth ymyl ei ffenestr a gweddïodd ar Dduw, ac nid ar y brenin! Fe adroddodd y dynion eraill am hyn wrth y brenin a mynnu bod Daniel yn cael ei daflu i ffau'r llewod. Roedd y brenin yn drist iawn oherwydd ei fod yn hoff iawn o Daniel, ond fe wyddai na allai dorri ei ddeddf ei hun. Fel yr oedd Daniel yn cael ei lusgo i ffau'r llewod, sibrydodd y brenin weddi fach - gweddi ar Dduw Daniel, yn gofyn iddo achub Daniel.

    Roedd y brenin mor bryderus fel na chysgodd winc y noson honno a phrysurodd yn gynnar y bore canlynol tuag at ffau'r llewod.

    ‘A wyt ti'n dal yna?’ gwaeddodd y brenin.

    ‘Ydw!’ atebodd Daniel. ‘Fe wyddai fy Nuw fy mod i’n ddieuog, felly fe anfonodd angel i'm gwarchod i ac atal y llewod rhag fy mwyta. Rwy'n fyw ac iach – yn wir!’

    Roedd y brenin mor falch o glywed llais Daniel a gorchmynnodd iddo gael ei dynnu allan o ffau'r llewod cyn gynted ag yr oedd modd. Yn fwy na hynny, fe drefnodd bod y dynion oedd wedi cynllwynio yn erbyn Daniel yn cael eu taflu i'r llewod, a phasiodd ddeddf newydd arall; yn ôl y ddeddf hon fe ddylai pobl addoli Duw Daniel - y Duw a oedd wedi achub Daniel oddi wrth y llewod.

    Gofynnwch i'r plant: pwy ddywedodd anwiredd yn y stori hon? A phwy oedd yn dweud y gwir?

Amser i feddwl

Eglurwch ein bod yn mynd i gael myfyrdod bach i feddwl am y stori hon a'r hyn y gallwn ei ddysgu ohoni ynghylch dweud y gwir. Gofynnwch y plant i gyd droi at y person agosaf ato ef, neu ati hi, a rhoi cynnig ar ateb y cwestiynau hyn (dangoswch y cwestiynau ar y sgrin fesul un a gwrandewch ar rai atebion cyn symud ymlaen at y cwestiwn nesaf):

Pam nad oedd y gweision eraill yn hoffi Daniel?

Pam nad aeth Daniel ar ei liniau ac addoli'r brenin yn hytrach nag addoli Duw?

Beth tybed fyddech chi wedi ei wneud pe byddech chi wedi bod yn sefyllfa Daniel?

A allwch chi feddwl am adeg pryd y gwnaethoch chi sefyll yn gadarn dros y gwir mewn sefyllfa anodd?

A yw'n iawn ar unrhyw adeg i ddweud anwiredd?

Gorffennwch trwy ddweud eich bod o'r farn fod Daniel yn credu mewn rhywbeth mor gryf fel ei fod yn fodlon cymryd risg a cholli popeth - hyd yn oed ei fywyd - i sefyll dros y gwirionedd hwnnw. Yn y stori, fe anrhydeddodd Duw ef am lynu at y gwir a'i achub rhag y llewod. Awgrymwch fod hyn yn sefydlu esiampl dda ar ein cyfer i sefyll yn gadarn dros wirionedd ar bob achlysur ac (os yn briodol) i wybod y bydd Duw gyda ni yn y penderfyniad hwnnw i lynu at y gwir. Gall fod yn haws dweud anwiredd bach ar brydiau, ond yn aml fe fydd un anwiredd yn arwain at un arall, a gall hynny'n aml olygu bod llawer o bobl yn cael eu niweidio yn y broses. Byddai'n ddaanelu i fod yn debyg i Daniel a dweud y gwir ar bob achlysur!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am esiampl Daniel.
Helpa ni i fod yn ddigon dewr i ddweud y gwir bob amser, a helpa ni i wybod y byddi di gyda ni pan fyddwn ni’n cael hynny’n anodd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon