Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Creawdwr Ffyddlon

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Ystyried beth yw ystyr ffyddlondeb a sut y mae ffyddlondeb Duw’n cael ei arddangos yn y greadigaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch gasgliad o ddail yr hydref
  • Delwedd oddi ar Google o olygfa brysur ar draeth, ac un arall o draeth â’r llanw allan
  • Binocwlar
  • Paratowch ddau o’r plant hynaf i gymryd rhan gyda’r sgriptiau
  • Dyfyniad o’r Beibl (Genesis 8.22)

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch y cwestiynau canlynol:

    Ydych chi’n hoffi coed? Sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo? Ydych chi’n hoffi dringo coed?

    Ydych chi’n hoffi’r môr? Ydych chi wedi bod ar lan y môr ryw dro? Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yno?

    Ydych chi’n hoffi edrych ar y sêr? Ydych chi’n gwybod enwau unrhyw sêr?

  2. Actiwch y senario ganlynol:

    Plentyn: (yn dod i mewn yn edrych yn anhapus)

    Arweinydd: Beth sy’n bod . . .?

    Plentyn:(yn dangos y casgliad o ddail yr hydref)Rwy'n gofidio am fy mod wedi dod o hyd i’r rhain o dan y goeden hardd sydd yn y parc lle cefais i bicnic yno yn yr haf.

    Arweinydd: Mae lliwiau’r dail yn dlws iawn.

    Plentyn: Ond mae’r dail yn dechrau marw, ac yn fuan iawn fe fydd y goeden wedi marw hefyd. Chawn ni byth bicnic eto o dan y goeden hardd honno.

    Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch mai dyma sy’n digwydd bob amser yn yr hydref. Bydd dail ffres yn tyfu ar y goeden yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae bob amser wedi bod fel hyn, byth ers pan wnaeth Duw greu’r coed. Mae'r Beibl yn sôn am hyn fel a ganlyn:

    ‘Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.’ (Genesis 8.22)

  3. Ar gyfer y senario nesaf, dangoswch y ddelwedd o draeth gyda’r llanw i mewn.Wnaeth unrhyw un chwarae ar lan y môr yn rhywle yn ystod gwyliau’r haf?

    Dangoswch y ddelwedd o draeth gyda’r llanw allan.

    Arweinydd: 'O na! Mae’r môr wedi diflannu, fyddwn ni byth yn gallu padlo yn y môr neu ymdrochi byth eto!'

    Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch mai dyma sy’n digwydd bob dydd. Mae’r llanw’n dod i mewn ac yn mynd allan. Mae hynny wedi digwydd ers yr adeg y gwnaeth Duw greu’r môr. (Ar wahân i hanes Noa, wrth gwrs!)

  4. Actiwch y senario nesaf:

    Plentyn: (yn dod i mewn gan gario binocwlar, yn edrych yn anhapus)

    Arweinydd: Beth sy’n bod?

    Plentyn: Rwy'n gofidio am fy mod i wedi mynd â’r binocwlar allan neithiwr i edrych ar y sêr, ac maen nhw wedi diflannu. Roedden nhw’n arfer bod mor hardd, ac erbyn hyn maen nhw i gyd wedi mynd. Wna i byth yn eu gweld yn disgleirio eto.

    Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch fod y sêr bob amser yno. Weithiau efallai y bydd cymylau’n cuddio’r sêr a hyd yn oed yn cuddio’r haul a'r lleuad o’n golwg ambell dro, hefyd. Mae bob amser wedi bod fel hyn ers yr adeg y gwnaeth Duw greu’r sêr.

  5. Mae Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi gwneud y coed, y tonnau a'r sêr, a bod Duw yn Dduw ffyddlon. Mae hynny'n golygu bod Duw yn ddibynadwy; mae'n golygu y gallwch chi ddibynnu arno i fod yr un fath bob amser, ac yno bob amser, ac yn Dduw sydd byth yn newid.

Amser i feddwl

Dewiswch un peth a welsoch chi heddiw sy'n eich atgoffa o ffyddlondeb Duw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am dy greadigaeth hardd ac am yr hyn y mae'n ei ddysgu i ni am dy ffyddlondeb.
Diolch dy fod wedi ei chreu oherwydd dy fod yn ei hoffi ac oherwydd dy fod eisiau i ni ei mwynhau hefyd.
Helpa ni i ofalu am dy greadigaeth hardd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon