Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llysiau'r Cynhaeaf

Dathlu ein hoff lysiau

gan Manon Ceridwen James

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r disgyblion i feddwl am holl wahanol lysiau, a’u dathlu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Prynwch amrywiaeth o lysiau, neu argraffwch luniau o wahanol lysiau – tua wyth o enghreifftiau gwahanol.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod eisiau ceisio dod i wybod pa un yw hoff lysieuyn y rhai fydd yn eich cynulleidfa, a’ch bod am wneud hynny ar ffurf cwis. Dywedwch eich bod yn awyddus i bawb ymuno - yr oedolion sy’n bresennol hefyd.

    Fesul un, dangoswch eich llysiau (neu luniau’r llysiau). Ceisiwch greu awyrgylch dramatig trwy gadw’r llysiau/  lluniau llysiau wedi eu cuddio, gan ddangos dim ond un ar y tro. Gwahoddwch y plant i ymateb os oes un o’r llysiau hyn yn ffefryn ganddyn nhw, a gwneud hynny trwy godi eu llaw.

    Dewiswch un i ddod i’r blaen i ddal y llysieuyn hwnnw, neu lun y llysieuyn, sy’n ffefryn ganddyn nhw. Fel arfer, bydd plant yn hoff iawn o india-corn a phys a bydd yr oedolion yn hoffi'r llysiau mwy egsotig neu anarferol, fel sbigoglys a phlanhigyn wy, ond efallai na fydd hyn o reidrwydd yn wir. Os mai dim ond athrawon a chynorthwywyr fydd yn hoffi rhai llysiau penodol, gofynnwch i un ohonyn nhw ddod i'r blaen i ddal y llysieuyn i fyny.

    Holwch y plant sut maen nhw’n hoffi bwyta’r hoff lysieuyn, er enghraifft ar ben ei hun neu, os yw’n flodfresych, gyda saws caws efallai, neu os yw’n blanhigyn wy mewn saig fel moussaka, neu lysieuyn mewn cyrri ac ati. . . .

  2. Pan fyddwch chi wedi dewis yr holl lysiau sydd gennych chi dan sylw, a’r rheini i gyd erbyn hyn yn cael eu harddangos yn y tu blaen, eglurwch eich bod yn mynd i’w trefnu mewn trefn neilltuol, o fod yn llysiau poblogaidd i’r rhai lleiaf poblogaidd yn achos eich cynulleidfa chi. Er mwyn gwneud hyn, fe fydd angen i chi farnu pa faint o gymeradwyaeth y mae pob llysieuyn yn ei gael. Anogwch bawb i ymateb i bob llysieuyn yn ôl faint maen nhw’n ei hoffi. Pan fydd rhywbeth yn cael cymeradwyaeth frwd, symudwch hwnnw i flaen y rhes. Pan fydd rhywbeth yn cael dim llawer o ymateb gosodwch hwn tua diwedd y rhes.

    Ar ôl i chi drin a thrafod y llysiau fel hyn (mae’n debyg y cewch chi dipyn  gyffro a gweiddi hwrê!), gwnewch y sylw na fydd llysiau cyffredin fel pys a moron ac ati’n cael y fath gymeradwyaeth fel arfer!

  3. Unwaith y byddwch yn fodlon ynghylch eich rhes o lysiau, cyflwynwch nhw yn eu tro i'r gynulleidfa. Eglurwch ein bod i gyd yn wahanol i’n gilydd, ac er bod rhai llysiau’n fwy poblogaidd na'i gilydd, mae'r rhan fwyaf o'r llysiau yn hoff rai gan rywun.

  4. Yn ystod y Diolchgarwch am y Cynhaeaf fe fyddwn yn diolch am ein holl fwyd. Nid dim ond i Dduw, ond hefyd i bawb sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod gennym fwyd ar ein byrddau - ffermwyr, gweithwyr ffatri, gweithwyr siop, gyrwyr lori. . . Anogwch bawb i roi un hwre fawr eto i’r holl bobl hyn.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant ymdawelu a meddwl am eu hoff fwydydd. Does dim rhaid i’r bwydydd fod yn llysiau!

Gweddi
Dduw, diolch am lysiau ac am ein holl fwydydd.
Diolch i ti am bawb sy’n ein helpu er mwyn i ni allu cael bwyd i’w fwyta
aelodau ein teulu a fydd yn coginio’r bwyd, y rhai sy’n gweithio yng nghegin yr ysgol, y rhai hynny sydd wedi tyfu’r bwyd a’u gynaeafu, ei gynhyrchu a’i ddosbarthu.
Helpa ni i fod un ddiolchgar am bopeth rydyn ni’n ei gael
ac am yr holl waith caled sydd wedi bod yn y broses o baratoi’r bwyd i ni.
Diolch i ti am ein bwyd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw emyn diolchgarwch am y cynhaeaf.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon