Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhedeg i ffwrdd: Stori Jona

Gwasanaeth o’r gyfres ‘Helo Sgryffi’

gan The Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Deall na allwn ni bob amser wneud yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau.

  2. 'Dydi hyn ddim yn deg, Sgryffi!' meddai Liwsi Jên a oedd yn y stabl yn rhoi’r brwsiad dyddiol i Sgryffi cyn iddi fynd i’r ysgol. 'Mae Mam eisiau i mi fynd i dy Anti Mei ar ôl yr ysgol, ac rydw i fod i gerdded yno o’r ysgol gyda Henri fy nghefnder. Fe fyddai’n dda gen i pe na fyddai’n rhaid i mi fynd. Mae Henri’n gallu bod mor gas, hen fwli mawr ydi o! Fydd Henri byth yn gadael i mi chwarae â’i deganau!' Ac yna, fe sibrydodd Liwsi Jên yng nghlust Sgryffi: 'Efallai yr af fi i’r parc yn lle hynny i chwarae gyda fy ffrindiau.'

    Doedd Sgryffi ddim yn hoff iawn o’r syniad hwnnw, ac fe ysgydwodd ei ben yn galed a nadu: 'Hi-ho, hi-ho!' Ond yna dyna Liwsi Jên yn clywed ei mam yn galw arni, ac fe redodd ar draws y buarth ac fe aeth y ddwy oddi yno yn y car.

  3. Roedd hi tua chwech o’r gloch pan ddechreuodd fwrw glaw yn drwm iawn, ond ble roedd Liwsi Jên? Aeth Sgryffi ar drot ar draws y buarth at ddrws y gegin lle clywodd Sgryffi Mrs Bryn yn dweud wrth Mr Bryn, 'Roeddwn i’n meddwl dyna beth od na fyddai Anti Mei wedi dod â Liwsi Jên adre yn y car am ei bod yn bwrw glaw mor ofnadwy. Ond rydw i newydd ei ffonio ac fe ddywedodd hi nad oedd Liwsi Jên wedi mynd gyda Henri yno ar ôl yr ysgol. Doedd Henri ddim yn gwybod ble roedd Liwsi Jên. Ble gall hi fod?'

    Fe geisiodd Sgryffi wneud cymaint o swn ag y gallai: 'Hi-ho, hi-ho!' nadodd, a phan ddaeth Mr Bryn at y drws fe ddechreuodd Sgryffi dynnu yn ei lawes.

    'Hei! Be sy’n bod Sgryffi? Wyt ti’n gwybod ble mae Liwsi Jên?'

    'Hi-ho, hi-ho!'

    (Ydych chi’n gwybod ble gallai Liwsi Jên  fod?)

    Dywedodd Mr Bryn wrth Mrs Bryn am aros yn y ty rhag ofn i Liwsi Jên gyrraedd adref. Yna, gan estyn ei got a’i ambarél fe aeth ar frys ar ôl Sgryffi a oedd eisoes yn trotian o’r buarth tua’r ffordd fawr. Fe aethon nhw ymlaen, ar hyd y ffordd, heibio’r ysgol, rownd y gornel, ac i’r parc.

    'Hi-ho, hi-ho!’ nadodd Sgryffi’n uchel, ac fe glywodd lais bach yn dweud gan grio:

    'Ti sydd yna, Sgryffi? Rydw i yma.' Fe ddaeth Sgryffi a Mr Bryn o hyd i Liwsi Jên yn swatio yng nghornel lloches yn y parc, gyda dagrau’n llifo lawr ei hwyneb. Cymerodd Mr Bryn hi i eistedd ar ei lin. 'Wel, wel be sy wedi digwydd?'

    'Doeddwn i ddim eisiau mynd gyda Henri. Mae’n gallu bod yn gymaint o fwli. Ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n fwy o hwyl dod i’r parc i chwarae gyda fy ffrindiau. Ond yn fuan fe aethon nhw i gyd adref gyda’u mamau, ac wedyn fe ddechreuodd hi fwrw glaw, a . . . a . . . doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae’n ddrwg gen i, Dad.'

    'Roeddet ti’n frech ddrwg iawn yn dod yma ar ben dy hun. Mae angen i ti ddiolch i Sgryffi, oherwydd heb help Sgryffi fydden ni byth wedi gwybod ble i ddechrau chwilio amdanat ti. Nawr, gadewch i ni fynd adref i ddweud wrth Mam dy fod ti’n ddiogel.'

    Fe addawodd Liwsi Jên na fyddai hi byth yn rhedeg i ffwrdd eto. A’r noson honno, fe wnaeth hi gofleidio Sgryffi’n ddiolchgar iawn a rhoi moronen fawr iddo. 'Hi-ho, hi-ho,' meddai Sgryffi’n hapus.

    Pan roddodd Anti Mei wahoddiad arall i Liwsi Jên fynd yno i de ymhen ychydig o ddyddiau wedyn, fe gerddodd Liwsi Jên adref o’r ysgol y tro hwnnw gyda Henri, a oedd yn ymddwyn ei orau. Fe wnaeth Henri hyd yn oed ofyn i Liwsi Jên beth fyddai’n hoffi ei chwarae!(Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.)

  4. Roedd Jona wedi clywed llawer o storïau am y bobl oedd yn byw mewn dinas o’r enw Ninife. Roedden nhw’n bobl ddrwg. Meddyliodd Jona, Dydw i byth am fynd yn agos atyn nhw. Ond roedd gan Dduw gynllun gwahanol.

    Roedd ar Dduw eisiau i Jona fynd i Ninife. Roedd arno eisiau i Jona ddweud wrth y bobl yno fod yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i fod yn bobl ddrwg. Ond pam y dylai ef, Jona, fynd? Roedd Jona’n dymuno i Dduw fod yn ddig wrth y bobl. Felly, fe benderfynodd fynd am wyliau. Fe wnâi hwylio ar long i’r cyfeiriad arall, i le o’r enw Tarsis. Ond fe gododd storm enfawr ac roedd pawb ar ffwrdd y llong yn ofni y byddai’r llong yn suddo ac y bydden nhw i gyd yn boddi.

    'Fy mai i yw hyn!' cyfaddefodd Jona wrth y morwyr. 'Welwch chi, rydw i’n dianc rhag Duw. Arbedwch eich hunain a thaflwch fi dros ochr y llong! A dyna beth wnaethon nhw. Ar unwaith fe dawelodd y storm, ac roedd y môr yn dawel unwaith eto.

    Suddodd Jona i lawr ac i lawr, ond wnaeth o ddim boddi am fod Duw wedi anfon pysgodyn mawr i’w lyncu’n gyfan. Fe gafodd Jona amser i feddwl tra roedd yn eistedd ym mol y pysgodyn. Meddyliodd, ‘Dyna ffwl ydw i! Wnes i, o ddifrif, feddwl y byddwn i’n gallu dianc rhag Duw? Wyt ti’n fy nghlywed i Dduw? Wyt ti yma? Wrth gwrs dy fod ti! Rwyt ti ym mhob man! Mae’n ddrwg gen i fy mod i wedi rhedeg i ffwrdd. Os gweli di’n dda wnei di roi ail gyfle i mi, ac fe af i Ninife.'

    Erbyn hyn, roedd y pysgodyn mawr yn teimlo bod ganddo boen yn ei fol. Wel, sut byddech chi’n teimlo pe byddai rhywun yn cerdded o gwmpas yn eich bol chi? Fe wnaeth y pysgod dorri gwynt mawr a thaflu Jona allan nes y glaniodd ar dir sych.

    Fe gadwodd Jona ei addewid i Dduw. Fe aeth i Ninife, ac fe wnaeth ddweud wrth y bobl yno bod Duw wedi blino ar eu hymddygiad gwael, ac fe wnaethon nhw benderfynu dweud ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw am hynny.

    Ac roedd Duw wrth ei fodd.

Amser i feddwl

Pa un fyddai orau gennych chi ei wneud?

Helpu eich mam olchi’r llestri NEU chwarae gyda’ch ffrindiau?

Ymarfer eich darllen NEU wylio eich hoff raglen deledu?

Mynd i siopa yn yr archfarchnad NEU chwarae pêl-droed yn y parc?

A ddylem mi wneud beth fyddwn ni ei eisiau ei wneud bob amser?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddeall pan fyddwn ni ddim yn gallu gwneud yr hyn rydyn ni eisiau ei wneud. Helpa ni i fod unigolion sy’n awyddus i helpu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon