Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhesymau dros fod yn ostyngedig

gan Richard Lamey

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o ostyngeiddrwydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rywfaint o sbwriel i’w daflu ar y llawr cyn dechrau’r gwasanaeth
  • Offer i olchi traed (bowlen, dwr cynnes, tywel)
  • Sgript drama fer i’w hactio gyda dau lais
  • Fe fyddai cyflwyniad PowerPoint yn gyfrwng da i gynnal y gwasanaeth, gyda’r syniadau craidd yn cael eu harddangos, oherwydd mae’n wasanaeth tameidiog sy’n symud yn weddol gyflym o un syniad i’r llall.

Gwasanaeth

  1. Beth yw ystyr bod yn ostyngedig? Beth yw gostyngeiddrwydd? (Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn oherwydd mae llawer o bobl yn ei gysylltu â chywilydd) Yn enwedig wrth ddefnyddio’r geiriau Saesneg ‘humble’, ‘humility’ a ‘humiliation’.)

    Pwysleisiwch fod gostyngeiddrwydd yn ymwneud â bod yn chi eich hunan, a pheidio â chwarae i'r gynulleidfa drwy'r amser, a  gwneud y peth iawn oherwydd mai dyna yw’r peth iawn i'w wneud.

  2. Ymyriad – mae’r pennaethyn sydyn yn gweld y sbwriel ar y llawr, yn ymddiheuro ac yn ei godi mor sydyn ag y bydd yn gallu. Trafodwch pam y gwnaeth ef neu hi rywbeth fel codi sbwriel ac yntau neu hithau’n bennaeth, sy'n gyfrifol am yr ysgol gyfan. Nid ei swydd yw codi sbwriel oddi ar lawr. Fe allai ofyn i rywun arall ei wneud. Ond yn y pen draw dyna oedd y peth iawn i’w wneud – wnaeth ef neu hi ddim dweud, 'Fi yw’r pennaeth, fe all rhywun llai pwysig na fi wneud gwaith fel yma', dim ond mynd a gwneud y peth iawn.

  3. Mae gostyngeiddrwydd yn ymwneud â gwneud y peth iawn a pheidio â phoeni am sut byddwch chi’n ymddangos, neu am y sut mae pobl eraill yn meddwl amdanoch chi. Gwybod pwy ydych chi yw hyn, sy'n golygu nad oes rhaid i chi gymryd sylw o beth mae pawb arall yn ei ddweud amdanoch chi. Mae’n ymwneud â gwybod pwy ydych chi eich hunan a does dim rhaid i chi bryderu am yr hyn mae pawb arall yn ei ddweud amdanoch chi.

  4. Cysylltwch hyn â cherdd Rudyard ‘If’ – eglurwch pwy yw Kipling, a’i fod wedi ysgrifennu’r llyfr Jungle Booka’i fod yr awdur enwocaf yn ystod yr oes yr oedd yn byw ynddi. Mae’r gerdd yn gerdd anodd mewn rhai ffyrdd – ond neges ei gerdd yw pwysleisio bod yn rhaid i chi fod yn chi eich hunan a pheidio â gadael i’ch pen chwyddo oherwydd bod pobl yn dweud eich bod yn berson rhyfeddol, neu fynd yn isel eich ysbryd oherwydd bod pobl yn dweud wrthych chi nad ydych chi’n dda i ddim.

    'If you can talk with crowds and keep your virtue,
    Or walk with kings but not lose the common touch.'


    Mae'n dod â ni yn ôl at y syniad nad yw’r ffaith eich bod yn ganol y byd i rywun neilltuol yn golygu nad oes angen i chi dwyllo ein hunain eich bod yn ganolbwynt y bydysawd. Byddwch yn naturiol.

  5. Nid yw hyn yn ymwneud â’ch teitl, neu eich swydd neu eich cymwysterau, ond am y gwahaniaeth y gallwch ei wneud drwy wneud y peth iawn - fel Iesu, wrth ddod i'r ddaear a gwneud pethau fel golchi traed ei ddisgyblion. Ail-grewch hyn, gan bwysleisio’r llwch ar eu traed, a'r neges y mae Iesu’n ei rhoi: 'Os wyf fi’n gwneud hyn i chi, mae'n rhaid i chi ei wneud i eraill.'

    Mae Iesu’n berson pwysig ond mae'n golchi traed. Mae eich pennaeth yn bwysig, ond mae'n codi’r sbwriel oddi ar y llawr. Efallai na ddylem ddweud y gair 'ond' ond yn hytrach y gair 'oherwydd' – maen nhw’n bwysig oherwydd eu bod yn gwneud y pethau hynny, heb frolio ynghylch pa mor bwysig ydyn nhw, heb ddangos eu hunain, ond yn gwneud yr hyn sydd angen ei wneud.

Amser i feddwl

Mae chwedl drefol am gapten llong cario awyrennau yn cael ffrae gyda rhywun, gan fynnu ei fod yn symud allan o'i ffordd. Mae'n awgrymu beth allai ddigwydd pan fyddwn ni’n peidio â bod yn ostyngedig, a dechrau credu’r hyn y mae eraill yn ei ddweud wrthym.

Llais 1: Dargyfeiriwch eich cwrs bum gradd i’r starbord. Rydych chi ar gwrs gwrthdrawiad gyda mi.

Llais 2: Wedi derbyn eich neges. Dargyfeiriwch chi eich cwrs ddeg gradd i’r port i osgoi gwrthdrawiad mawr.

Llais 1: Fi yw Capten Johnson y Llynges Frenhinol. Newidiwch eich cwrs.

Llais 2: Fi yw Bobby. Rwy’n awgrymu eich bod yn dargyfeirio eich cwrs ddeg gradd i’r port i osgoi gwrthdrawiad.

Llais 1: Rwyf yn uwch swyddog yn y llynges, yn cludo ac yn awdurdodi awyrennau rheoli mwyaf a mwyaf trawiadol Ei Mawrhydi. Newidiwch eich cwrs. Ymddengys nad ydych yn gwybod pwy ydw i, na pha mor eithriadol o ddig rwy’n dechrau teimlo. Dargyfeiriwch eich cwrs ar unwaith.

Llais 2: Dydw i ddim yn uwch swyddog yn y llynges. Dw i ddim ond yma i wneud yn siwr bod y goleudy unig hwn ar ynys yn y môr yn lân a bod pawb yn gallu gweld y goleuni, fel nad ydyn nhw’n cael damwain ar y creigiau. . .

Oedwch am ennyd o dawelwch dramatig  ar ddiwedd y sgwrs.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon