Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Camu i'r Anadnabyddus

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am y gwersi a gododd o hanes y daith gyntaf i’r gofod, a’u cymhwyso i’n bywyd bob dydd ni.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’ch cynulleidfa, ychydig dros hanner can mlynedd yn ôl, yn 1965, roedd rhywun yn mynd i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd yn y gofod. Fe fyddai’r cosmonot neu’r gofodwr o Rwsia, Alexi Leonov, y person cyntaf mewn hanes yn gadael llong ofod ac fe fyddai’n 'cerdded yn y gofod', a’r unig beth a fyddai’n ei warchod oedd siwt ofod, a honno heb gael ei phrofi yn y gofod.

  2. Dyma beth a ddigwyddodd (Dangoswch y ffilm os yw hi gennych chi, neu defnyddiwch yr addasiad hwn o’i eiriau fel a ganlyn):


    ‘Roedd yn deimlad anghyffredin. Doeddwn i erioed wedi teimlo'n debyg i hyn o'r blaen. Roeddwn i’n rhydd uwchben y blaned Daear ac roeddwn yn gallu gweld ei bod yn troelli'n fawreddog oddi tanaf.’

  3. Bu'r fenter yn llwyddiant arbennig, ond nid dyna’r stori gyfan. Roedd yr Undeb Sofietaidd, dan arweiniad Rwsia, yn hoffi cyflwyno popeth fel llwyddiant ysgubol; ni fyddai byth yn crybwyll ei methiannau.

    Fe wnaeth gwisg-ofod Alexi chwyddo fel balwn yng ngwagle'r gofod ac ni allai ddychwelyd i'r aerglo yn dilyn ei gerddediad deuddeg munud yn y gofod.  Mewn anobaith, fe ollyngodd beth o'r aer o'i wisg er mwyn ei gwneud yn llai swmpus, ond yna fe ddechreuodd golli’r teimlad yn ei gorff! Daeth yr hyn a elwir ‘y benz’ arno, sydd hefyd yn cael ei alw’n salwch datgywasgiad, y cyflwr y mae deifwyr mewn dyfroedd dwfn ar y ddaear yn gwybod yn iawn amdano.

    Fe lwyddodd i lusgo'i hun yn ôl trwy fynd â'i ben yn gyntaf i mewn i'r twnnel cul, ond yna roedd yn rhaid iddo droi rownd yn yr aerglo er mwyn cau'r gorddrws. Roedd wedi ymlâdd bron yn llwyr pan gyrhaeddodd o'r diwedd at ei orwedd-fainc.

    Ond roedd y trafferthion ymhell o fod drosodd yn achos Alexi a’i gydymaith Pavel. Achosodd nam i lefelau ocsigen godi yn y llong ofod, gan gynyddu'r perygl o dân; fe wrthododd y system awtomatig ail-fynediad weithredu ac ni lwyddodd capsiwl y criw i ddatgysylltu'n iawn oddi wrth weddill y llong ofod, gyda'r canlyniad eu bod yn cael eu hyrddio a’u sbinio i ganol gwres tanllyd yr ail-fynediad. Fe wnaethon nhw lanio yn Siberia, ymhell o'r fan lle'r oedden nhw fod i lanio, a gorfod treulio dwy noson mewn coedwig rewllyd gyda bleiddiaid ac eirth yn gwmni cyn iddyn nhw gael eu hachub gan gydweithwyr ar sgïau a hofrenyddion.

    Ond er gwaethaf yr holl sialensiau roedden nhw wedi llwyddo - roedden nhw wedi wynebu eu trafferthion a'u gorchfygu.

Amser i feddwl

Roedd y daith gerdded gyntaf yn y gofod yn llwyddiant; roedd yn gweithio, ond dim ond cael a chael oedd hi. Hwn oedd y man cychwyn, ac roedd llawer iawn i'w ddysgu eto er mwyn gwneud archwilio'r gofod yn y dyfodol yn fwy diogel.

Fe gymerodd ddewrder, hyfforddiant da, a'r gallu i gadw’n hunanfeddiannol yn ogystal â’r gallu i ddod o hyd i atebion i broblemau.

Efallai na fyddwch chi’n cerdded yn y gofod, o leiaf ddim heddiw, ond fe allwch chi weld sut y gallwch chi wneud defnydd o’r sgiliau hynny: bod yn ddewr, paratoi’n drylwyr, cadw’n hunanfeddiannol, a dod o hyd i ffordd o lwyddo beth bynnag fydd y problemau y byddwch yn eu hwynebu.

Cerddoriaeth

Llwythwch i lawr rywfaint o gerddoriaeth o ‘The Space Race’ gan Public broadcasting

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon