Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llond bowlen o Gynhaeaf

Gwasanaeth cynhaeaf iachus

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi ffynonellau o fwydydd y byddwn yn eu bwyta o ddydd i ddydd, a phwysigrwydd grawnfwydydd yn ein diet.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bowlen a llwy, llefrith a bocsys o rawnfwyd fel darnau Shredded Wheat bach, Weetabix, uwd,  Cornflakes neu rawnfwydydd cyflawn eraill.
  • Os yw hwn yn i fod yn wasanaeth dosbarth, fe allech chi baratoi ar ei gyfer drwy gymryd pleidlais o hoff rawnfwydydd y plant er mwyn sôn am hyn yng Ngham 6 y 'Gwasanaeth’, a chasglu delweddau o wahanol awgrymiadau gweini iachus.
  • Crëwch rai delweddau o wenith, ceirch neu gorn yn tyfu, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Mae sleidiau Powerpoint ar gael i gyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Cereals (2015)).

Gwasanaeth

  1. Rhowch groeso i bawb i’r gwasanaeth a gwahoddwch y plant i feddwl yn ôl am sut y dechreuodd eu diwrnod. Cyfeiriwch at bwysigrwydd bwyta brecwast i fod yn ‘danwydd’ i’r corff a’r meddwl, a rhoi egni i ni. Gwnewch sylw o’r ffaith fod brecwast i lawer o bobl, yn rhywbeth sy’n dod mewn bocs, a dyna’r cyfan!

  2. Arllwyswch ychydig o ddarnau Shredded Wheat bach neu rawnfwyd tebyg, i fowlen. Ychwanegwch lefrith a bwytewch lwyaid.

    Oedwch a gofynnwch, ‘Ydych chi wedi meddwl, ryw dro, fod brecwast yn fwy na dim ond rhywbeth sy’n dod mewn bocs? Eglurwch fod grawnfwydydd brecwast yn cael eu cynhyrchu o gnydau yd. Gweiriau sy’n cael eu tyfu er mwyn cynaeafu eu grawn yw’r cnydau yd.

  3. Dangoswch y delweddau o’r gwenith a’r cnydau eraill yn tyfu, ac yna dangoswch y delweddau eraill fel rydych chi’n symud ymlaen trwy’r gwasanaeth.

    Soniwch fel mae’r planhigion, pan fyddan nhw’n dechrau tyfu, yn edrych yn debyg iawn i wair. Ond wrth iddyn nhw dyfu’n dalach mae pen o rawn yn datblygu ar dop y gweiryn. Ym misoedd Gorffennaf ac Awst (ym Mhrydain) fe fydd y gwenith yn aeddfedu ac yn newid ei liw o wyrdd i liw euraidd. Ac ymhen amser, mae’n barod i’w gynaeafu.

  4. Fe fydd peiriant dyrnwr medi (combine harvesters) yn torri’r cnwd ac yn gwahanu’r grawn oddi wrth y ‘gwellt’ (coesyn y planhigyn) a’r ‘mân us’ (rhan allanol y gronyn). Caiff y gwenith ei gario o’r cae mewn trelars i’w storio’n sych a diogel, ac  yna ei werthu. Wedyn, fe fydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu grawnfwydydd brecwast, fel Weetabix neu Shredded Wheat.

  5. Cyflwynwch fathau eraill o rawnfwydydd, ac eglurwch sut maen nhw hefyd yn cael eu gwneud o fathau eraill o rawn. Mae gan bob grawn gwahanol ei nodweddion ei hun. Caiff ceirch ei ddefnyddio i wneud uwd, caiff corn ei ddefnyddio i wneud cornflakes. Math arall o rawn yw reis, a chaiff cynnyrch brecwast o fath arall fel rice krispies ei wneud â reis.

  6. Cyflwynwch arolwg barn a gasglwyd gennych o hoff rawnfwyd brecwast y plant, neu lluniwch arolwg cyflym gyda’r plant ar y pwynt hwn. Rhannwch syniadau am awgrymiadau gweini iachus, drwy ychwanegu gwahanol ffrwythau ffres ac ati at y grawnfwyd.

  7. Dewch i gasgliad trwy ddweud, ‘Felly mae brecwast yn ein hatgoffa bod cnydau yd yn hanfodol ar gyfer diet iachus. Mae grawnfwydydd yn gallu darparu llawer o egni i’r corff. Pa fath bynnag o rawnfwyd brecwast rydyn ni’n eu mwynhau, a pha ffordd bynnag y bydd yn cael ei weini, gadewch i ni fod yn ddiolchgar am lond bowlen o gynhaeaf!’

Amser i feddwl

Yn arbennig ar gyfer Ysgolion Eglwys fe allech chi adrodd neu ganu detholiad o adnodau o Salm 104, (fel y canlynol allan o’r Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig 2004).

OArglwydd fy Nuw, mawr iawn wyt ti. (adnod 1)

Yr wyt yn dyfrhau’r mynyddoedd o’th balas; digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth. Yr wyt yn gwneud i’r gwellt dyfu i’r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o’r ddaear, a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio’u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau. (adnodau 13-15)

Mor niferus yw dy weithredoedd, O Arglwydd!Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae’r ddaear yn llawn o'th greaduriaid. (adnod 24)

Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd; pan agori dy law, cânt eu diwallu’n llwyr. (adnod 28)

Canaf i’r Arglwydd tra byddaf fyw, rhof foliant i Dduw tra byddaf. (adnod 33)

Neu fe allech chi adrodd y weddi ganlynol.

Gweddi
Dduw’r Creawdwr,
Diolch i ti am y gwahanol rawnfwydydd rydyn ni’n eu mwynhau.
Helpa ni i ddechrau pob diwrnod newydd trwy fod yn ddiolchgar.
Amen.

Neu, os hoffech chi, fe allech chi adrodd y weddi hon.

Annwyl Arglwydd Dduw,
Gad i ni fod yn ddiolchgar am y gwahanol rawnfwydydd rydyn ni’n eu mwynhau.
Gad i ni ddechrau pob diwrnod newydd trwy fod yn ddiolchgar.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Fe allwch chi addasu’r penillion hyn fel y mynnwch, a chynnwys grawnfwydydd brecwast iachus eraill os dymunwch.

Amser brecwast, Amser brecwast
Krispies reis, Krispies reis
Hoffech chi fowlenaid? Hoffech chi fowlenaid?
Maen nhw’n neis, maen nhw’n neis.

Cornflakes crensiog, cornflakes crensiog
Shredded Wheat, Shredded Wheat
Weetabix ac uwd, Weetabix ac uwd -
Maen nhw’n dda i ni i gyd.

Amser cynhaeaf, amser cynhaeaf
Grawn a ffrwythau da, grawn a ffrwythau da
Yn tyfu yn yr heulwen, tyfu yn yr heulwen,
a’r dafnau glaw, yn yr haf.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon