Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diolch am y Cynhaeaf

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog meddwl am o ble mae bwyd yn dod, a diolch i Dduw amdano.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai delweddau i’w dangos yn ystod Cam 2 y gwasanaeth, a’r modd o’u dangos (dewisol). Gwelwch, er enghraifft, y darluniau ar y wefan Grain Chain ar: http://tinyurl.com/nblxwmk
  • Efallai yr hoffech chi hefyd fod â delwedd i’w harddangos wrth i chi ddarllen yr adnodau o Salm 65 yng Ngham 3 y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud bod ein thema heddiw'n ymwneud â’r cynhaeaf, a'ch bod yn mynd i ddechrau drwy ofyn dau gwestiwn. Gofynnwch i'r plant droi at y person nesaf atyn nhw a thrafod y ddau gwestiwn.

    - Faint o bethau allwch chi feddwl amdanyn nhw sy'n tyfu o hadau?
    - Beth sydd ar hadau ei angen i dyfu?

    Gwrandewch ar rai o'u hatebion.

  2. Diolchwch i'r plant am eu hatebion da, a dywedwch fod gennych ddau gwestiwn arall i'w gofyn iddyn nhw.

    - Pwy gafodd fara neu dost i frecwast bore heddiw?
    - Pwy sydd gan frechdanau neu roliau bara ar gyfer eu pryd bwyd ganol dydd heddiw?

    Gwnewch sylw y bydd llawer ohonom yn bwyta bara ar ryw adeg o’r dydd, ond ychwanegwch nad ydym yn oedi'n aml i feddwl sut daeth y bara hwn i'n dwylo. Dywedwch fod hynny o bosib wedi digwydd rhywbeth yn debyg i hyn.

    Dangoswch y lluniau oddi ar ‘Grain Chain’ (ar: <http://tinyurl.com/nblxwmk>), os byddwch yn eu defnyddio.

    Mae'r ffarmwr yn aredig y cae fel bod y tir yn barod i blannu'r had.
    Mae'r ffarmwr yn defnyddio peiriant i blannu'r hadau mewn tyllau bach yn y pridd.
    Mae'r hadau'n tyfu’n blanhigion. Maen nhw angen glaw a heulwen i wneud iddyn nhw dyfu.
    Pan fydd y planhigion yn ddigon mawr, bydd y ffarmwr yn eu cynaeafu.
    Bydd y gwenith y mae'r ffarmwr wedi ei gasglu yn cael ei gludo i'r felin i'w falu'n flawd.
    Mae'r pobydd yn defnyddio'r blawd i wneud bara.
    Caiff y bara ei anfon i'r siopau wedyn.
    Mae siopwyr fel ni yn prynu'r bara ac yn ei fwyta fel tost neu frechdanau.

  3. Eglurwch ei fod yn beth da meddwl o ble daw ein bwyd, a bod yn ddiolchgar amdano. Soniwch ein bod yn cael ein hatgoffa droeon yn y Beibl fod Duw’n darparu llawer o bethau da ar ein cyfer ac y dylen ni gofio dweud 'Diolch' wrtho am hyn. Yn Llyfr y Salmau, yn rhan yr Hen Destament o'r Beibl, gallwn ddarllen Salm 65 (adnodau 9-13), sy'n ein hatgoffa sut y mae Duw yn darparu ar ein cyfer.

    Dangoswch lun y gwenith (i’w gael at:http://tinyurl.com/nmrd5mh), os byddwch yn ei ddefnyddio.

    Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,
    gwnaethost hi’n doreithiog iawn;
    y mae afon Duw’n llawn o ddwr;
    darperaist iddynt yd.
    Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:

    dyfrhau ei rhychau, gwastatau ei chefnau,
    ei mwydo â chawodydd,
    a bendithio’i chnwd.
    Yr wyt yn coroni’r flwyddyn â’th ddaioni,
    ac y mae dy lwybrau’n diferu gan fraster.
    Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,
    a’r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;
    y mae’r dolydd wedi eu gwisgo â defaid,
    a’r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag yd.
    Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.

(allan o’r Beibl Cymraeg Newydd Argraffiad Diwygiedig 2004)

Amser i feddwl

Pan fyddwch chi yn y Dosbarth Derbyn neu ym Mlwyddyn 1 neu 2, rydych chi’n eithaf bach mewn difrif - yn debyg iawn i hedyn! Mae gennych daith go faith o'ch blaen cyn y byddwch yn oedolyn ac, yn union fel y gwnaeth llawer o bobl i helpu'r had i ddod yn dorth o fara, mae Cristnogion yn credu bod Duw yn defnyddio llawer o wahanol bobl i'ch helpu chi ar eich taith cyn i chi ddod yn oedolyn. Rhowch eich dwylo i fyny os gallwch chi feddwl am rai pobl y mae Duw yn ei ddefnyddio i'ch helpu chi?

Felly, rwy'n credu fod gennym ni dipyn go lew o bethau y gallwn ni ddweud ‘Diolch’ wrth Dduw amdanyn nhw heddiw. Fe allwn ni ddweud 'Diolch' tymhorol i Dduw am helpu'r hadau dyfu'n fwyd y gallwn ni fwynhau ei fwyta, ac fe allwn ni ddweud 'Diolch' eto am yr holl bobl sy'n ein helpu ni i dyfu dipyn mwy bob blwyddyn.

Gweddi
Annwyl Dduw,

Diolch dy fod ti yn dangos dy ofal am y tir drwy anfon glaw a'r haul i wneud i’r planhigion dyfu.

Diolch i ti am yr holl bobl, yn y cartref ac yn yr ysgol, sy'n ein helpu ni i dyfu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon