Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cerdded ar ddwr ac mewn dwr

Gwlychu (a pheidio â gwlychu)

gan the Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog meddwl am Iesu fel brenin a gwas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl sydd i’w chael yn Efengyl Mathew 14.22-33, sy’n sôn am yr adeg y cerddodd Iesu ar y dwr. Hefyd y darn allan o Efengyl Ioan 13.1-1, sy’n sôn am yr adeg pan wnaeth Iesu olchi traed ei ddisgyblion.
  • Fe fydd arnoch chi angen bowlen, fel bowlen olchi llestri, gyda dwr cynnes ynddi, tywel a chadair.
  • Fe allech chi actio stori gyntaf y gwasanaeth, neu ddefnyddio Beibl lluniau, neu ddangos delweddau i ddarlunio’r stori.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o swn tonnau’n torri ar lan, a’r modd o’i chwarae yn ystod yr adran ‘Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch drwy adrodd yn fyr, ac yn briodol ar gyfer oedran y plant, y stori sydd i’w chael yn Efengyl Mathew 14.22-33, sef hanes Iesu’n cerdded ar y dwr. Fe allech chi ddefnyddio’r addasiad hwn o destun y Beibl. Actiwch y stori, a defnyddiwch ddelweddau y gwnaethoch chi benderfynu eu defnyddio yn dilyn eich gwaith paratoi.

    Iesu’n cerdded ar y dwr

    Ar unwaith fe ddywedodd Iesu wrth y disgyblion am fynd i'r cwch a hwylio o’i flaen i'r ochr arall, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd. Ac ar ôl iddo ollwng y tyrfaoedd, aeth i fyny'r mynydd ar ei ben ei hun i weddïo. Pan ddaeth hi'n nos, roedd Iesu yno ar ei ben ei hun, ond erbyn yr adeg honno roedd y cwch, a oedd yn cael ei hyrddio gan y tonnau, ymhell o'r tir, gan fod y gwynt yn eu herbyn. Ac yn gynnar yn y bore daeth Iesu tuag atynt gan gerdded ar y llyn. Ond pan welodd y disgyblion Iesu’n cerdded ar y llyn, daeth arswyd drostynt, ac roedden nhw’n dweud, ‘Ysbryd ydyw!’ A dyma nhw'n gweiddi mewn ofn. Ond ar unwaith, fe siaradodd Iesu â nhw gan ddweud, ‘Codwch eich calon, myfi yw; peidiwch ag ofni.’

    Atebodd Pedr Iesu fel hyn, ‘Arglwydd, os mai ti ydyw, gorchymyn i mi ddyfod atat ar y dwr.’ Fe ddywedodd yntau, ‘Tyrd.’ Felly aeth Pedr allan o'r cwch, dechreuodd gerdded ar y dwr tuag at Iesu. Ond pan sylwodd ar gryfder y gwynt, daeth ofn arno, a chan ddechrau suddo, fe waeddodd, ‘Arglwydd, arbed fi!’ Ar unwaith estynnodd Iesu ei law ato a'i dal, a dweud wrtho, ‘Ti o ychydig ffydd, pam y gwnest ti amau?’ Pan ddaeth y ddu yn ôl i'r cwch, gostegodd y gwynt. Ac addolodd y rhai oedd yn y cwch Iesu, gan ddweud, ‘Yn wir, Mab Duw wyt ti.’

  2. Gofynnwch am wirfoddolwr i geisio cerdded ar y dwr mewn dysgl olchi llestri.  (Bydd ef neu hi, wrth gwrs, yn gorfod tynnu ei esgidiau a'i sanau oddi ar ei draed, torchi godre’r trowsus os oes angen, ac yn y blaen.)

    Pan fydd y gwirfoddolwr yn methu cyflawni'r dasg, rhowch ganmoliaeth iddo/iddi wrth gwrs, a byddwch yn dosturiol!

    Defnyddiwch dywel i sychu traed y gwirfoddolwr neu gadewch iddo ef neu hi wneud hynny ei hunan.

  3. Yna ewch ymlaen i sôn am yr adeg pan wnaeth Iesu olchi traed ei ddisgyblion. Adroddwch y stori, sydd yn cynnwys yr adnodau yn Ioan 13.1-11, gan ddefnyddio'r testun canlynol (o'r Beibl Cymraeg Diwygiedig, 2004) neu eich testun eich hun, gan egluro y byddai traed y disgyblion o bosib yn llychlyd iawn ac yn fudr, felly gofynnwch i'r plant pam, yn ôl eu tyb hwy, y gwnaeth Iesu hyn.

    Iesu’n golchi traed y disgyblion

    Ar drothwy gwyl y Pasg, yr oedd Iesu’n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â’r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru’r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe’u carodd hyd yr eithaf. Yn ystod swper, pan oedd y diafol eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas fab Simon Iscariot y bwriad i’w fradychu ef, dyma Iesu, ac yntau’n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dod oddi wrth Dduw a’i fod yn mynd at Dduw, yn codi o’r swper ac yn rhoi ei wisg o’r neilltu, yn cymryd tywel ac yn ei glymu am ei ganol. Yna tywalltodd ddwr i’r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel oedd am ei ganol. Daeth at Simon Pedr yn ei dro ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?” Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.” Meddai Pedr wrtho. “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.” “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “Y mae’r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.” Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”

  4. Archwiliwch y syniad am Iesu fel gwas mewn perthynas â’r darn allan o Efengyl Ioan, a sut y mae'n gosod yr esiampl y mae am i ni ei dilyn, o fod yn garedig a chymwynasgar.

Amser i feddwl

Chwaraewch y recordiad o swn tonnau’n torri ar y lan.

Ar ôl moment neu ddwy, gofynnwch i’r plant a fydden nhw’n barod i olchi traed eu ffrindiau.

Atgoffwch y plant bod Cristnogion yn credu bod angen i ni fod yn gymwynasgar a gofalu am ein gilydd. Gofynnwch, 'Beth fydden ni’n gallu ei wneud i rywun arbennig, neu i bobl eraill yn gyffredinol, heddiw?'

Gadewch y recordiad i chwarae a gofynnwch i’r plant ymadael â’r gwasanaeth yn dawel.

Effeithiau sain ychwanegol

Recordiad o swn tonnau’n torri ar y lan.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon